Cyrhaeddiad addysgol – camau gweithredu’r Llywodraeth
Camau gweithredu Llywodraeth y DU:
- Fe wnaeth Llywodraeth DU ailgychwyn y defnydd o arholiadau ysgolion yn haf 2002, gyda byrddau arholi’n derbyn cyfarwyddyd i osod terfynau graddau ar bwynt rhwng lefelau 2021 a lefelau cyn pandemig y coronafeirws (COVID-19). Cafodd arholiadau yn 2020 ac yn 2021 eu canslo oherwydd pandemig COVID-19. Yn lle hynny, fe dderbyniodd myfyrwyr eu graddau yn seiliedig ar asesiadau athrawon.
- Ym mis Mawrth 2022, fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU bapur gwyn i ysgolion, yn cynnwys ymrwymiadau i wella cyrhaeddiad.
- Ym mis Mawrth 2022, fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU Inclusive Britain mewn ymateb i adroddiad y Comisiwn ar Wahaniaethau Hil ac Ethnig. Mae’n cynnwys ymrwymiad i ddadansoddi cyrhaeddiad addysgol ac ymchwilio i unrhyw oblygiadau er mwyn mynd i’r afael â gwahaniaethau.
- Ym mis Chwefror 2022, fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU ei gynlluniau Ffyniant Bro, gan gynnwys ymrwymiad i wella cyrhaeddiad mewn rhannau mwy difreintiedig o’r wlad.
- Ym mis Medi 2021, daeth fframwaith cyfnod sylfaen y blynyddoedd cynnar Llywodraeth y DU i rym, gyda’r bwriad o wella canlyniadau addysgol plant pum mlwydd oed.
- Ym mis Gorffennaf 2021, fe lansiodd Llywodraeth y DU raglenni addysgol i helpu cefnogi disgyblion sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr, gyda’r ffocws ar roi hwb i gyrhaeddiad addysgol.
- Ym mis Chwefror 2021, fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU becyn gwerth £700 miliwn i gefnogi ymdrechion i adfer dysgu a gollwyd yn sgil pandemig COVID-19. Ym mis Mai 2022, fe gyhoeddwyd bod cyllid adfer addysg bellach yn werth ‘bron i’ £5 biliwn.
- Ym mis Ionawr 2021, mewn ymateb i bandemig COVID-19, fe orchmynnodd Llywodraeth y DU ysgolion yn Lloegr i symud i ddysgu o bell ar gyfer y rhan fwyaf o ddisgyblion. Roedd hyn yn dilyn penderfyniadau tebyg yn 2020. Fe ddychwelodd disgyblion i ysgolion a cholegau ar 8 Mawrth 2021.
Camau gweithredu Llywodraeth Cymru: Mae addysg wedi ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru.
- Ym mis Medi 2022, fe dderbyniodd y Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) (2022) Gydsyniad Brenhinol. Ei bwriad yw darparu system addysg drydyddol sydd â rhagoriaeth, cydraddoldeb ac ymgysylltiad yn greiddiol iddi.
- O fis Medi 2022, dechreuwyd cyflwyno’r Cwricwlwm newydd i Gymru i fyfyrwyr o 3 i 16 oed.
- Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ailgychwyn y defnydd o arholiadau ysgolion yn haf 2022. Penderfynodd Cymwysterau Cymru y byddai canlyniadau’n cael eu dyfarnu yn fras tua hanner ffordd rhwng canlyniadau 2019 a 2021. Cafodd arholiadau yn 2020 ac yn 2021 eu canslo yn sgil y pandemig coronafeirws (COVID-19). Yn lle hynny, derbyniodd myfyrwyr raddau yn seiliedig ar asesiadau athrawon.
- Ym mis Mehefin 2022, fe osododd Llywodraeth Cymru y gyllideb ar gyfer y Grant Datblygu Disgyblion, ysgogiad ariannol â’r bwriad o wella cyrhaeddiad plant difreintiedig, ar £125 miliwn, cynnydd o £31 miliwn ers 2018/19.
- Ym mis Mawrth 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fuddsodiad gwerth £25 miliwn mewn ysgolion bro i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad.
- Ym mis Mehefin 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth adnewyddu a diwygio, ymateb i effaith pandemig COVID-19 ar addysg.
- Cafodd ysgolion yng Nghymru eu cau ar 14 Rhagfyr 2020 yn sgil pandemig COVID-19 ac fe’u hailagorwyd ar 22 Chwefror 2021 i rai disgyblion. Cafodd ysgolion eu cau ym mis Mawrth 2020 yn ogystal, ar gychwyn y pandemig COVID-19.
- Ym mis Tachwedd 2020, daeth y rhan fwyaf o ddarpariaethau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 i rym, gan ddarparu fframwaith ddeddfwriaethol newydd ar gyfer adnabod a chefnogi dysgwyr ag anghenion addysgol arbennig.
- Yn 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun gweithredu yn cynnwys nifer o ymrwymiadau i wella cyrhaeddiad Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 10/12/2022