Byw’n annibynnol – asesiad Llywodraeth y DU
Cam yn ôl
Gwelwyd cam cyson neu ddifrifol yn ôl o ran mwynhad hawliau dynol, neu leihad arwyddocaol mewn safonau hawliau dynol neu amddiffyniadau dan y gyfraith neu bolisi
Mae yna rwystrau cyson yn effeithio ar hawl pobl anabl i fyw’n annibynnol yn rhan o’r gymuned. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyflwyno cynigion i drawsnewid cyllid ar gyfer gofal cymdeithasol oedolion. Fodd bynnag, mae nifer gynyddol o oedolion anabl a hŷn yn methu cael y gefnogaeth maent angen gartref neu yn y gymuned. Mae yna brinder cartrefi hygyrch ac, er gwaethaf nifer o ymroddiadau, mae cyfraddau cadw ar gyfer pobl gyda chyflyrau iechyd meddwl, anableddau dysgu ac awtistiaeth yn dal i fod yn uchel. Mae’r pandemig coronafeirws (COVID-19) wedi effeithio’n anghymesur ar bobl anabl ac wedi creu rhwystrau atodol i gyfranogiad cyfartal pobl anabl mewn cymdeithas. Roedd y Strategaeth Anabledd Cenedlaethol yn cynnwys nifer o ymrwymiadau a fwriadwyd i wella bywydau pobl anabl o ddydd i ddydd, er ei bod yn rhy fuan i asesu effaith yr ymrwymiadau hyn.
- Mae yna ddiffyg parhaol o gartrefi hygyrch. Yn 2019, nid oedd 91% o gartrefi yn Lloegr yn darparu’r pedwar nodwedd sy’n ofynnol i’w gwneud yn ‘ymweladwy’ i’r mwyafrif o bobl, yn cynnwys defnyddwyr cadeiriau olwyn.
- Cynyddodd yr achosion o gadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl (MHA) rhwng 2017–18 a 2019–20. Mae papur gwyn Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar ddiwygio’r MHA yn cynnwys cynigion i wella dewis a rheolaeth, a allai, os bydd wedi ei weithredu’n gywir a gydag adnoddau priodol, arwain at ddull sy’n sylweddol fwy seiliedig ar hawliau dynol.
- Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi methu bodloni ei dargedau a osodwyd yn ei rhaglen o 2015 Transforming Care. Yn Awst 2021 roedd yna 2,040 o bobl gydag anableddau dysgu neu awtistiaeth yn dal i fod mewn unedau cleifion preswyl yn Lloegr, ac roedd 56% wedi eu cadw ers dros ddwy flynedd. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi sefydlu bwrdd cyflawni dan arweiniad gweinidog i oruchwylio cynnydd ac wedi ymroi i gyhoeddi cynllun gweithredu manwl.
- Cyn y pandemig, roedd gofal cymdeithasol oedolion eisoes dan gryn bwysau oherwydd y cynnydd mewn galw a lleihad arwyddocaol mewn cyllid i’r llywodraeth. Cynyddodd ceisiadau ar gyfer gofal cymdeithasol oedolion 6.6% rhwng 2015–16 a 2019–2020, ond derbyniodd 13,680 yn llai o bobl gefnogaeth yn ystod y cyfnod hwn.
- Er na fu defnydd helaeth o’r llacio ar fesurau’r Ddeddf Gofal yn Lloegr, mae tystiolaeth fodd bynnag fod darpariaeth gofal cymdeithasol wedi lleihau’n arwyddocaol yn ystod y pandemig. Ynghyd â chynnydd mewn galw, mae gan hyn oblygiadau eang ar gyfer mwynhad o’r hawl i fyw’n annibynnol.
- Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi trefniadau ariannu newydd ar gyfer gofal cymdeithasol oedolion, a fydd yn lleihau faint mae’n rhaid i rai pobl dalu mewn costau gofal. Fodd bynnag, mae’n rhy fuan i asesu goblygiadau’r diwygiadau hyn ar gyllid gofal cymdeithasol tymor hwy.
- Yn ystod camau cynnar y pandemig, roedd yna nifer anghymesur o farwolaeth gysylltiedig i COVID-19 ymysg pobl gydag anableddau dysgu neu awtistiaeth sy’n cael mynediad i ofal.
- Yng nghamau cynnar y pandemig, roedd pobl anabl yn ei chael yn anodd cael mynediad at fwyd a hanfodion eraill ar sail gyfartal i eraill, gyda phryderon ynghylch methiant archfarchnadoedd i ddarparu gwasanaethau hygyrch, yn y siop ac ar-lein.
- Mae ymrwymiadau yn Strategaeth Anabledd Cenedlaethol Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cynnwys gofyn i landlordiaid wneud addasiadau rhesymol i rannau cyffredin eiddo, cyflwyno cyhoeddiadau clywedol ar fysiau, ac adolygu sut mae’r llywodraeth yn ymgysylltu gyda phobl anabl. Fodd bynnag, mae’n rhy fuan i asesu effaith y strategaeth ar wireddiad hawliau anabledd.
- Mae yna adolygiad barnwrol yn mynd rhagddo ynghylch methiant Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ymgynghori’n ffurfiol ar ddatblygiad y strategaeth anabledd cenedlaethol.
- Nid yw’r hawl i fyw’n annibynnol wedi ei ymgorffori’n llawn mewn cyfraith ddomestig ar hyn o bryd yn Lloegr.