Nawdd cymdeithasol (budd-daliadau lles) – asesiad Llywodraeth y DU
Dim cynnydd
Ni chafwyd unrhyw newidiadau cyfreithiol na pholisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol o ran y mater hwn, a thystiolaeth gyfyngedig iawn sydd o’r cynnydd o ran mwynhad o'r hawliau hyn.
Mae sawl diwygiad lles parhaol a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU, gan gynnwys y terfyn o ddau blentyn, wedi cael effaith andwyol ar allu pobl i fwynhau hawliau dynol, yn enwedig menywod, pobl anabl, pobl o leiafrifoedd ethnig a rhieni unigol. Canfu fod prosesau asesu a gwneud penderfyniadau ynghylch hawl i fudd-daliadau yn rhoi pobl anabl dan anfantais. Fodd bynnag, cyflwynodd y Llywodraeth sawl mesur cadarnhaol dros dro mewn ymateb i bandemig coronafeirws (COVID-19) sydd wedi chwarae rôl hanfodol o ran atal pobl rhag colli eu swyddi a’u hincwm hyd yma.
- Mae diwygiadau i nawdd cymdeithasol ledled y DU a gyflwynwyd drwy Ddeddf Diwygio Lles a Gwaith 2016 – gan gynnwys y cap ar fudd-daliadau, y terfyn o ddau blentyn a’r penderfyniad i rewi rhai budd-daliadau lles am bedair blynedd – yn cael effaith anghymesur o negyddol ar y bobl dlotaf mewn cymdeithas, ynghyd â menywod, pobl anabl, pobl o leiafrifoedd ethnig a rhieni unigol.
- Mae nifer o gyrff awdurdodol rhyngwladol annibynnol wedi mynegi pryderon ynghylch effaith y Ddeddf Diwygio Lles a Gwaith ar allu rhai grwpiau i fwynhau hawliau dynol. Yn 2016, canfu Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau fod y Ddeddf yn cyfrannu at dorri hawliau anabledd mewn modd difrifol a systemig, gan gynnwys yr hawl i safon byw ddigonol ac amddiffyniad cymdeithasol.
- Mae’r terfyn o ddau blentyn ar gyfer yr elfen blant o gredydau treth a Chredyd Cynhwysol wedi cael effaith ddinistriol ar dlodi plant. Amcangyfrifir y bydd 300,000 o blant yn cael eu gwthio i dlodi erbyn 2023–24 o ganlyniad uniongyrchol i’r polisi, ac y bydd mwy na hanner yr aelwydydd sydd â thri o blant neu fwy yn byw mewn tlodi.
- Mae’r terfyn o ddau blentyn yn cael effaith anghymesur ar grwpiau ethnig a chrefyddol – gan gynnwys grwpiau Pacistanaidd, Bangladeshaidd, Sipsiwn, Roma a Theithwyr, Mwslimaidd ac Iddewig Uniongred – lle mae teuluoedd mawr yn fwy cyffredin.
- Mae’r cyfnod aros o bum wythnos i bobl newydd sy’n hawlio Credyd Cynhwysol wedi arwain at galedi ariannol i rai unigolion a theuluoedd. Mae tystiolaeth gan Ymddiriedolaeth Trussell yn dangos y gwelir cynnydd o 52% yn y galw ar fanciau bwyd ar gyfartaledd pan fydd Credyd Cynhwysol wedi bod ar waith am flwyddyn yn yr ardal leol.
- Rydym yn rhannu pryderon bod asesiadau a phrosesau gwneud penderfyniadau ynghylch hawl i fudd-daliadau yn rhoi pobl anabl dan anfantais anghymesur, a bod rhwystrau penodol i bobl sydd â chyflyrau iechyd meddwl a chyflyrau cyfnewidiol. Yn 2019–20, cafodd 71% o’r penderfyniadau ynghylch budd-daliadau yr apeliwyd yn eu herbyn mewn tribiwnlys eu gwrthdroi, cynnydd o 55% yn 2015–16.
- Mynegwyd pryderon ynghylch y dulliau a ddefnyddir i hawlio ac asesu budd-daliadau, y dadleuir eu bod wedi arwain at farwolaethau nifer o bobl sy’n hawlio budd-daliadau.
- Yn 2017, dyfarnodd yr Uchel Lys fod rheoliadau a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU a oedd yn cyfyngu ar gymhwysedd pobl â chyflyrau iechyd meddwl i hawlio elfen symudedd cyfradd uwch y Taliadau Annibyniaeth Personol yn anghyfreithlon.
- Cyflwynodd Llywodraeth y DU sawl mesur cadarnhaol dros dro mewn ymateb i’r pandemig – gan gynnwys y cynllun ffyrlo, a’r ymgodiad dros dro mewn Credyd Cynhwysol a Chredyd Treth Gwaith – sydd wedi chwarae rôl hanfodol o ran atal pobl rhag colli eu swyddi a’u hincwm hyd yma. Cynyddodd nifer y bobl newydd a oedd yn hawlio Credyd Cynhwysol 2.4 miliwn rhwng mis Mawrth a mis Mai 2020.
- Fodd bynnag, mae pryderon bod diffyg ymgodiad cyfatebol i bobl sy’n cael budd-daliadau etifeddol, y mae’r mwyafrif ohonynt yn anabl, yn wahaniaethol.
- Mae’r broses o roi’r newidiadau i oedran pensiwn y wladwriaeth ar waith yn parhau i gael effaith anghymesur ar fenywod. Gwelir yr effaith fwyaf ar y rhai a anwyd rhwng mis Hydref 1953 a 1954 a’r rhai sydd ar incwm isel.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 12/07/2021