Casgliadau i gloi ICESCR 2025, paragraff 59
Argymhelliad Cymreig clir
Dylai’r Llywodraeth:
(a) Cymryd camau i amddiffyn hawliau diwylliannol a pharch at amrywiaeth ddiwylliannol, yn enwedig yng Ngogledd Iwerddon. Mae hyn yn cynnwys gwario mwy ar hyrwyddo a rhannu datblygiadau gwyddonol a diwylliannol, yn unol â chyngor y CU ar hawl pawb i gymryd rhan mewn bywyd diwylliannol;
(b) Cynyddu adnoddau a gwella mynediad at fannau hamdden, celf a hamdden mewn ardaloedd gwledig a threfol ac ar gyfer pob math o bobl anabl. Sicrhau bod seilwaith chwaraeon a hamdden presennol hefyd yn hygyrch i bob person anabl, yn unol â’r hawl i fyw’n annibynnol;
(c) Sicrhau nad oes unrhyw wahaniaethu mewn gweithgareddau diwylliannol na chwaraeon, yn enwedig yn seiliedig ar gyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth rhywedd. Sicrhau bod pawb, gan gynnwys pobl drawsryweddol, yn cael eu cefnogi i gymryd rhan mewn chwaraeon mewn ffordd sy’n rhesymol, yn gymesur ac yn gyfartal;
(d) Sefydlu’n gyflym y sefydliadau a’r polisïau sydd eu hangen i amddiffyn a hyrwyddo’r iaith Wyddeleg a diwylliant a threftadaeth Albanwyr-Ulster. Sicrhau bod grwpiau ieithoedd lleiafrifol a’u cynrychiolwyr yn cymryd rhan weithredol yn y broses hon.
Original UN recommendation
Date of UN examination
12/03/2025
Original UN document
Lawr lwytho casgliadau i gloi gwreiddiol 2025 y ICESCR ar wefan y CU.