Cyrhaeddiad addysgol – asesu Llywodraeth y DU
Dim cynnydd
Ni chafwyd unrhyw newidiadau cyfreithiol na pholisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol o ran y mater hwn, a thystiolaeth gyfyngedig iawn sydd o’r cynnydd o ran mwynhad o'r hawliau hyn.
Yn Lloegr, mae hi’n anodd mesur newidiadau mewn cyrhaeddiad yn sgil diwygiadau TGAU a Lefel A yn ystod y blynyddoedd diweddar ac effaith pandemig y coronafeirws (COVID-19). Mae Llywodraeth y DU wedi gwneud nifer o ymrwymiadau i wella cyrhaeddiad, ond ni chafwyd gweithredu pendant hyd yma i fynd i’r afael â bylchau sy’n parhau i’r rheini o grwpiau nodweddion gwarchodedig ac economaidd-gymdeithasol.
- Mae ymchwil a gomisiynwyd gan yr Adran Addysg yn dangos bod disgyblion, ar gyfartaledd, yn parhau ar ei hôl hi o’i gymharu â lefelau dysgu cyn y pandemig. Disgyblion o gefndiroedd difreintiedig, yn bennaf y rheini a fu’n gymwys am brydau ysgol am ddim ar rhyw bwnt yn ystod y chwe blynedd diwethaf, a brofodd y colledion dysgu mwyaf.
- Mae ymrwymiad Llywodraeth y DU i wella cyrhaeddiad mewn rhannau mwy difreintiedig o’r wlad, trwy ei gynlluniau Ffyniant Bro a’r papur gwyn perthynol i ysgolion, i’w groesawu. Fodd bynnag, cafwyd beirniadaeth o’r diffyg ymrwymiad i ostyngiad sylweddol yn y bwlch anfantais rhwng y disgyblion tlotaf a’u cyfoedion.
- Er gwaethaf cyhoeddiadau am gyllid pellach, mae cynllun adfer Llywodraeth y DU ar gyfer ysgolion yn parhau i gael ei ystyried yn gymhedrol o’i gymharu â’r colli dysgu a brofwyd yn sgil pandemig COVID-19.
- Fe adroddodd Ofqual yn 2021 a 2020 nad oedd y system a ddefnyddiwyd i ddyfarnu graddau yn y blynyddoedd hyn yn gosod ymgeiswyr â nodweddion gwarchodedig neu’r rheini o grwpiau economaidd-gymdeithasol is o dan anfantais yn systematig. Fodd bynnag, mae peth tystiolaeth yn awgrymu i’r bwlch cyrhaeddiad ar gyfer anghenion addysgol dwys godi gyda graddau a aseswyd gan athrawon.
- Yn 2021, roedd y sgôr cyrhaeddiad cyfartalog, ar gyfer disgyblion yn Lloegr oedd yn gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim, yn 39.1 ar lefel TGAU, o’i gymharu â 53.6 ar gyfer disgyblion nad oeddent yn gymwys.
- Disgyblion Tsieinïaidd, disgyblion Indiaidd a disgyblion Asiaidd eraill nad ydynt yn Fangladeshaidd na Phacistanaidd oedd â’r lefelau cyrhaeddiad uchaf yng Nghyfnod Allweddol 4 yn 2020/21: fe dderbyniodd 8%, 72.4% a 67.1% radd 5 neu uwch mewn Saesneg a mathemateg TGAU, yn y drefn honno.
- Disgyblion oedd yn Sipsiwn a Roma, disgyblion oedd yn Deithwyr Gwyddelig a disgyblion Caribïaidd oedd â’r lefelau cyrhaeddiad isaf yng Nghyfnod Allweddol 4 yn 2020/21: fe dderbyniodd 1%, 21.1% a 35.9% radd 5 neu uwch mewn Saesneg a mathemateg TGAU, yn y drefn honno.
- Mae merched yn parhau i berfformio’n well na bechgyn ar lefel TGAU.
- Fe adroddodd y Sefydliad Polisi Addysgol (EPI) yn 2020 bod y bwlch cyrhaeddiad wedi dechrau lledu rhwng disgyblion o grwpiau economaidd-gymdeithasol dan anfantais a grwpiau eraill.
- Cyn pandemig COVID-19, roedd canran y disgyblion a dderbyniai raddau 5 neu uwch, neu radd 4/C neu uwch, mewn Saesneg a mathemateg ar lefel TGAU yn sefydlog, ar y cyfan, rhwng 2017 a 2019. Ar safon Lefel A, fe gynyddodd cyrhaeddiad rhwng 2017 a 2019.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 10/12/2022