Gwaharddiadau o ysgolion a rheoli ‘ymddygiad heriol’ – asesu Llywodraeth y DU
Cynnydd cyfyngedig
Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol, ond mae tystiolaeth gyfyngedig iawn o welliannau parhaus o ran mwynhad hawliau dynol ar y mater hwn.
Mae Llywodraeth y DU wedi cymryd camau sydd i’w croesawu er mwyn mynd i’r afael â bylchau yn y polisi a’r fframwaith bresennol sy’n rheoli’r defnydd o waharddiadau yn Lloegr. Mae grwpiau â nodweddion gwarchodedig penodol yn parhau’n anghymesur fwy tebygol o gael eu gwahardd. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gymryd camau er mwyn gwella’r dulliau o gofnodi a monitro ataliaeth mewn ysgolion. Mae diffyg data ar hyn o bryd yn llesteirio gallu ysgolion i werthuso ac ymateb i’w defnydd nhw eu hunain o arferion cyfyngol.
- Fe ddarganfu ein hymchwiliad i arferion cofnodi arferion ataliaeth mewn ysgolion yng Nghymru a Lloegr bod angen i ataliaeth gael ei fonitro, ei gofnodi a’i ddadansoddi er mwyn deall yn well sut, ble, pam a phryd y caiff ataliaeth ei ddefnyddio a sut gellir lleihau’r defnydd ohono. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw ddyletswydd cyfreithiol ar ysgolion yn Lloegr i gofnodi’r defnydd o ataliaeth, er bod Llywodraeth y DU yn cymryd camau i wella arferion cofnodi a monitro.
- Mae plant a phobl ifanc ag anabledd dysgu, awtistiaeth a chyflyrau iechyd meddwl mewn mwy o berygl o arddangos ymddygiad sy’n herio ac sydd, o ganlyniad, mewn perygl dwysach o brofi ataliaeth ac ymyriad cyfyngol.
- Bwriad y canllaw atal dros dro a gwahardd parhaol a gymhwysir yn Lloegr yw darparu gwell eglurder o gyfrifoldebau ysgolion pan yn ystyried atal dros dro a gwahardd parhaol a chynorthwyo i adnabod a mynd i’r afael â gwahaniaethau mewn cyfraddau atal dros dro a gwahardd parhaol. Mae’r canllaw diwygiedig yn cynnwys darpariaeth ar gyfer ennyn safbwyntiau disgyblion ond yn hepgor cyfeiriadau at rai grwpiau sy’n profi gwaharddiadau anghymesur.
- Fe gynyddodd y nifer o ataliadau dros dro yn Lloegr i 352,454 yn 2020/21, i fyny o 310,733 i 2019/20. Gallai hyn fod yn gysylltiedig â’r pandemig coronafeirws (COVID-19).
- Fe ostyngodd y nifer o waharddiadau parhaol yn Lloegr o 5,100 yn 2019/20 i 3,900 yn 2020/21. Gwelwyd y gostyngiadau hyn ar draws pob math o ysgolion a gallent hefyd fod yn gysylltiedig â phandemig y coronafeirws (COVID-19).
- Mae rhai grwpiau mewn mwy o berygl o gael eu gwahardd, gan gynnwys plant ag anghenion addysgol arbennig, bechgyn, y rheini sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim a disgyblion sy’n Deithwyr Gwyddelig, Sipsiwn, Roma, Du Caribïaidd a chymysg Gwyn a Du Caribïaidd.
- Mae plant yn profi rhwystrau i herio gwaharddiadau yn Lloegr. Yn dilyn penderfyniad i’w gwahardd, nid oes modd i ddisgyblion o dan 18 oed yn Lloegr ymgeisio am adolygiad o’r penderfyniad drwy eu hawl eu hun – dim ond rhiant neu warchodwr all wneud hynny ar eu rhan. Corff llywodraethol yr ysgol, yn hytrach na phanel annibynnol, sy’n cynnal yr adolygiad cyntaf. Nid oes Cymorth Cyfreithiol ar gyfer cyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol am ddim ar gael bellach i ddisgyblion, eu rhieni na’u gwarchodwyr er mwyn herio gwaharddiad.
- Fe drafododd adolygiad ymchwil a gyhoeddwyd gan Ofsted yn 2019 bryderon cynyddol ynglŷn â ‘dadrolio’ – sef y broses o dynnu disgyblion oddi ar gofrestr yr ysgol heb waharddiad swyddogol – yn Lloegr a ffurfiau eraill o waharddiadau anffurfiol. Darganfu arolygiadau gan Ofsted a’r Comisiwn Ansawdd Gofal yn 2017 fod gwaharddiadau answyddogol wedi cael eu defnyddio’n ‘rhy barod’ er mwyn ymdopi â disgyblion ag anghenion dysgu arbennig ac anableddau. Mae fframwaith arolygu addysg Ofsted, a ddaeth i rym ym mis Medi 2019, yn adrodd nad yw ‘dadrolio’ byth yn dderbyniol.
- Rydym yn croesawu nifer o argymhellion yr Adolygiad Timpson, ond yn pryderu na wnaeth yr adroddiad adnabod mesurau digonol ar gyfer mynd i’r afael â gwaharddiadau anghymesur disgyblion o leiafrifoedd ethnig penodol, gan gynnwys mynd i’r afael ag arferion gwahaniaethol.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 10/12/2022