Iechyd meddwl – asesu Llywodraeth Cymru
Cynnydd cyfyngedig
Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol, ond mae tystiolaeth gyfyngedig iawn o welliannau parhaus o ran mwynhad hawliau dynol ar y mater hwn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu mesurau polisi ac wedi darparu buddsoddiad er mwyn gwella canlyniadau iechyd meddwl. Fodd bynnag, ceir diffygion yn y ddarpariaeth iechyd meddwl, yn ogystal ag anghydraddoldebau mewn triniaeth a chanlyniadau iechyd meddwl i rai grwpiau sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys plant a phobl ifanc, a phobl o leiafrifoedd ethnig penodol. Ceir pryderon hefyd ynglŷn â’r tebygrwydd uwch o hunanladdiad ymysg pobl mewn ardaloedd o amddifadedd. Mae’r pandemig coronafeirws (COVID-19) wedi dod â diffygion mwy hirdymor rhwng y galw am wasanaethau iechyd meddwl a’r ddarpariaeth i’r amlwg.
- Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynnydd mewn cyllid ar gyfer iechyd meddwl plant, gan gynnwys treblu cyllid ar gyfer staff cefnogi iechyd meddwl mewn ysgolion. Mae’r ffigyrau diweddaraf, o fis Gorffennaf 2022, yn dangos bod 57.1% o gleifion gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol plant a’r glasoed yn aros mwy na phedair wythnos am apwyntiad cyntaf. Mae hyn yn sylweddol uwch na ffigyrau 2019 o’r cyfnod cyn pandemig COVID-19.
- Darganfu arolwg gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion bod y cyfran o blant sy’n arddangos symptomau o iselder wedi cynyddu o 24% yn 2018 i 28% yn 2021.
- Yn ôl data a rannwyd gan Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru ar les meddyliol yn 2020, mae Cymru’n gwneud rhywfaint yn waeth na gwledydd eraill y DU o ran cyfraddau llesiant hunangofnodedig. Fodd bynnag, fe gynyddodd cyfraddau’r bobl a adroddodd bod ganddynt foddhad uchel o fywyd, eu bod yn teimlo bod bywyd yn werth chweil a’u bod yn hapus yng Nghymru rhwng 2013 a 2018.
- Roedd 39.3% o ymatebwyr i’r cwestiynau llesiant yn Arolwg Cenedlaethol Cymru 2020/21 yn teimlo’n unig.
- Ceir prinder gweithwyr proffesiynol arbenigol a rhestrau aros hir i blant sydd angen triniaeth iechyd meddwl. Dangosodd ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn 2018 y diffyg cynnydd mewn darpariaeth gwasanaethau i blant a phobl ifanc ers yr ymchwiliad blaenorol yn 2014.
- Dangosodd adroddiad yn 2018 gan brosiect cydweithredol Iechyd Meddwl Amenedigol yng Nghymru bod menywod yng Nghymru yn elwa o gefnogaeth cynenedigol arbenigol newydd ond bod rhwystrau yn atal rhai menywod rhag cael mynediad i’r gwasanaethau hyn.
- Yn 2018, daeth adolygiad hanner ffordd o gynllun gweithredu pum mlynedd Llywodraeth Cymru ar atal hunanladdiad i’r casgliad fod cynnydd wedi ei wneud a bod arweiniad a chanlyniadau wedi eu darparu. Fodd bynnag, mae pobl o’r ardaloedd o amddifadedd economaidd-gymdeithasol mwyaf yn parhau’n fwy tebygol o farw o hunanladdiad.
- Er gwaethaf cynnydd mewn cyllid, nid yw darpariaeth iechyd meddwl yng Nghymru yn cwrdd â’r galw. Dangosodd adroddiad Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Senedd ym mis Rhagfyr 2020 bod camgymharu rhwng y gwarantau a roddwyd gan fyrddau iechyd lleol a phrofiadau pobl a gafodd fynediad i wasanaethau iechyd meddwl yn ystod pandemig COVID-19. Dangosodd bod pandemig COVID-19 wedi dod â diffygion eraill mwy hirdymor rhwng galw a chyflenwad i’r amlwg.
- Mae canfyddiadau Arolwg Ymgysylltiad Cyhoeddus Iechyd Cyhoeddus Cymru ar Iechyd a Llesiant yn ystod Mesurau Coronafeirws yn dangos bod pobl o grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol o deimlo gor-bryder, pryder ynghylch arian ac yn ynysig na phobl Wyn yn ystod y pandemig COVID-19. Fe ddiweddarodd Llywodraeth Cymru’r Cynllun cyflawni Law yn Llaw at Iechyd Meddwl 2019-2022 mewn ymateb i effaith pandemig COVID-19.
- Fe adroddodd arolwg ymgysylltiad cyhoeddus Iechyd Cyhoeddus Cymru mai dim ond 50% o bobl a raddiodd eu lefel hapusrwydd cyfredol fel uchel (graddfeydd o 7 i 10 ar raddfa o 0 i 10) yn gynnar ym mis Tachwedd 2020, i lawr o 69% yn gynnar ym mis Mai 2020.