Iechyd meddwl – asesu Llywodraeth y DU
Cynnydd cyfyngedig
Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol, ond mae tystiolaeth gyfyngedig iawn o welliannau parhaus o ran mwynhad hawliau dynol ar y mater hwn.
Mae diwygiadau polisi a chynnydd mewn buddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd meddwl wedi gwella mynediad i gefnogaeth a thriniaeth. Fodd bynnag, mae hyn wedi digwydd ochr yn ochr â chynnydd mewn galw, gan olygu bod lefelau angen sydd heb eu cwrdd yn parhau’n uchel, yn enwedig i bobl ifanc. Mae rhai grwpiau sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig yn destun defnydd anghymesur o bwerau cadw a thriniaeth orfodol.
- Mae gan y Bil Iechyd Meddwl drafft nifer o amcanion cadarnhaol. Ei bwrpas yw rhoi mwy o ddewis i gleifion dros eu gofal a’u triniaeth, a gwella cefnogaeth i bobl ag anghenion iechyd meddwl acíwt yn y system cyfiawnder troseddol. Mae’r Bil hefyd yn ceisio lleihau’r achosion lle cedwir pobl ag anabledd dysgu a’r rheini ag awtistiaeth yn amhriodol. Fodd bynnag, mae pryderon wedi eu codi nad oes cefnogaeth ddigonol yn y gymuned ar hyn o bryd er mwyn cyflawni hyn.
- Mae cynllun gweithredu Adeiladu Gwell Cymorth yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol ymhell o’r hyn sydd ei angen i fynd i’r afael â chadw pobl ag anabledd dysgu a phobl awtistig yn amhriodol mewn ysbytai meddwl.
- Mae buddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl a gweithredu’r Five Year Forward View on Mental Health wedi arwain at gynnydd mewn mynediad i wasanaethau iechyd meddwl yn Lloegr. Erbyn mis Mawrth 2022, gwelwyd cynnydd o 14% yn y nifer o bobl ifanc â chyflwr iechyd meddwl diagnosadwy a gafodd fynediad i wasanaethau yn y gymuned wedi eu cyllido gan NHS England yn ystod y 12 mis blaenorol. Fodd bynnag, mae hyn wedi digwydd ochr yn ochr â chynnydd yn y galw am wasanaethau yn Lloegr: fe gynyddodd y nifer o atgyfeiriadau newydd ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl y GIG o fwy na 130,000 rhwng mis Mai 2017 a mis Mai 2022.
- Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno safonau a thargedau amseroedd aros ar gyfer rhai gwasanaethau iechyd meddwl yn Lloegr. Fodd bynnag, mae nifer o bobl yn parhau i wyneb arosiadau hir ac anghyson wrth aros am wasanaethau, yn enwedig plant a phobl ifanc.
- Mae grwpiau gan gynnwys menywod du, pobl ddi-waith, bechgyn, pobl ag anabledd dysgu, pobl ddigartref a phobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws mewn perygl cynyddol o brofi iechyd meddwl gwael. Mae pobl o grwpiau ethnig Du yn parhau i gael eu cadw a derbyn triniaeth orfodol o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl ar raddau anghymesur.
- Mae data arolygon swyddogol yn dangos bod y gyfran o bobl rhwng 5-16 oed yn Lloegr ag ‘anhwylder meddwl tebygol’ wedi cynyddu o un o bob naw yn 2017 i un o bob chwech yn 2020. Roedd y cyfraddau’n debyg rhwng 2020 a 2021.
- Mae cynllun Llywodraeth y DU i leihau cyfraddau hunanladdiad a hunan-niwed i’w groesawu. Mae cyfraddau hunanladdiad wedi bod ar gynnydd ers 2017. Gwelwyd gostyngiad yn 2020, o 11 i 10 ym mhob 100,000 o bobl, ond cafwyd cynnydd eto yn 2021 i 10.7 ym mhob 100,000. Roedd oddeutu tri chwarter yr hunanladdiadau yn ddynion, a hunanladdiad yw prif achos marwolaeth dynion a menywod rhwng 20 a 34 oed.
- Roedd cyfradd y derbyniadau ysbyty o ganlyniad i hunan-niwed ymysg plant a phobl ifanc yn Lloegr yn 421.9 ym mhob 100,000 yn 2020/21. Yn 2011/12, roedd y gyfradd yn 347.4 ym mhob 100,000. Mae rhai grwpiau – gan gynnwys merched a phlant lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol – yn hunan-niweidio ar gyfraddau uwch nag eraill.
- Nid oes ffigyrau swyddogol ar gyfer y nifer o bobl yn y carchar yng Nghymru a Lloegr sydd â chyflwr iechyd meddwl. Fodd bynnag, mae Arolygaeth Carchardai ei Mawrhydi wedi adrodd bod 71% o fenywod a 47% o ddynion a holwyd gan arolygwyr yn y carchar wedi adrodd eu hunain bod ganddynt broblemau iechyd meddwl. Mae nifer yr hunanladdiadau ymysg carcharorion 10 gwaith yn uwch nag yn y boblogaeth ehangach.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 10/12/2022