Byw’n annibynnol – Gweithredu gan y llywodraeth
Gweithredu gan Lywodraeth y DU
- Ym Medi 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig drefniadau cyllid newydd arwyddocaol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol; buddsoddiad o £5.4 biliwn mewn gofal cymdeithasol oedolion yn Lloegr yn ystod y tair blynedd nesaf. Fe wnaeth hefyd ail-ymroddi i gyflwyno papur gwyn ar ddiwygio gofal cymdeithasol cyn diwedd 2021.
- Yng Ngorffennaf 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y Strategaeth Anabledd Cenedlaethol, gyda chefnogi byw’n annibynnol yn un o’i themâu cyffredinol.
- Yng Ngorffennaf 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig gynlluniau i atal achosion o gadw y gellid eu hosgoi mewn lleoliadau iechyd meddwl yn rhan o’r strategaeth awtistiaeth ddiwygiedig, yn cynnwys cyllid i gyflymu rhyddhau a gwella mynediad i gefnogaeth gymunedol a thai. Cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd ymateb i’r arolwg annibynnol o gadw ar wahân hirdymor ac adolygiad y Comisiwn Ansawdd Gofal (CQC) i ataliad.
- Yng Ngorffennaf 2021, lansiodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ymgynghoriad ar gynigion i newid sut y darperir budd-daliadau iechyd ac anabledd a chefnogaeth cyflogaeth.
- Yn Ionawr 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig gynigion i ddiwygio’r Ddeddf Iechyd Meddwl yn seiliedig ar egwyddorion: gwella dewis ac awtonomiaeth; y cyfyngiad lleiaf; budd therapiwtig; a’r person fel unigolyn. Roedd hyn yn dilyn adolygiad annibynnol a gyhoeddwyd yn Rhagfyr 2018.
- Yn Rhagfyr 2020, daeth darpariaethau’r Ddeddf Coronafeirws yn caniatáu newidiadau dros dro i fesurau diogelwch mewn lleoliadau cadw iechyd meddwl yng Nghymru a Lloegr i ben. Daeth darpariaethau yn caniatáu newidiadau i ddarparu gofal plant a llacio dyletswyddau gofal cymdeithasol oedolion yn Lloegr i ben ym Medi 2020 a Gorffennaf 2021 yn y drefn honno.
- Rhwng Medi a Rhagfyr 2020, cynhaliodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ymgynghoriad cyhoeddus ar godi safonau hygyrchedd ar gyfer cartrefi newydd.
- Yn Ionawr 2019, ymestynnodd Cynllun Hirdymor NHS England. darged blaenorol i haneru’r nifer o bobl gydag awtistiaeth neu anableddau dysgu a gedwir mewn lleoliadau cleifion mewnol o Fawrth 2020 i Fawrth 2024.
Gweithredoedd Llywodraeth Cymru Mae byw’n annibynnol yn fater sydd wedi ei ddatganoli’n rhannol. Tra bod nawdd cymdeithasol a chyflogaeth yn dal yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, mae gan Lywodraeth Cymru gymhwyster dros dai, addysg, iechyd a gofal cymdeithasol, ac agweddau o drafnidiaeth.
- Yng Ngorffennaf 2021, mewn ymateb i’r adroddiad ‘Drws ar glo: datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19’, gwnaeth Llywodraeth Cymru ymroi i sefydlu Tasglu anabledd i ddatblygu cynlluniau gweithredu ar gydraddoldeb anabledd.
- Ym Mehefin 2021, gwnaeth Llywodraeth Cymru ymroi i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau i gyfraith Cymru.
- Ym Mawrth 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddileu’r prawf modd ar addasiadau tai bach a chanolig ar gyfer pobl anabl yn byw mewn cartrefi preifat.
- Ym Mawrth 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth trafnidiaeth cenedlaethol, newydd sy’n cynnwys ymrwymiadau ar hygyrchedd.
- Yng Ngorffennaf 2021, daeth darpariaethau y Ddeddf Coronafeirws yn caniatáu addasiadau am gyfnod cyfyngedig i ddyletswyddau gofal cymdeithasol oedolion yng Nghymru i ben.
- Rhwng Awst a Thachwedd 2020, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar sicrhau bod cartrefi fforddiadwy yn cael eu hadeiladu i Safon Cartref am Oes.
- Ym Medi 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ‘Gweithredu ar Anabledd: Yr Hawl i Fyw’n Annibynnol’, cynllun gweithredu i drechu rhwystrau ar gyfer pobl anabl ar draws amrywiaeth o feysydd mewn bywyd, gan ddisodli’r fframwaith blaenorol o 2013.
- Yn Ebrill 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru safonau yn sefydlu’r isafswm disgwyliadau gwasanaeth ar gyfer addasiadau tai.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 30/09/2021