Cyrhaeddiad addysgol – asesu Llywodraeth y DU

Asesiad cynnydd

Dim cynnydd

Ni chafwyd unrhyw newidiadau cyfreithiol na pholisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol o ran y mater hwn, a thystiolaeth gyfyngedig iawn sydd o’r cynnydd o ran mwynhad o'r hawliau hyn.

Yn Lloegr, mae hi’n anodd mesur newidiadau mewn cyrhaeddiad yn sgil diwygiadau TGAU a Lefel A yn ystod y blynyddoedd diweddar ac effaith pandemig y coronafeirws (COVID-19). Mae Llywodraeth y DU wedi gwneud nifer o ymrwymiadau i wella cyrhaeddiad, ond ni chafwyd gweithredu pendant hyd yma i fynd i’r afael â bylchau sy’n parhau i’r rheini o grwpiau nodweddion gwarchodedig ac economaidd-gymdeithasol.

Darllenwch ragor ynglŷn â chamau gweithredu Llywodraethau’r DU a Chymru parthed cyrhaeddiad addysgol.

Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 10/12/2022