Cadw oherwydd iechyd meddwl – asesiad Llywodraeth y DU
Cynnydd cyfyngedig
Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol, ond mae tystiolaeth gyfyngedig iawn o welliannau parhaus o ran mwynhad hawliau dynol ar y mater hwn.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymroi i gyflwyno Bil Iechyd Meddwl newydd a gweithredu cyfreithiau newydd i atal defnydd grym mewn unedau iechyd meddwl. Fodd bynnag, mae cyfraddau cadw yn parhau i fod yn uchel, yn arbennig ar gyfer pobl Ddu, ac mae defnydd o ataliad yn eang. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi methu targedau yn fynych i leihau defnydd o ofal cleifion preswyl ar gyfer pobl gydag awtistiaeth a’r rhai gydag anableddau dysgu, ac mae tystiolaeth o driniaeth wael a cham-drin yn y lleoliadau hyn. Mae’r pandemig coronafeirws (COVID-19) wedi gwaethygu cyfraddau cyffredinol o iechyd meddwl gwael ac wedi lleihau mesurau diogelwch mewn lleoliadau cadw iechyd meddwl.
- Mae achosion cyffredinol o gadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl (MHA) yn dal i godi. Roedd yna bron i 51,000 achos cofnodedig o gadw dan yr MHA yn Lloegr yn 2019–20, uwch na’r ddwy flynedd flaenorol, er y bydd y gwir gyfanswm yn uwch gan nad yw pob darparwr yn cyflwyno data.
- Dengys tystiolaeth bod pobl Ddu mwy na phedair gwaith yn fwy tebygol o gael eu cadw dan yr MHA na phobl Wyn, ac yn fwy na 10 gwaith yn fwy tebygol i fod yn destun gorchmynion triniaeth cymunedol. Mae pobl yn byw yn yr ardaloedd mwyaf amddifad tua dair a hanner gwaith yn fwy tebygol i gael eu cadw na’r rhai yn yr ardaloedd lleiaf amddifad.
- Awgryma tystiolaeth bod nifer o bobl sy’n cael eu cadw oherwydd iechyd meddwl ddim yn ymwybodol o’u hawliau, ac nid ydynt yn cael eu cynnwys wrth gynllunio eu gofal.
- Mae papur gwyn Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar ddiwygio’r MHA yn cynnwys cynigion i wella dewis a rheolaeth, a allai, os bydd wedi ei weithredu’n gywir a gydag adnoddau priodol, arwain at ddull sy’n sylweddol fwy seiliedig ar hawliau dynol.
- Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi methu bodloni targedau i leihau defnydd o ofal cleifion preswyl ar gyfer pobl gydag awtistiaeth a’r rhai gydag anableddau dysgu. Yn Awst 2021 roedd yna o leiaf 2,040 o bobl yn dal i fod mewn unedau cleifion preswyl yn Lloegr, ac roedd 56% wedi eu cadw ers dros ddwy flynedd, yn aml yn bell o gartref. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi sefydlu bwrdd cyflawni dan arweiniad gweinidog i oruchwylio cynnydd ac wedi ymroi i gyhoeddi cynllun gweithredu manwl.
- Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Tŷ’r Cyffredin a’r Cydbwyllgor ar Hawliau Dynol ill dau wedi beirniadu Llywodraeth y Deyrnas Unedig parthed triniaeth wael pobl gydag anableddau dysgu ac/neu awtistiaeth mewn lleoliadau cleifion preswyl. Casglodd adolygiad annibynnol a gyhoeddwyd yng Ngorffennaf 2021 bod yna sawl “rhwystr systemig yn oedi rhyddhau”.
- Mae defnydd o ataliaeth mewn lleoliadau cadw iechyd meddwl yn gyffredinol yn dal i fod yn uchel, yn arbennig ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu ac/neu awtistiaeth, ac yn effeithio’n anghymesur ar bobl o grwpiau Duon a lleiafrifoedd ethnig eraill a menywod a merched.
- Canfu adroddiad y Comisiwn Ansawdd Gofal ar ddefnydd o ataliad, neilltuaeth a chadw ar wahân dystiolaeth o gyfyngiadau cyffredinol ac arferion ataliol amhriodol.
- Mae’r Ddeddf Unedau Iechyd Meddwl (Defnydd Grym) 2018, sy’n cynnwys mesurau a fwriadwyd i leihau defnydd o ataliaeth a gwella atebolrwydd mewn lleoliadau iechyd meddwl, yn dal heb ei chyflwyno, er bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi y bydd yn cael ei gweithredu yn Nhachwedd 2021.
- Caniataodd deddfwriaeth argyfwng a chanllawiau yn ystod y pandemig ar gyfer y posibilrwydd o leihau mesurau diogelwch ar gadw. Cafwyd bod awgrym yn y canllaw y gallai pobl gael eu cadw ar sail asesiadau o bell i fod yn anghyfreithlon a chafodd yr adran berthnasol ei thynnu’n ôl.
- Ar gychwyn y pandemig, fe arweiniodd yr ymgyrch i leihau niferoedd cleifion preswyl at rai yn cael eu rhyddhau gyda chynlluniau gofal anniogel neu ddim cynllun o gwbl.