Gwaharddiadau o ysgolion a rheoli ‘ymddygiad heriol’ – asesu Llywodraeth Cymru
Dim cynnydd
Ni chafwyd unrhyw newidiadau cyfreithiol na pholisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol o ran y mater hwn, a thystiolaeth gyfyngedig iawn sydd o’r cynnydd o ran mwynhad o'r hawliau hyn.
Tra bod Llywodraeth Cymru wedi diweddaru eu canllawiau ar y gweithdrefnau ar gyfer gwaharddiadau ysgol, nid chafwyd unrhyw welliannau cyfreithiol na pholisi arwyddocaol, ac mae cyfraddau gwaharddiadau’n parhau i gynyddu. Mae plant sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim a’r rheini ag anghenion dysgu ychwanegol yn parhau’n anghymesur o debygol o gael eu gwahardd. Ceir pryderon hirdymor ynglŷn â’r defnydd gormodol o ataliaeth mewn ysgolion, ac mae’r diffyg data ar ataliaeth yn cyfyngu ar allu ysgolion i fonitro a lleihau’r defnydd ohono.
- Darganfu ein hymchwiliad i arferion cefnogi ataliaeth ysgolion yng Nghymru a Lloegr bod angen monitro, cofnodi a dadansoddi ataliaeth mewn ysgolion er mwyn ennyn gwell dealltwriaeth o sut, ble, pam a phryd y defnyddir ataliaeth, a sut gellid lleihau’r defnydd ohono. Nid oes unrhyw orfodaeth gyfreithiol ar ysgolion yng Nghymru i gofnodi’r defnydd o ataliaeth, er bod Llywodraeth Cymru’n cymryd camau i wella arferion cofnodi a monitro.
- Bwriad y Fframwaith ar gyfer lleihau arferion cyfyngol yw arwain at leihad mewn arferion ataliol mewn lleoliadau gofal plant, addysg, iechyd a gofal cymdeithasol i bobl o bob oed. Mae’r fframwaith yn cymryd ein fframwaith hawliau dynol ar gyfer ataliaeth i ystyriaeth. Fodd bynnag, nid yw’n mynd mor bell â gwneud y broses o gasglu data ataliaeth mewn ysgolion yn orfodol.
- Ym mis Tachwedd 2019, fe ddiweddarodd Llywodraeth Cymru eu canllawiau ar waharddiadau a gweithdrefnau apelio ar gyfer disgyblion ysgolion prif ffrwd ac unedau cyfeirio disgyblion (PRUs). Mae’r canllawiau’n pwysleisio goblygiadau awdurdodau lleol a darparwyr addysg o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a chonfensiynau hawliau dynol rhyngwladol, yn benodol Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
- Fe gynyddodd cyfradd gwaharddiadau parhaol o ysgolion a gynhelir yng Nghymru o flwyddyn i flwyddyn rhwng 2016/17 a 2018/19, ond gwelwyd gostyngiad yn 2019/20. Gallai hyn fod yn gysylltiedig â’r pandemig coronafeirws (COVID-19). Cynyddodd cyfradd y gwaharddiadau tymor penodol o bum diwrnod neu lai o 34.4 i 39.1 am bob 1,000 o ddisgyblion rhwng 2016/17 a 2018/19.
- Mae ffigyrau’n dangos bod gan ddisgyblion yng Nghymru ag anghenion dysgu ychwanegol gyfraddau uwch o waharddiadau na’r rheini sydd heb anghenion, a bod gan “ysgolion arbennig” y gyfradd uchaf o waharddiadau tymor penodol o’r holl fathau o ysgolion.
- Mae cyfradd y gwaharddiadau yng Nghymru ar gyfer plant sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim o leiaf dair gwaith yn uwch nag ar gyfrer plant nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
- Nid yw Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi data ar gyfraddau gwaharddiadau parhaol ar gyfer disgyblion Sipsi, Roma a Theithwyr. Fodd bynnag, mae’r data sydd ar gael yn dangos bod gan y grŵp hwn o ddisgyblion y gyfradd uchaf o waharddiadau tymor penodol.
- Canfu arolwg o 1,500 o fyfyrwyr ym mis Hydref 2021 fod bechgyn ddwywaith yn fwy tebygol o gael eu gwahardd o’r ystafell ddosbarth na merched. Fodd bynnag, roedd merched o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol mwy difreintiedig dipyn yn fwy tebygol o gael eu gwahardd na bechgyn.
- Cynyddodd y gyfran o blant a addysgwyd mewn darpariaeth amgen o 3.8 o bob 1,000 o ddisgyblion yn 2019 i 4.8 o bob 1,000 o ddisgyblion yn 2021/22. Unedau Cyfeirio Disgyblion yw’r ffurf mwyaf cyffredin o ddarpariaeth amgen a ddefnyddir.
- Mae pryderon wedi eu codi ynglŷn â’r defnydd o ‘ddadrolio’ – y broses o dynnu disgyblion oddi ar y gofrestr ysgol heb eu gwahardd yn ffurfiol – gyda thystiolaeth yn awgrymu bod y defnydd ohono ar gynnydd.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 10/12/2022