Byw’n annibynnol – asesiad Llywodraeth Cymru
Cynnydd cyfyngedig
Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol, ond mae tystiolaeth gyfyngedig iawn o welliannau parhaus o ran mwynhad hawliau dynol ar y mater hwn.
Croesewir newidiadau i fframwaith cyfreithiol a pholisi ym meysydd trafnidiaeth, tai a gofal cymdeithasol, a chynllun gweithredu wedi ei ddiweddaru ar fyw’n annibynnol. Mae ymroddiad i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau (UN CRPD) i gyfraith Cymru yn bositif. Ond mae diffyg data yn ei gwneud yn anodd asesu effaith y newidiadau hyn o ran trechu rhwystrau i gyfranogiad llawn pobl anabl mewn cymdeithas. Dengys y dystiolaeth sydd ar gael fod pobl anabl yng Nghymru yn dal i wynebu rhwystrau i’r hawl i fyw’n annibynnol, megis prinder cartrefi hygyrch, ac mae’r pandemig coronafeirws (COVID-19) wedi gwaethygu’r problemau hyn.
- Er gwaethaf ymroddiad parhaus trwy’r cynllun gweithredu ar fyw’n annibynnol, nid yw’r hawl i fyw’n annibynnol wedi ei ymgorffori i gyfraith ddomestig yng Nghymru ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi ymroi i ymgorffori’r UN CRPD i gyfraith Cymru yn ei raglen lywodraethu 2021 i 2026.
- Roedd y gyfradd cyflogaeth ar gyfer pobl anabl yn 47.8% yn 2020, o gymharu ag 80.2% ar gyfer pobl nad ydynt yn anabl. Yn 2016, roedd yr ystadegau cymharol yn 44% a 78.6%. Felly mae’r bwlch cyflogaeth anabledd wedi culhau rhywfaint yn y cyfnod 2016–2020, o 34.6% i 32.4%.
- Yn 2018-19, adroddodd 80% o breswylwyr gofal cymdeithasol eu bod yn rheoli eu bywydau cymaint ag y gallent, gyda 74% yn adrodd eu bod yn gallu gwneud y pethau oedd yn bwysig iddynt – mae hyn yn debyg i lefelau yn 2016-17.
- Fodd bynnag, mae Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Senedd Cymru bellach) wedi mynegi pryderon ynghylch diffyg data ar lefelau o alw heb ei fodloni ar gyfer gofal cymdeithasol oedolion.
- Er gwaethaf diwygiadau polisi sydd i’w croesawu, mae diffyg difrifol o gartrefi hygyrch yn dal i effeithio ar hawl pobl anabl i fyw’n annibynnol.
- Mae gwasanaethau trafnidiaeth anhygyrch yn dal i greu rhwystr i gynhwysiant cymdeithasol ac economaidd llawn pobl anabl yng Nghymru.
- Canfu adroddiad 2021 ‘Drws ar Glo’, wedi ei ysgrifennu gan bobl anabl a sefydliadau pobl anabl, fod y pandemig a mesurau iechyd cyhoeddus cysylltiedig wedi creu neu waethygu rhwystrau i fynediad cyfartal pobl anabl i wasanaethau allweddol a diogelwch bwyd, gofal iechyd, tai a defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, a bod rhai pobl anabl wedi eu heithrio’n ddigidol gan y mesurau a gyflwynwyd yn ystod y pandemig.
- Mae prinder yn narpariaeth cyfarpar amddiffyn personol effeithiol, profi ac olrhain yn ystod camau cynnar y pandemig wedi arwain at bobl anabl a hŷn yn cael eu gadael heb ofal a chymorth digonol.
- Nid oedd y Ddeddf Coronafeirws yn cynnwys darpariaethau ar gyfer addasiadau o ddyletswyddau i ofal cymdeithasol plant yng Nghymru, yn wahanol i Loegr. Er bod yna ddarpariaethau tebyg ar gyfer hawddfreintiau gofal cymdeithasol ar gyfer oedolion yng Nghymru, ni ddefnyddiwyd y rhain ac roedd sicrwydd y fframwaith cyfreithiol ar gyfer plant ac oedolion yn dal yn weithredol yng Nghymru trwy gydol y pandemig.