Nawdd cymdeithasol (budd-daliadau lles) – Gweithredu’r llywodraeth
Camau gweithredu Llywodraeth y DU
- Ym mis Mawrth 2021, cafodd rheoliadau eu pasio i gyflwyno dull amlsianel newydd o gynnal asesiadau iechyd ar gyfer amrywiaeth o fudd-daliadau ledled y DU, a byddai asesiadau dros fideo yn cael eu defnyddio ynghyd ag asesiadau dros y ffôn, wyneb yn wyneb ac ar bapur.
- Ym mis Chwefror 2021, cafodd Deddf Cynlluniau Pensiwn 2021 ar gyfer Cymru, Lloegr a’r Alban gydsyniad brenhinol. Mae’r Ddeddf yn cynnwys mesurau i ehangu opsiynau cynlluniau pensiwn i gyflogwyr, cryfhau pwerau’r Rheoleiddiwr Pensiynau i ddiogelu pensiynau cynilwyr, a rhoi fframwaith ar gyfer ‘dangosfyrddau pensiynau’ er mwyn gwella gwybodaeth i gynilwyr.
- Ym mis Ionawr 2021, gwnaeth Llywodraeth y DU gynyddu cyfradd budd-daliadau oedran gweithio a budd-daliadau anabledd yn unol â chyfradd chwyddiant – 0.5% – yng Nghymru a Lloegr. Daeth y cyfraddau newydd i rym ym mis Ebrill 2021 a byddant yn gymwys tan yr adolygiad nesaf.
- Ym mis Mawrth 2020, cyflwynodd Llywodraeth y DU nifer o fesurau mewn ymateb i bandemig COVID-19, gan gynnwys:
- y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws, a ganiataodd i gyflogwyr hawlio grant gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) i dalu canran o gyflog ‘gweithwyr ar ffyrlo’ (80% yn y lle cyntaf). Ers hynny, mae’r cynllun hwn wedi cael ei estyn tan fis Medi 2021, ond gyda lefel llai o grant ac amodau cymhwyso ychwanegol
- y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedigi roi cymorth ariannol i bobl hunangyflogedig
- y penderfyniad i atal amodoldeb budd-daliadau dros dro ar gyfer Credyd Cynhwysol a’r Lwfans Ceisio Gwaith ar ei newydd wedd ledled y DU tan fis Gorffennaf 2020
- y penderfyniad i atal y ‘terfyn incwm isaf’ dros dro ar gyfer pobl hunangyflogedig sy’n hawlio Credyd Cynhwysol tan ddiwedd mis Gorffennaf 2021
- cynnydd o £20 yr wythnos yng nghyfraddau Credyd Cynhwysol a Chredyd Treth Gwaith tan fis Ebrill 2021. Ers hynny, mae’r ymgodiad Credyd Cynhwysol wedi cael ei estyn tan fis Hydref 2021 a chyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai’r rhai sy’n hawlio Credyd Treth Gwaith yn cael taliad untro o £500 yn 2021–22
- deddfwriaeth er mwyn gallu ‘uwchraddio’ pensiwn y wladwriaeth yn 2021–22, yn unol ag ymrwymiadau blaenorol Llywodraeth y DU
- cyflwyno asesiadau iechyd dros y ffôn ar gyfer budd-daliadau anabledd a salwch yn y DU, a chanslo asesiadau iechyd wyneb yn wyneb
- gohirio adolygiadau o fudd-daliadau am dri mis er mwyn sicrhau na fyddai taliadau’r rhai sy’n cael budd-daliadau anabledd yn dod i ben ar ddechrau’r pandemig.
- Ym mis Mawrth 2020, ailddatganodd Llywodraeth y DU ei safbwynt i beidio ag ailystyried y mater o roi iawndal i fenywod yr effeithiwyd arnynt gan fesurau a gyflwynwyd i gyflymu’r broses o gydraddoli oedran pensiwn y wladwriaeth yn 2011.
- Ym mis Chwefror 2020, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai oedi pellach cyn cwblhau’r broses o roi Credyd Cynhwysol ar waith, a disgwylir bellach y caiff y broses ei chwblhau yn 2024. Cafodd y cynllun peilot ‘Move to Universal Credit’ – a sefydlwyd i brofi dulliau o symud hawlwyr budd-daliadau etifeddol a chredydau treth sy’n weddill i Gredyd Cynhwysol – ei atal dros dro ym mis Mawrth 2020, o ganlyniad i’r pandemig.
- Ym mis Ionawr 2019, cyhoeddodd Llywodraeth y DU na fyddai’r cynlluniau i estyn y terfyn o ddau blentyn ar gyfer Credyd Cynhwysol i blant a anwyd cyn i’r polisi gael ei gyflwyno ym mis Ebrill 2017 yn mynd rhagddynt.
- Ym mis Rhagfyr 2017, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y gallai pobl na allant deithio oherwydd trallod seicolegol llethol gael elfen symudedd cyfradd uwch y Taliadau Annibyniaeth Personol ar ôl i’r Uchel Lys ddyfarnu bod Rheoliadau Nawdd Cymdeithasol (Taliad Annibyniaeth Personol) (Diwygio) 2017 yn anghyfreithlon.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 12/07/2021