Gwaharddiadau o ysgolion a rheoli ‘ymddygiad heriol’ – camau gweithredu’r Llywodraeth
Camau gweithredu Llywodraeth y DU:
- Ym mis Medi 2022, daeth canllawiau diwygiedig yr Adran Addysg (DfE) ar ymddygiad mewn ysgolion ac ar ataliadau a gwaharddiadau parhaol i rym yn Lloegr, yn dilyn ymgynghoriad ynghynt yn y flwyddyn.
- Ym mis Awst 2022, rhoddodd y DfE wybod i ni am gynlluniau i leihau’r defnydd o ataliaeth mewn ysgolion yn Lloegr. Mae ymrwymiadau’n cynnwys canllawiau diwygiedig, cofnodi mandadol ac adrodd am ataliaeth corfforol wrth rieni, a sicrhau bod gan bob ysgol bolisi yn ymdrin ag ataliaeth sy’n amlinellu’r trefniadau ar gyfer cofnodi a monitro.
- Ym mis Mawrth 2022, fe lansiodd y DfE ymgynghoriad ar y system anghenion addysgol arbennig ac anableddau a darpariaeth amgen yn Lloegr. Ynghyd â diwygiadau eraill, mae’r system newydd yn anelu i leihau’r nifer o waharddiadau y gellid eu hosgoi.
- Ym mis Mawrth 2022, fe gyhoeddodd y DfE bapur gwyn ar ysgolion. Roedd hwn yn amlinellu eu bwriad i ymgynghori ar fframwaith statutol i sicrhau bod penderfyniadau ynghlylch lleoliadau yn cael eu gwneud er budd y plentyn bob amser.
- Ym mis Chwefror 2020, fe lansiodd y DfE raglen ‘hwb ymddygiad’ tair blynedd, gan ddarparu cyllid o £10 miliwn i gefnogi ysgolion i wella rheoli ymddygiad yn Lloegr.
- Ym mis Medi 2019, daeth fframwaith arolygu addysg y Swyddfa Safonau mewn Addysg (Ofsted) i rym yn Lloegr. Mae’r fframwaith yn ei gwneud hi’n glir nad yw ‘dadrolio’, sef tynnu plant oddi ar gofrestr yr ysgol yn answyddogol heb eu gwahardd yn ffurfiol, yn dderbyniol mewn unrhyw ffurf.
- Ym mis Mai 2019, cyhoeddwyd yr adolygiad Timpson o Waharddiadau Ysgolion. Cafodd yr adolygiad ei gomisiynu yn 2018 er mwyn ystyried pam bod rhai grwpiau o blant yn fwy tebygol o gael eu gwahardd nag eraill, gan gynnwys plant o grwpiau ethnig penodol.
- Ym mis Mawrth 2018 cyhoeddodd Ofsted ganllawiau i arolygwyr yn Lloegr ynghylch gwerthuso’r defnydd, y math a’r dulliau cofnodi yn ymwneud ag arferion cyfyngol yn ystod arolygon o ysgolion a lleoliadau gofal cymdeithasol.
Camau Gweithredu Llywodraeth Cymru: Mae Addysg wedi ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru.
- Ym mis Ebrill 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru’r Fframwaith ar gyfer lleihau arferion cyfyngol, gyda’r bwriad o fynd i’r afael â’r defnydd o arferion megis ataliaeth mewn lleoliadau gofal plant, addysg, iechyd a gofal cymdeithasol.
- Ym mis Hydref 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau ar gyfer cefnogi dysgwyr agored i niwed a dan anfantais. Mae’r canllaw yn cynghori ysgolion i osgoi gwaharddiadau ac yn nodi bod rheoliadau newydd yn cael eu paratoi.
- Ym mis Medi 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau a oedd yn caniatáu cyfarfodydd yn ymwneud â gwaharddiadau ysgolion i gael eu cynnal o bell mewn ymateb i’r pandemig coronofeirws (COVID-19).
- Ym mis Tachwedd 2019, fe ddiweddarodd Llywodraeth Cymru ei ganllawiau ar waharddiadau a gweithdrefnau apelio i ysgolion prif ffrwd ac unedau cyfeirio disgyblion (PRUau).
- Ym mis Medi 2019, fe ddiweddarodd Llywodraeth Cymru ei fframwaith gweithredu er mwyn gwella darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol, yn enwedig unedau cyfeirio disgyblion. Mae’r fframwaith yn cynnwys ymrwymiad i ddadansoddi data cofrestru a gwahardd disgyblion.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 10/12/2022