Tai – camau gweithredu’r Llywodraeth
Camau gweithredu Llywodraeth y DU:
- Ym mis Gorffennaf 2022, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ymateb i’w ymgynghoriad ar godi safonau mynediad i gartrefi newydd, gan gydnabod pwysigrwydd tai addas i bobl hŷn ac anabl ac ymrwymo i godi’r safonau mynediad isaf.
- Ym mis Mehefin 2022, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bapur gwyn A Fairer Private Rented Sector, gan amlinellu cynlluniau i haneru’r nifer o gartrefi ansawdd isel erbyn 2030 a gwella ansawdd tai rhent preifat, yn enwedig mewn rhannau o’r wlad â’r cyfran uchaf o dai is na’r safon.
- Rhwng mis Mehefin a mis Awst 2022, fe ymgynghorodd Llywodraeth y DU ar ei gynnig i ddod ag adran 36 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i rym, a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i berchenogion eiddo wneud newidiadau rhesymol i rannau cyffredin o eiddo preswyl ar osod.
- Ym mis Ebrill 2022, fe gyflwynodd Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022 drosedd newydd o dresmasu wedi’i anelu at wersylloedd diawdurdod yn Lloegr.
- Ym mis Rhagfyr 2020, fe gyflwynodd y Swyddfa Gartref reolau newydd i alluogi gwrthod neu ganslo caniatâd i aros i bobl o’r tu allan i Ardal Economaidd Ewrop a oedd yn cysgu allan, a allai arwain at eu hanfon o’r DU.
- Ym mis Medi 2020, cyhoeddodd Llywodraeth y DU dros £12 biliwn ar gyfer tai fforddiadwy, gan gynnwys Rhaglen Tai Fforddiadwy o £11.5 biliwn.
- Yn 2020, rhoddodd Llywodraeth y DU gyllid ychwanegol i awdurdodau lleol yn Lloegr er mwyn cynyddu’r ddarpariaeth o lety mewn ymateb i’r pandemig coronafeirws (COVID-19).
- Ym mis Mawrth 2019, daeth Deddf Cartrefi (Ffitrwydd i fod yn gartref) 2018 i rym, gan ei gwneud yn ofynnol i bob landlord yn Lloegr sicrhau bod eu heiddo yn ffit i fod yn gartref.
- Ym mis Ebrill 2018, fe gryfhaodd Deddf Digartrefedd 2017 y dyletswyddau ar awdurdodau lleol i atal a lliniaru digartrefedd yn Lloegr.
- Ym mis Mehefin 2017, cafodd ymchwiliad cyhoeddus i dân Tŵr Grenfell ei gyhoeddi. Cafodd yr adroddiad o gam cyntaf yr ymchwiliad ei gyhoeddi ym mis Hydref 2019.
Camau gweithredu Llywodraeth Cymru: Mae tai wedi ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru, er bod rhai agweddau cysylltiedig, megis budd-dal tai, wedi eu cadw yn ôl.
- Ym mis Rhagfyr 2022, daeth y Ddeddf Rhentu Cartrefi 2016 i rym, a fydd yn effeithio ar sut mae tenantiaid yn rhentu, yn rheoli ac yn byw mewn cartrefi yng Nghymru.
- Ym mis Ionawr 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Bapur Gwyn ar Ddiogelwch Adeiladau yn dilyn tân Tŵr Grenfell.
- Ym mis Tachwedd 2020, fe dderbyniodd Llywodraeth Cymru mewn egwyddor argymhellion y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd.
- Ym mis Mawrth 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £10 miliwn i gefnogi pobl sy’n cysgu allan a llwybrau i dai parhaol mewn ymateb i’r pandemig coronafeirws (COVID-19), a £50 miliwn pellach ym mis Awst 2020.
- Ym mis Hydref 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth ar ddigartrefedd, gan amlinellu ei ddulliau o atal a mynd i’r afael â digartrefedd.
- Ym mis Medi 2019, fe lansiodd Llywodraeth Cymru Gweithredu ar Anabledd: Hawl i Fyw’n Annibynnol – Fframwaith a Chynllun Gweithredu, gan gynnwys ymrwymiadau i wella’r system ar gyfer addasiadau i dai a sefydlu safon cofrestr tai hygyrch.
- Ym mis Mawrth 2019, sefydlwyd Rhentu Doeth Cymru er mwyn ymdrin â chofrestru a thrwyddedu landlordiaid ac asiantaethau gosod tai.
- Ym mis Ionawr 2019, daeth Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 i rym, gyda’r bwriad o warchod stoc tai cymdeithasol.
- Ym mis Ionawr 2019, fe lansiodd Llywodraeth Cymru Cenedl Noddfa – Cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches, gan ymrwymo i wella cefnogaeth tai i ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
- Ym mis Mehefin 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Galluogi Sipsiwn, Roma a Theithwyr, gan gynnwys ffocws ar sicrhau safleoedd preswyl a thramwy digonol.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 10/12/2022