Casgliadau i gloi ICESCR 2025, paragraff 11
Argymhelliad Cymreig clir
Dylai’r Llywodraeth:
(a) Cyflwyno cyfreithiau sy’n gwneud i fusnesau wirio am gamdriniaethau hawliau dynol a’u hatal ar draws eu gwaith (diwydrwydd dyladwy), gan gynnwys mewn sefydliadau y maent yn gweithio gyda nhw. Dylai’r gyfraith hon sicrhau bod cwmnïau’n cael eu hystyried yn gyfrifol os ydynt yn torri hawliau economaidd, cymdeithasol neu ddiwylliannol pobl, a dylai hefyd sicrhau bod gan ddioddefwyr, gan gynnwys pobl nad ydynt yn ddinasyddion, fynediad effeithiol at rwymedïau. Dylid gwneud hyn yn unol â chyngor y CU ar rwymedigaethau llywodraeth yng nghyd-destun busnes. Fel blaenoriaeth, dylai’r llywodraeth ei gwneud yn ofynnol i ddiwydrwydd dyladwy hawliau dynol gael ei gynnal mewn diwydiannau sydd wedi achosi problemau neu bryderon mewn gwledydd eraill, yn enwedig yn y sectorau ariannol a bancio;
(b) Diweddaru’r Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar Fusnes a Hawliau Dynol, gan ystyried canllawiau 2016 ar gynlluniau gweithredu cenedlaethol ar fusnes a hawliau dynol a wnaed gan Weithgor y Cenhedloedd Unedig ar hawliau dynol a chorfforaethau trawswladol a mentrau busnes eraill.
Original UN recommendation
Recalling its previous recommendation, the Committee urges the State Party, along with the devolved governments of Northern Ireland, Scotland and Wales:
(a) To establish a legal framework requiring businesses to conduct human rights due diligence, ensuring accountability for violations of economic, social and cultural rights in their operations and supply chains, both domestically and abroad, and guaranteeing effective access to remedies for victims, including non-nationals in the State Party, and to be guided by the Committee’s general comment No. 24 (2017) on State obligations under the Covenant in the context of business activities. As a matter of priority, the State Party should require mandatory human rights due diligence in sectors that have caused extraterritorial impacts and concerns, particularly the financial and banking services;
(b) To update its National Action Plan on Business and Human Rights, taking into account the 2016 guidance on national action plans on business and human rights of the Working Group on the issue of human rights and transnational corporations and other business enterprises.
Date of UN examination
12/03/2025
Original UN document
Lawr lwytho casgliadau i gloi gwreiddiol 2025 y ICESCR ar wefan y CU.
Diweddarwyd ddiwethaf ar 21/08/2025