Masnachu pobl a chaethwasiaeth fodern – camau gweithredu’r Llywodraeth
Camau gweithredu Llywodraeth y DU:
- Ym mis Ebrill 2022, derbyniodd y Ddeddf Cenedligrwydd a Ffiniau Gydsyniad Brenhinol. Mae’r ddeddf yn cynnwys newidiadau i ddulliau adnabod ac amddiffyniad o, a chefnogaeth i, ddioddefwyr masnachu pobl a chaethwasiaeth fodern, gan gynnwys darpariaethau i anghymhwyso unigolyn rhag amddiffyniad ar y sail bod yr unigolyn yn fygythiad i drefn gyhoeddus neu ei fod wedi honni bod yn ddioddefwr trwy anonestrwydd.
- Ym mis Tachwedd 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ddatganiad caethwasiaeth fodern wedi ei ddiweddaru 2020/21, yn amlinellu ei ymdrechion i gael gwared ar gaethwasiaeth fodern ar draws ei gadwyni cyflenwi a mesurau gwario.
- Ym mis Hydref 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei Adroddiad Blynyddol ar Gaethwasiaeth Fodern. Nododd yr adroddiad bod adolygiad o’r Strategaeth Caethwasiaeth Fodern i Gymru a Lloegr wrthi’n cael ei lunio. Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o adroddiadau blynyddol ar gaethwasiaeth fodern a ddechreuodd yn 2017.
- Ym mis Mehefin 2021, fe ymrwymodd Llywodraeth y DU i sefydlu un corff gorfodi ar gyfer hawliau cyflogaeth.
- Ym mis Mawrth 2021, fe lansiodd y Swyddfa Gartref gofrestrfa datganiad caethwasiaeth fodern ar-lein i alluogi sefydliadau i rannu’r camau a gymerwyd ganddynt i fynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern.
- Ym mis Ionawr 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y DU raglen arolygu newydd o wasanaethau ar gyfer dioddefwyr caethwasiaeth fodern, wedi ei harwain gan y Comisiwn Ansawdd Gofal.
- Ym mis Ionawr 2021, aeth Cytundeb Gofal Dioddefwyr Caethwasiaeth Fodern yn fyw yng Nghymru a Lloegr, er mwyn darparu cefnogaeth bellach, wedi ei theilwra i oedolion sy’n ddioddefwyr caethwasiaeth fodern.
- Ym mis Mawrth 2020, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ganllawiau statudol i Gymru a Lloegr ar adnabod a chefnogi dioddefwyr caethwasiaeth fodern, yn unol ag adran 49(1) Deddf Gaethwasiaeth Fodern 2015, gyda diweddariadau pellach wedi eu gwneud gydol 2021/22.
- Yn 2020, fe sefydlodd Llywodraeth y DU Raglen Drawsnewid Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol (NRM) i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu’r system NRM bresennol.
- Ym mis Medi 2019, fe lansiodd Llywodraeth y DU y broses asesu anghenion adfer er mwyn darparu cefnogaeth i oedolion sy’n ddioddefwyr caethwasiaeth fodern wedi eu cadarnhau gyda chefnogaeth i adfer o’r ecsbloetiaeth.
- Ym mis Gorffennaf 2019, fe lansiodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad ar dryloywder mewn cadwyni cyflenwi. Yn ei ymateb i’r ymgynghoriad, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2020, fe ymrwymodd Llywodraeth y DU i nifer o fesurau i fynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern mewn cadwyni cyflenwi, gan gynnwys newidiadau deddfwriaethol i ddod â chyrff cyhoeddus penodol o fewn gofynion adrodd ar gaethwasiaeth fodern.
- Ym mis Gorffennaf 2019, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fuddsoddiad o £10 miliwn i greu Canolfan Polisi a Thystiolaeth newydd ar gyfer Caethwasiaeth Fodern a Hawliau Dynol, gyda’r bwriad o wella’r dealltwriaeth o gaethwasiaeth fodern a chryfhau ymateb y DU ymhellach.
- Ym mis Medi 2018, cyhoeddodd Llywodraeth y DU Adolygiad Annibynnol o’r Ddeddf Caethwasiaeth Fodern. Roedd yr adroddiad terfynol am yr Adolygiad Annibynnol, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2019, yn cynnwys 80 o argymhellion ar gyfer Llywodraeth y DU. Cafodd rhai ohonynt eu derbyn ac mae rhai’n destun ymgynghori pellach.
- Ym mis Hydref 2017, cyhoeddodd Llywodraeth y DU nifer o ddiwygiadau i’r NMR, gan gynnwys creu uned arbenigol i fynd i’r afael â’r holl achosion a atgyfeiriwyd gan staff y rheng flaen, panel annibynnol o arbenigwyr i adolygu penderfyniadau negyddol a system ddigidol newydd i gasglu a dadansoddi data.
- Ym mis Hydref 2017, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gynnydd yn yr isafswm o gyfnod cefnogaeth ‘symud ymlaen’– megis llety, cwnsela, cyngor arbenigol ac eiriolaeth – ar gyfer dioddefwyr masnachu pobl a chaethwasiaeth fodern sy’n cael eu cydnabod o 14 niwrnod i 45 niwrnod.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 10/12/2022