Masnachu pobl a chaethwasiaeth fodern – asesiad Llywodraeth y DU
Cynnydd cyfyngedig
Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol, ond mae tystiolaeth gyfyngedig iawn o welliannau parhaus o ran mwynhad hawliau dynol ar y mater hwn.
Mae Llywodraeth y DU wedi cymryd camau pwysig i gael gwared ar, ac ehangu dealltwriaeth o, gaethwasiaeth fodern a masnachu pobl, megis gweithio i fynd i’r afael â chadwyni cyflenwi. Fodd bynnag, gallai newidiadau a gyflwynwyd fel rhan o’r Ddeddf Cenedligrwydd a Ffiniau danseilio cynnydd diweddar. Mae pryderon yn parhau hefyd ynghylch effeithlonrwydd y fframwaith gyfreithiol a’r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol (NRM). Mae’r nifer o atgyfeiriadau NRM wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, ond mae gwir raddfa caethwasiaeth fodern yn parhau’n anhysbys, ac mae cyfraddau erlyn yn isel.
- Mae’r Comisiynydd Gwrthgaethwasiaeth Annibynnol wedi codi pryderon y bydd newidiadau a gyflwynwyd fel rhan o’r Ddeddf Cenedligrwydd a Ffiniau yn ei gwneud hi’n anoddach i adnabod dioddefwyr masnachu pobl a chaethwasiaeth fodern, darparu cefnogaeth effeithiol i’r rheini sydd ei angen a dod â throseddwyr gerbron llys. Mae’r swydd Comisiynydd Gwrthgaethwasiaeth wedi bod yn wag ers diwedd mis Ebrill 2022 pan ddaeth deiliadaeth tair blynedd y cyn-gomisiynydd i ben.
- Nid oes ffynhonnell ddata ddiffiniol i adnabod yr union nifer o ddioddefwyr caethwasiaeth fodern yn y DU, ond mae amcangyfrifon o ddata’r heddlu’n dangos y gallai fod o leiaf 100,000 o ddioddefwyr bob blwyddyn.
- Mae’r NRM wedi derbyn nifer cynyddol o atgyfeiriadau o ddioddefwyr posibl masnachu pobl neu gaethwasiaeth fodern, er bod y ffigyrau’n parhau’n isel o’u cymharu â’r nifer o ddioddefwyr a amcangyfrifir. Cafwyd 12,727 o atgyfeiriadau yn 2021, gan gynrychioli cynnydd o 20% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. O’r rhain, roedd 77% yn ddynion, 43% yn blant ac fe honnodd 58% iddynt gael eu hecsbloetio yn y DU yn unig.
- Yng nghyfnod 2016-2019 gwelwyd cynnydd yn y nifer o ddioddefwyr posibl caethwasiaeth fodern oedd yn blant, a’r achosion o fasnachu pobl a atgyfeiriwyd at yr NRM, yn rhannol o ganlyniad i gynnydd yn yr adnabyddiaeth o achosion ecsbloetiaeth ‘llinellau cyffuriau’.
- Ym mis Chwefror 2021, canfu Llys Hawliau Dynol Ewrop bod y DU wedi gweithredu’n anghyfreithiol trwy fethu ag amddiffyn dau blentyn a oedd yn ddioddefwyr posibl masnachu pobl rhag cael eu herlyn.
- Mae gweithwyr domestig mudol – sy’n fenywod yn bennaf – yn parhau’n agored i gamdriniaeth, ecsbloetiaeth, masnachu pobl a llafur dan orfod.
- Ceir pryderon i’r pandemig coronafeirws (COVID-19) ddwysáu bregusderau i ecsbloetiaeth plant a gwaethygu ffactorau sy’n arwain at ecsbloetiaeth lafur, gyda gweithwyr domestig mudol mewn perygl arbennig o gynni.
- Mae ystadegau ar gyfer 2021/22 yn dangos i’r nifer o ymchwiliadau byw i gaethwasiaeth fodern gan yr heddlu gynyddu o 65%. Gwelwyd cynnydd hefyd yn yr atgyfeiriadau at Wasanaeth Erlyn y Goron ar gyfer penderfyniad ynghylch cyhuddo a chynnydd mewn euogfarnau, er bod y niferoedd yn parhau’n isel ar y cyfan.
- Roedd diwygiadau i’r NRM i fod i gael eu cwblhau erbyn mis Mawrth 2020, ond maent yn parhau i fynd rhagddynt. Fe nododd adroddiad blynyddol y Comisiynydd Gwrthgaethwasiaeth Annibynnol 2021/22 bod prosesau gwneud penderfyniadau, er gwaethaf cynnydd mewn atgyfeiriadau at yr NRM, yn parhau’n araf iawn. Ar y cyfan, cafwyd cynnydd cyfyngedig ar Raglen Trawsnewid yr NRM.
- Cafodd canllaw statudol 2020 Llywodraeth y DU ar adnabod a chefnogi dioddefwyr caethwasiaeth fodern ei groesawu gan gymdeithas sifil, er bod pryderon ynglŷn â’r oedi wrth gyflwyno canllawiau o’r fath a’r diffyg ymgynghori ystyrlon wrth iddo gael ei ddatblygu.
- Mae gan y Ddeddf Caethwasiaeth Modern 2015 (MSA) nifer o wendidau sy’n llesteirio’i effeithlonrwydd. Gwnaeth adroddiad terfynol yr Adolygiad Annibynnol o’r MSA yn 2019 amrywiol argymhellion, gan gynnwys galwadau i newid yr MSA i’w gwneud yn glir na all plant gydsynio i’w hecsbloetiaeth. Fe dderbyniodd Llywodraeth y DU nifer o’r argymhellion, rhai sy’n destun ymgynghori pellach, ond gwrthodwyd yr argymhelliad penodol hwn.