Gofal cymdeithasol – Gweithredu gan y llywodraeth
Gweithredu gan Lywodraeth y DU
- Ym Medi 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig drefniadau cyllido newydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys:
- ardoll iechyd a gofal cymdeithasol 1.25% ar draws y Deyrnas Unedig ar gyfer gweithwyr, pobl hunangyflogedig a chyflogwyr, yn seiliedig ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol
- buddsoddiad o £5.4 biliwn mewn gofal cymdeithasol oedolion yn Lloegr yn ystod y tair blynedd nesaf
- ail-ymroddiad i gyflwyno papur gwyn ar ddiwygio gofal cymdeithasol cyn diwedd 2021
- cyflwyno cap o £86,000 yn Lloegr o Hydref 2023 ar gostau gofal personol oes, a chynnydd mewn cymhwystra ar gyfer cefnogaeth ariannol ar sail prawf modd i bobl gydag asedau hyd at £100,000. Bydd defnyddwyr gofal gydag asedau o £20,000 neu lai yn talu faint gallant ei fforddio o’u hincwm yn unig.
- Yng Ngorffennaf 2021, cyflwynodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sy’n cynnwys darpariaethau i wella integreiddiad iechyd a gofal cymdeithasol yn Lloegr, ac i wella trosolwg ar gyfer gofal cymdeithasol. Mae’n adeiladu ar bapur gwyn iechyd a gofal cymdeithasol a gyhoeddwyd yn Chwefror 2021.
- Ym Mehefin 2021, cyhoeddodd yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol ganllaw ar Drefniadau Amddiffyn Rhyddid (LPS) i awdurdodi amddifadu o ryddid yng Nghymru a Lloegr ar gyfer pobl nad oes ganddynt alluedd, ac ymroi i ymgynghoriad cyhoeddus. Bydd yr LPS yn dod yn weithredol yn Ebrill 2022.
- Yn Ionawr 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig adolygiad annibynnol o’r system gofal cymdeithasol plant yn Lloegr i wella deilliannau ar gyfer plant mewn gofal.
- O Fawrth 2020, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyflwyno nifer o fesurau cyllido a pholisi i gefnogi’r sector gofal cymdeithasol i ymateb i bandemig y coronafeirws (COVID-19).
- Ym Mawrth 2020, pasiodd Senedd y DU Ddeddf y Coronafeirws 2020, gan ymlacio dyletswyddau cyfreithiol dros dro .ynghylch darpariaeth gofal cymdeithasol oedolion yng Nghymru a Lloegr, a gofal plant yn Lloegr. Daeth addasiadau i ddarpariaeth gofal plant i ben ym Medi 2020 a daeth y llacio’r Ddeddf Gofal i ben yng Ngorffennaf 2021.
- Yn Ebrill 2017, cyflwynodd y Ddeddf Plant a Gwaith Cymdeithasol 2017 newidiadau i ddyletswyddau awdurdodau lleol o ran plant sy’n derbyn gofal, trefniadau diogelu lleol a rheoleiddio gweithwyr cymdeithasol plant.
Gweithredoedd Llywodraeth Cymru Mae gofal cymdeithasol wedi ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru.
- Ym Medi 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £48 miliwn yn ychwanegol ar gyfer y gronfa adfer COVID-19 ar gyfer gofal cymdeithasol.
- Yng Ngorffennaf 2021, daeth darpariaethau dan y Ddeddf Coronafeirws yn caniatáu addasiadau am gyfnod cyfyngedig i ddyletswyddau gofal cymdeithasol oedolion yng Nghymru i ben.
- Ym Mehefin 2021, roedd ‘Rhaglen Lywodraethu 2021 i 2026’ Llywodraeth Cymru yn cynnwys ymrwymiadau i ddeddfu i wella integreiddiad gofal ac iechyd.
- Ym Mawrth 2021, lansiodd Llywodraeth Cymru strategaeth i wella cydnabyddiaeth o, a chefnogaeth ar gyfer, gofalwyr di-dâl a chyhoeddi £3 miliwn o gyllid i gefnogi seibiant neu egwyl fer i ofalwyr di-dâl.
- Rhwng Ionawr ac Ebrill 2021, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar ei bapur gwyn ar ail-gydbwyso gofal a chymorth, oedd yn cynnwys cynigion i ddatblygu fframwaith genedlaethol ar gyfer comisiynu gofal cymdeithasol ac i hybu rôl byrddau partneriaethau rhanbarthol.
- Ym Mehefin 2020, deddfodd Llywodraeth Cymru i greu’r Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gynrychioli barn y cyhoedd. Mae disgwyl i hyn ddod yn weithredol yn Ebrill 2023.
- Yn Ebrill 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £40 miliwn o gyllid i gefnogi’r sector gofal cymdeithasol oedolion tuag at gostau ychwanegol y pandemig.
- Yn Chwefror 2018, cyhoeddwyd Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Dementia 2018-2022.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 30/09/2021