Fframwaith cyfreithiol cydraddoldeb a hawliau dynol – asesu Llywodraeth Cymru
Cynnydd cyfyngedig
Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol, ond mae tystiolaeth gyfyngedig iawn o welliannau parhaus o ran mwynhad hawliau dynol ar y mater hwn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gryfhau’r fframwaith cydraddoldeb a hawliau dynol, gan gynnwys trwy ystyried ymgorffori cyfraith hawliau dynol rhyngwladol. Fodd bynnag, ceir tystiolaeth gyfyng o ganlyniadau cadarnhaol parhaol i bobl Cymru.
- Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ystyried ymgorffori cyfraith hawliau dynol rhyngwladol i ddeddfwriaeth ddomestig yn gadarnhaol. Hyd yma, ni cheir unrhyw fanylion ynghylch sut y byddai hyn yn cael ei symud ymlaen yn ymarferol.
- Roedd Deddf y Coronafeirws 2020, a gyflwynwyd fel deddfwriaeth dros dro er mwyn gwarchod bywydau, yn cynnwys darpariaethau a oedd yn gwanhau amddiffyniadau hawliau dynol yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys cael gwared ar ddyletswydd awdurdodau lleol i gwrdd â gofynion oedolion oedd angen gofal a chefnogaeth; fodd bynnag, ni wnaeth Llywodraeth Cymru gydsynio i gael gwared ar ddyletswyddau oedd yn ymwneud â gofal a chefnogaeth i blant.
- Er bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi datganiadau yn esbonio sut bod modd cyfiawnhau unrhyw ymyriadau â hawliau dynol yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws) (Cymru), nid yw wedi cynhyrchu asesiadau o effaith ar gydraddoldeb (fel sy’n ofynnol o dan Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011) nac asesiadau o effaith ar blant (fel sy’n ofynnol o dan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.)
- Nid oes mecanwaith monitro hawliau dynol yn Llywodraeth Cymru i fonitro cynnydd a sicrhau bod argymhellion y Cenhedloedd Unedig yn cael eu gweithredu.
- Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod fframwaith ar gyfer gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yng Nghymru ac ystyried effaith hirdymor penderfyniadau. Mae potensial iddi gyfoethogi’r fframwaith hawliau dynol sydd eisoes yn bodoli, ond nid yw’r Ddeddf yn cryfhau unioni hawliau dynol nac yn manylu ynghylch materion hawliau dynol y dylid gweithredu yn eu cylch. Canfu Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2020 bod y rhan fwyaf o gyrff cyhoeddus yn gwneud cynnydd wrth gyflwyno’r Ddeddf, ond bod angen i’r Ddeddf gael ei hymwreiddio ymhellach.
- Fe ymgorfforodd Llywodraeth Cymru yr angen i roi ystyriaeth briodol i hawliau plant ym Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Daeth gwaith ymchwil yn 2018 i’r casgliad i’r Mesur gael effaith ar sut yr ystyrir hawliau plant wrth ddatblygu polisi, ond ceir gweithredu anghyson o oblygiadau’r Mesur gan Lywodraeth Cymru o hyd. Ni chafwyd unrhyw achosion cyfreithiol llwyddiannus a’i ddefnyddiodd fel sail i herio penderfyniadau yng Nghymru ychwaith.
- Ceir pryderon bod nifer o gyrff cyhoeddus yng Nghymru yn parhau’n aneglur ynglŷn â pherthnasedd y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol a sut i’w symud ymlaen.
- Yn dilyn yr Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywedd yn 2019, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i symud argymhellion yn eu blaen er mwyn cryfhau hawliau dynol ac amddiffyniadau cydraddoldeb yng Nghymru.
Darllenwch ragor ynglŷn â chamau gweithredu Llywodraethau’r DU a Chymru parthed y fframwaith cyfreithiol cydraddoldeb a hawliau dynol.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 10/12/2022