Gwaharddiadau o ysgolion a rheoli ‘ymddygiad heriol’ – asesu Llywodraeth y DU

Asesiad cynnydd

Cynnydd cyfyngedig

Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol, ond mae tystiolaeth gyfyngedig iawn o welliannau parhaus o ran mwynhad hawliau dynol ar y mater hwn.

Mae Llywodraeth y DU wedi cymryd camau sydd i’w croesawu er mwyn mynd i’r afael â bylchau yn y polisi a’r fframwaith bresennol sy’n rheoli’r defnydd o waharddiadau yn Lloegr. Mae grwpiau â nodweddion gwarchodedig penodol yn parhau’n anghymesur fwy tebygol o gael eu gwahardd. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gymryd camau er mwyn gwella’r dulliau o gofnodi a monitro ataliaeth mewn ysgolion. Mae diffyg data ar hyn o bryd yn llesteirio gallu ysgolion i werthuso ac ymateb i’w defnydd nhw eu hunain o arferion cyfyngol.

Darllenwch ragor ynglŷn â chamau gweithredu Llywodraethau’r DU a Chymru parthed gwaharddiadau ysgol a rheoli ‘ymddygiad heriol’.

Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 10/12/2022