Cadw oherwydd iechyd meddwl – Gweithredu gan y llywodraeth
Gweithredu gan Lywodraeth y DU
- Ym Medi 2021, cyhoeddodd Public Health England ganllaw wedi’i ddiweddaru ar atal lledaeniad coronafeirws (COVID-19) mewn lleoliadau iechyd meddwl ac anableddau dysgu.
- Yng Ngorffennaf 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig gynlluniau i atal achosion o gadw y gellid eu hosgoi mewn lleoliadau iechyd meddwl yn rhan o’r strategaeth awtistiaeth ddiwygiedig, yn cynnwys cyllid i gyflymu rhyddhau a gwella mynediad i gefnogaeth gymunedol a thai. Cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd ymateb i’r arolwg annibynnol o gadw ar wahân hirdymor ac adolygiad y Comisiwn Ansawdd Gofal (CQC) i ataliad.
- Ym Mehefin 2021, cyhoeddodd yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol ganllaw ar Drefniadau Amddiffyn Rhyddid (LPS) i awdurdodi amddifadu o ryddid yng Nghymru a Lloegr ar gyfer pobl nad oes ganddynt alluedd. Cyflwynwyd yr LPS trwy’r Ddeddf Galluedd Meddyliol (Diwygio), a dderbyniodd gydsyniad brenhinol ym Mai 2019. Bydd yr LPS yn dod yn weithredol yn Ebrill 2022.
- Ym Mai 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ymgynghoriad ar ganllawiau statudol ar gyfer y Ddeddf Unedau Iechyd Meddwl (Defnyddio Grym) 2018, a chyhoeddi y byddai’r Ddeddf yn cael ei gweithredu yn Nhachwedd 2021. Nod y ddeddf yw lleihau defnydd amhriodol o rym ac i wella atebolrwydd a thryloywder.
- Yn Chwefror 2021, cynghorodd canllaw newydd ar gyfer y GIG yn Lloegr na ddylid cael asesiadau o bell ar gyfer cadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, yn dilyn dyfarniad yn yr Uchel Lys bod yr arfer yn anghyfreithlon.
- Yn Ionawr 2021, cyhoeddodd yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac NHS England ganllawiau cyfreithiol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl, anableddau dysgu ac awtistiaeth i gefnogi pobl yn ystod pandemig y coronafeirws.
- Yn Ionawr 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig gynigion i ddiwygio’r Ddeddf Iechyd Meddwl yn seiliedig ar egwyddorion: gwella dewis ac awtonomiaeth; sicrhau a defnyddir pwerau yn y modd lleiaf cyfyngol; darparu budd therapiwtig; a thrin y person fel unigolyn. Roedd Araith y Frenhines 2021 yn ymroi i fil iechyd meddwl newydd.
- Yn Nhachwedd 2020, cyhoeddodd Llywodraeth y DU £500 miliwn mewn cyllid ychwanegol yn 2021‒22 yn rhan o becyn adferiad COVID-19 i fynd i’r afael ag amseroedd aros am wasanaethau iechyd meddwl, darparu cymorth iechyd meddwl i fwy o bobl, a buddsoddi yng ngweithlu’r GIG.
- Ym Mai 2020, cyhoeddodd NHS England a’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol arweiniad cyfreithiol yn caniatáu ar gyfer ymadawiad dros dro o god ymarfer yn Nheddf Iechyd Meddwl (MHA) am ‘gyfnod pandemig’ na ddiffiniwyd. Cafodd y canllaw ei ddiweddaru yn Ionawr 2021, ond roedd yn parhau i ganiatáu ar gyfer ymadael â’r cod ymarfer ac nid oedd yn rhoi manylion ‘cyfnod y pandemig’.
- Ym Mawrth 2020, derbyniodd Deddf y Coronafeirws gydsyniad brenhinol. Roedd y ddeddf yn cynnwys darpariaethau a fyddai, pe baent yn cael eu rhoi ar waith, yn caniatáu ar gyfer newidiadau dros dro i fesurau diogelwch mewn lleoliadau cadw iechyd meddwl yng Nghymru a Lloegr i ben. Daeth y darpariaethau hyn i ben yn Lloegr yn Rhagfyr 2020.
- Yn Ionawr 2019, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y Cynllun Hirdymor y GIG, oedd yn cynnwys ymroddiad y byddai buddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd meddwl yn tyfu’n gynt na chyllideb gyffredinol y GIG, cynnydd mewn telerau go iawn o £2.3 biliwn neu fwy y flwyddyn erbyn 2023–24.
- Yn Rhagfyr 2017, daeth newidiadaui’r Ddeddf Plismona a Throsedd 2017 a Rheoliadau’r Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (Man Diogel) 2017 i rym, yn cynnwys gwahardd defnyddio gorsafoedd heddlu fel mannau diogel ar gyfer plant mewn trallod meddwl, gan gwtogi mathau penodol o gadw, a gofyniad i ymgynghori gyda gweithwyr gofal iechyd yn cadw mewn man diogel.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 30/09/2021