Addysg gynhwysol – asesiad Llywodraeth Cymru
Cam yn ôl
Gwelwyd cam cyson neu ddifrifol yn ôl o ran mwynhad hawliau dynol, neu leihad arwyddocaol mewn safonau hawliau dynol neu amddiffyniadau dan y gyfraith neu bolisi
Mae’r gyfran o ddisgyblion anabl sy’n mynychu ysgolion arbennig wedi cynyddu’n raddol dros nifer o flynyddoedd. Mewn ymateb, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno newidiadau arwyddocaol i wella cefnogaeth i blant gydag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), er ei bod yn rhy fuan i adolygu effaith y newidiadau hyn oherwydd oedi wrth weithredu. Mae’r pandemig coronafeirws (COVID-19) wedi creu heriau penodol o ran mynediad plant anabl i addysg, a allai waethygu gwahaniaethau addysgol. Fodd bynnag, nid yw Llywodraeth Cymru wedi addasu’r rhwymedigaethau cyfreithiol parthed anghenion addysgol arbennig.
- Gwnaeth y nifer o ddisgyblion gyda ADY mewn ysgolion prif ffrwd yng Nghymru leihau o 97,551 yn Ionawr 2020 i 92,359 yn Ebrill 2021, tra bod y nifer yn mynychu ysgolion arbennig wedi cynyddu pob blwyddyn ers o leiaf 2003, hyd yn oed ble mae’r nifer cyffredinol o blant gyda ADY wedi lleihau. Mae oedi o ganlyniad i’r pandemig wedi achosi ôl-groniad mewn asesiadau ADY, a allai effeithio ar yr ystadegau.
- Mae’r gyfran o blant gydag ADY yn mynychu ysgolion arbennig wedi cynyddu ychydig pob blwyddyn ers 2013–14, yn codi o 4.1% o ddisgyblion i 5.3% yn 2019–20.
- Yn 2021–22, cyllidebwyd cyfanswm gwariant ar ddarpariaeth anghenion addysgol arbennig (AAA) mewn ysgolion gan awdurdodau lleol i fod yn £457 miliwn, cynnydd o 5.7% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
- Golyga amrywiaethau mewn cyllid AAA ar draws Cymru bod y lefel o gefnogaeth fydd plentyn yn ei dderbyn yn gallu dibynnu ar yr ysgol mae’n ei mynychu, yn hytrach na’i anghenion unigol. Yn 2021–22, mae’r gyllideb AAA mwyaf fesul disgwyl yn £1,275 mewn un awdurdod lleol, o gymharu â dim ond £743 mewn lleoliad arall.
- Mae’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) (Deddf ADY), a gyflwynwyd wedi oedi arwyddocaol, yn cynnwys dyletswyddau i gyrff perthnasol dalu sylw dyledus i Gonfensiwn y CU ar Hawliau’r Plentyn (UN CRC) a Chonfensiwn y CU ar Hawliau Pobl ag Anableddau (UN CRPD). Ni fydd hyn yn berthnasol i Erthyglau 24(2) (a) a (b) yr UN CRPD, sy’n gwarantu’r hawl i addysg gynhwysol, oherwydd ei fod ar gadw gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
- Disgwylir y gallai dros 90,000 o blant elwa o weithrediad y Ddeddf ADY. Fodd bynnag, mae’r system wedi wynebu beirniadaeth, gan gynnwys ynghylch cefnogaeth anghyfartal ar gyfer pob dysgwr ADY, sut fydd meini prawf dynodi yn cael ei weithredu a diffyg eglurder yng nghanllawiau’r llywodraeth ar weithrediad ymarferol y ddeddf.
- Cafodd amserlen Llywodraeth Cymru ar gyfer trosglwyddo o’r system AAA i’r system ADY newydd ei haddasu yng Ngorffennaf 2021 i ganiatáu mwy o amser i leoliadau addysgol gynllunio ar gyfer y newidiadau, gan ychwanegu oedi pellach ar gyfer plant sydd eisoes yn y system.
- Mae pryderon ynghylch sut fydd y Ddeddf ADY yn cael ei hariannu, yn arbennig o ystyried toriadau i gyllidebau awdurdodau lleol ac ysgolion yn y blynyddoedd diwethaf.
- Adroddodd disgyblion anabl lefel uwch o amhariad i’w haddysgu yn ystod y pandemig na disgyblion nad ydynt yn anabl, ac mae perygl y gallai effaith barhaus y pandemig gynyddu anghydraddoldeb addysgol presennol ar gyfer plant anabl.
- Er gwaethaf Deddf y Coronafeirws 2020 yn rhoi pwerau i weinidogion ymlacio dyletswyddau statudol ar ddarpariaeth AAA, dewisodd Llywodraeth Cymru beidio addasu’r goblygiadau hyn.
- Mynychodd cyfartaledd o ddim ond 2.7% o ddisgyblion ‘agored i niwed’, yn cynnwys rhai gydag AAA, yr ysgol rhwng Mawrth a Mai 2020. Heb gefnogaeth briodol, arweiniodd dysgu o bell at heriau penodol ar gyfer disgyblion gydag ADY, fel adnoddau dysgu ar-lein ddim yn hygyrch iddynt.