Fframwaith cyfreithiol cydraddoldeb a hawliau dynol – asesu Llywodraeth y DU

Asesiad cynnydd

Cam yn ôl

Gwelwyd cam cyson neu ddifrifol yn ôl o ran mwynhad hawliau dynol, neu leihad arwyddocaol mewn safonau hawliau dynol neu amddiffyniadau dan y gyfraith neu bolisi

Mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod sawl argymhelliad i gryfhau deddfwriaeth cydraddoldeb a hawliau dynol, gan gynnwys cyflwyno’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn Lloegr ac ymgorffori hawliau cytuniad rhyngwladol i gyfraith ddomestig. Os yw Bil y Bil Hawliau’n symud yn ei flaen fel cafodd ei ddrafftio’n flaenorol, byddai’n gwanhau yn sylweddol amddiffyniadau hawliau dynol a mynediad i gyfiawnder. Mae cadarnhad Confensiwn Istanbul yn gam cadarnhaol, er bod gennym bryderon bod amod wedi’i greu sy’n cyfyngu ar y warchodaeth i fenywod mudol.   

  • Mae Bil Hawliau Llywodraeth y DU wedi diddymu a chymryd lle’r Ddeddf Hawliau Dynol. Cafodd y Bil ei oedi ar 7 Medi 2022. Fe fynegom bryderon y gallai’r Bil, fel yr oedd wedi’i ddrafftio’n flaenorol, wanhau amddiffyniadau hawliau dynol a lleihau mynediad i iawn am dramgwyddo hawliau dynol.
  • Wrth gymryd y cam pwysig i gadarnhau Confensiwn Istanbul, mae Llywodraeth y DU wedi cytuno i gael ei rwymo o dan gyfraith ryngwladol i gwrdd â goblygiadau’r Confensiwn mewn perthynas ag atal trais yn erbyn menywod a merched a gwarchod dioddefwyr. Dylai Llywodraeth y DU ystyried yn ofalus oblygiadau parhau ei amheuon o erthyglau 44(3) a 59 o’r Confensiwn, yn enwedig er mwyn sicrhau amddiffyniad effeithiol i ddioddefwyr mudol.
  • Fe wnaeth Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 eithrio Siarter Hawliau Sylfaenol yr UE o gyfraith ddomestig, gan arwain at golli rhai amddiffyniadau, gan gynnwys yr hawl annibynnol i driniaeth gyfartal.
  • Mae Llywodraeth y DU wedi cynnal ei safle i beidio ag ymgorffori cytuniadau hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig i gyfraith ddomestig, a fyddai’n gwneud yr hawliau hynny’n orfodadwy yn llysoedd y DU, er bod nifer o hawliau cytuniadau’r Cenhedloedd Unedig yn cael eu hadlewyrchu mewn deddfwriaeth ddomestig.
  • Fe arweiniodd Deddf y Coronafeirws 2020 at newidiadau arwyddocaol yn fframwaith gyfreithiol y DU. Er iddi gael ei chyflwyno fel deddfwriaeth dros dro er mwyn gwarchod bywydau, bu’n destun craffu cyfyngedig ac roedd yn cynnwys darpariaethau a oedd, o’u gweithredu, yn gwanhau amddiffyniadau hawliau dynol.
  • Mae Llywodraeth y DU wedi mynegi na fydd yn dod â’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol, a gyflwynwyd gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, i rym yn Lloegr. Mae’r ddyletswydd yn gofyn i gyrff cyhoeddus, wrth wneud penderfyniadau strategol, ystyried sut gallai eu penderfyniadau fod o gymorth i leihau anghydraddoldebau sy’n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol.
  • Mae Adran 106 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, sy’n ei gwneud yn ofynnol i bleidiau gwleidyddol gyhoeddi gwybodaeth ynghylch amrywiaeth eu hymgeiswyr, yn parhau heb ei chyflwyno.
  • Ym mis Hydref 2019, fe wrthododd Llywodraeth y DU ‘ddyletswyddau penodol’ Deddf Cydraddoldeb 2010 ar gyfer Lloegr o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, yn dilyn argymhelliad gan y Pwyllgor Menywod a Chydraddoldebau i wneud y dyletswyddau’n fwy strategol. Bwriedir bod y dyletswyddau penodol yn galluogi gwell cydymffurfiaeth â’r ddyletswydd gyffredinol.
  • Ym mis Gorffennaf 2018, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei fwriad i ddiddymu Adran 9(5)(a) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, sy’n ei gwneud yn ofynnol i weinidogion ddiwygio diffiniad statudol hil i gynnwys dosbarth. Mae’r penderfyniad yn gadael dioddefwyr gwahaniaethu ar sail dosbarth ag amddiffyniad cyfreithiol cyfyngedig.
  • Mae Llywodraeth y DU wedi cynnal ei safbwynt nad oes tystiolaeth ddigonol i gyfiawnhau cyflwyno Adran 14 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, sy’n gwahardd gwahaniaethu deuol.
  • Ym mis Medi 2020, fe gyhoeddodd ymateb Llywodraeth y DU i’w ymgynghoriad yn 2018 ar Ddeddf Cydnabod Rhywedd 2004 gamau i’w croesawu er mwyn symud y system ar-lein a lleihau’r ffi ymgeisio am dystysgrif cydnabod rhywedd (GRC) i £5, ond fe benderfynodd yn erbyn galluogi pobl draws i gael GRC heb ddiagnosis o ddysfforia rhywedd a thystiolaeth eu bod wedi byw yn eu rhywedd o ddewis am ddwy flynedd.
Darllenwch ragor ynglŷn â chamau gweithredu Llywodraethau’r DU a Chymru parthed y fframwaith cyfreithiol cydraddoldeb a hawliau dynol.

Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 10/12/2022