Cyrhaeddiad addysgol – asesu Llywodraeth Cymru
Dim cynnydd
Ni chafwyd unrhyw newidiadau cyfreithiol na pholisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol o ran y mater hwn, a thystiolaeth gyfyngedig iawn sydd o’r cynnydd o ran mwynhad o'r hawliau hyn.
Mae mesur newidiadau mewn cyrhaeddiad yn anoddach yn sgil effaith pandemig y coronafeirws (COVID-19) ar ddulliau asesu a dyfarnu graddau. Fodd bynnag, mae tystiolaeth o anghydraddoldebau i wahanol grwpiau ethnig a phlant ag anghenion addysgol arbennig yng Nghymru yn parhau er gwaethaf ymrwymiadau.
- Tra’i bod yn rhy gynnar i asesu’n llawn effaith pandemig COVID-19 ar gyrhaeddiad, ceir pryderon y gallai cau ysgolion fod wedi lledu anghydraddoldebau oedd eisoes yn bodoli. Ceir rhywfaint o dystiolaeth i anghydraddoldebau mewn canlyniadau ôl-16 ledu neu ailymddangos yn 2020/21, gyda gostyngiad sylweddol mewn canlyniadau lefel A2 i fyfyrwyr Du Affricanaidd, Du Caribïaidd a Du Prydeinig, gan wrthdroi cynnydd yn 2019/20. Gosododd y symudiad i ddysgu ar-lein blant penodol o dan anfantais, gan gynnwys y rheini y tybiwyd eu bod wedi eu hallgau yn ddigidol a phlant anabl nad oedd modd iddynt ddefnyddio adnoddau ar-lein hygyrch.
- Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi rhybuddio nad yw newid y cwricwlwm yng Nghymru yn ddigon ar ei ben ei hun i fynd i’r afael â bylchau cyrhaeddiad.
- Mae’r bwlch anfantais cyffredinol mewn canlyniadau TGAU yn uwch yng Nghymru nag yn Lloegr. Yn 2021, fe dderbyniodd dysgwyr nad oeddent yn gymwys am brydau ysgol am ddim 11,5% yn fwy o raddau A* na’r rheini oedd yn gymwys.
- Yn 2021, fe dderbyniodd merched 10 pwynt canran yn fwy o raddau TGAU A*-A na bechgyn. Cafwyd bwlch cyrhaeddiad hefyd gyda phlant ag anghenion addysgol arbennig (AAA); fe dderbyniodd dysgwyr nad oeddent wedi eu categereiddio fel rhai AAA 9% yn fwy o raddau A*.
- Ceir rhywfaint o dystiolaeth bod gwahaniaethau’n bodoli ar draws grwpiau ethnig ar lefel Cyfnod Allweddol 4. Mae’r data diweddaraf sydd ar gael yn dangos mai plant Sipsiwn a Roma oedd â’r cyfraddau cyrhaeddiad isaf rhwng 2017 a 2019. Dim ond 11.1% dderbyniodd gymwysterau lefel 2, gan gynnwys mewn Saesneg neu Gymraeg a mathemateg, o’i gymharu â 85% o blant Tsieinïaidd neu blant Tsieinïaidd Brydeinig, a dderbyniodd y ffigwr uchaf.
- Ceir rhywfaint o dystiolaeth yn ogystal bod gwahaniaethau’n bodoli ar draws grwpiau ethnig ar lefel Cyfnod Allweddol 2: disgyblion oedd yn Sipsiwn a Roma a disgyblion oedd yn Deithwyr oedd â’r cyfraddau cyrhaeddiad isaf rhwng 2017 a 2019.
- Ym mis Ebrill 2019, adroddodd Estyn ar ddarpariaeth addysgol i ddisgyblion oed uwchradd oedd yn Sipsiwn, Roma neu Deithwyr. Cododd bryderon nad yw ysgolion yn defnyddio data cyrhaeddiad er mwyn bwydo gwelliant ar gyfer plant sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Ychydig o wybodaeth a geir ynglŷn â chynnydd wrth weithredu cynllun Galluogi Sipsiwn, Roma a Theithwyr Llywodraeth Cymru.
- Yn 2019, roedd gan ddisgyblion ag AAA gyfraddau cyrhaeddiad llawer is yng Nghyfnod Allweddol 2 na’r rheini heb AAA, ond ceir amrywiaeth eang rhwng mathau o AAA.
- Tra cynyddodd gwariant gros wedi’i gyllido i ysgolion o 2.8% rhwng 2015/16 a 2018/19, mae hyn yn cynrychioli gostyngiad mewn termau real. Canfu adroddiad annibynnol yn 2020 effeithiau cadarnhaol gwariant ysgolion, gydag effaith fwy ar ddisgyblion difreintiedig.
- Canfu ymchwiliad Senedd Cymru yn 2018 i ddefnydd Llywodraeth Cymru o gyllid ychwanegol ar gyfer y plant mwyaf difreintiedig bod rhai ysgolion yn defnyddio’r Grant Datblygu Disgyblion i wneud yn iawn am yr hyn roedden nhw’n ei weld fel cyllid craidd annigonol. Ym mis Mawrth 2022, fe amlinellodd Llywodraeth Cymru’r mecanweithiau sydd ganddo ar gyfer monitro’r defnydd o gyllid.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 10/12/2022