Iechyd meddwl – asesu Llywodraeth y DU

Asesiad cynnydd

Cynnydd cyfyngedig

Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol, ond mae tystiolaeth gyfyngedig iawn o welliannau parhaus o ran mwynhad hawliau dynol ar y mater hwn.

Mae diwygiadau polisi a chynnydd mewn buddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd meddwl wedi gwella mynediad i gefnogaeth a thriniaeth. Fodd bynnag, mae hyn wedi digwydd ochr yn ochr â chynnydd mewn galw, gan olygu bod lefelau angen sydd heb eu cwrdd yn parhau’n uchel, yn enwedig i bobl ifanc. Mae rhai grwpiau sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig yn destun defnydd anghymesur o bwerau cadw a thriniaeth orfodol.                                       

Darllenwch ragor ynglŷn â chamau gweithredu Llywodraethau’r DU a Chymru parthed iechyd meddwl.

Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 10/12/2022