Lechyd meddwl – camau gweithredu’r Llywodraeth
Camau gweithredu Llywodraeth y DU:
- Ym mis Mehefin 2022, cyhoeddodd Llywodraeth y DU Fil Iechyd Meddwl drafft ar gyfer craffu cyn y broses ddeddfu. Ei fwriad yw moderneiddio deddfwriaeth iechyd meddwl er mwyn rhoi gwell dewis o ymreolaeth i gleifion yng Nghymru a Lloegr dros eu gofal a’u triniaeth, a chael mynediad i fwy o hawliau a chefnogaeth o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.
- Ym mis Gorffennaf 2022, fe gyhoeddodd yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC) Gynllun Gweithredu Building the Right Support er mwyn mynd i’r afael â’r nifer o gleifion ag anabledd dysgu a’r rheini ag awtistiaeth sydd wedi eu cadw’n amhriodol mewn ysbytai iechyd meddwl diogel yn Lloegr.
- Ym mis Ebrill 2022, lansiodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad cyhoeddus ar gynllun iechyd meddwl a llesiant newydd sy’n canolbwyntio ar wella canlyniadau iechyd meddwl a llesiant.
- Ym mis Mawrth 2021, mewn ymateb i’r pandemig coronafeirws (COVID-19), cyhoeddodd Llywodraeth y DU gynllun adfer iechyd meddwl a llesiant COVID-19 i Loegr.
- Ym mis Tachwedd 2020, cyhoeddodd Llywodraeth y DU £500 miliwn mewn cyllid ychwanegol yn 2021/22 i fynd i’r afael ag amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl, darparu cefnogaeth iechyd meddwl i fwy o bobl a buddsoddi yng ngweithlu’r GIG.
- Ym mis Ionawr 2019, fe ymrwymodd Cynllun Tymor Hir y GIG i gynyddu buddsoddiad er mwyn gwella mynediad i wasanaethau iechyd meddwl yn y gymuned a mewn argyfwng yn Lloegr, gyda buddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd meddwl i dyfu’n gynt na chyllideb gyffredinol y GIG.
- Ym mis Ionawr 2019, fe gyhoeddodd y DHSC ei gynllun gweithredu atal hunanladdiad traws-lywodraethol cyntaf, yn dilyn galwadau gan Bwyllgor Dethol Tŷ’r Cyffredin ar Iechyd am gynllun gweithredu cliriach ar gyfer strategaeth atal hunanladdiad Llywodraeth y DU i Loegr.
- Ym mis Ionawr 2019, cyhoeddodd yr Adran Addysg y byddai iechyd meddwl a llesiant yn cael eu cynnwys fel rhan o’r cwricwlwm ysgol yn Lloegr o fis Medi 2020.
- Ym mis Gorffennaf 2018, cadarnhaodd Llywodraeth y DU ei gynlluniau i sefydlu timau er mwyn cynyddu cefnogaeth iechyd meddwl gyffredinol ac ymyrraeth gynnar mewn ysgolion a cholegau yn Lloegr.
Camau gweithredu Llywodraeth Cymru: Mae iechyd meddwl wedi ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru.
- Bydd y Bil Iechyd Meddwl drafft a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn rhychwantu Cymru.
- Fe ymrwymodd Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu buddsoddiad mewn iechyd meddwl yn ei raglen lywodraethu ar gyfer tîm llywodraethol 2021-2026. Ym mis Medi 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn £2.5 miliwn o gyllid ychwanegol i gyrraedd ystod o bobl ifanc, gan gynnwys y rheini sy’n anoddach eu cyrraedd a’r rheini â nodweddion gwarchodedig. Mae hyn yn dilyn £9.4 miliwn a ymrwymwyd ym mis Chwefror 2021 i wasanaethau plant a phobl ifanc. Cafodd cyllid pellach ar gyfer staff cefnogi iechyd meddwl mewn ysgolion ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2022.
- Gosododd Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 ddyletswydd ar unrhyw ddarparwr addysg sy’n gweithredu swyddogaethau o dan y Ddeddf i roi ystyriaeth i lesiant meddyliol ac emosiynol plant a phobl ifanc.
- Mewn ymateb i’r pandemig coronafeirws (COVID-19), fe amlinellodd Llywodraeth Cymru gamau er mwyn cefnogi anghenion iechyd meddwl, gyda ffocws ar gynnal gwasanaethau, cefnogi’r GIG a lleihau effaith economaidd-gymdeithasol pandemig COVID-19 ar iechyd meddwl. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddiweddaru’r cynllun cyflawni Law yn Llaw at Iechyd Meddwl 2019-2022 hefyd.
- Ym mis Gorffennaf 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru weledigaeth pum mlynedd ar gyfer gofal mamolaeth yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys ymrwymiad i sicrhau gwasanaethau sylfaenol, uwch ac wedi’u targedu, gan gynnwys mynediad i therapyddion seicolegol yn seiliedig ar dystiolaeth.
- Mae Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn paratoi er mwyn i reoliadau gael eu gwneud ynglŷn â’r defnydd o ‘asesiadau effaith ar iechyd’ (gan gynnwys effaith ar iechyd meddwl) ar gyfer gweithrediadau neu benderfyniadau arfaethedig gan gyrff cyhoeddus, ond nid yw’r adran honno mewn grym eto.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 10/12/2022