Gofal cymdeithasol – asesiad Llywodraeth Cymru
Cynnydd cyfyngedig
Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol, ond mae tystiolaeth gyfyngedig iawn o welliannau parhaus o ran mwynhad hawliau dynol ar y mater hwn.
Rydym wedi gweld rhai diwygiadau i’w croesawu yn y fframwaith polisi a chyfreithiol ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf, ond mae diffyg data ar gael ynghylch lefelau o angen nas diwallwyd ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol. Mae lefelau boddhad gydag ansawdd gofal yn parhau i fod yn gyson, ond mae tystiolaeth o well deilliannau i rai sy’n derbyn gofal yn gyfyngedig. Mae’r pandemig coronafeirws (COVID-19) wedi cyfyngu ar ddarparu gofal a chodi pryderon difrifol ynghylch y gallu i gadw pobl mewn cartrefi gofal yn ddiogel. Mae hawliau dynol pobl anabl a phobl hŷn wedi eu heffeithio’n anghymesur.
- Cyn y pandemig, roedd gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru dan gryn bwysau oherwydd galw am ofal a ariennir gan awdurdodau lleol, pwysau ariannol a phrinder staff.
- Yn 2018, mynegwyd pryderon ynghylch y lefelau o angen nas diwallwyd ac yn 2019 amcangyfrifwyd bod 96% o’r holl ofal yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan ofalwyr di-dâl, sy’n anghymesur yn fenywod.
- Roedd lefelau boddhad gydag ansawdd gofal yn parhau yn gyson; yn 2018-19, graddiodd 71% o’r bobl a dderbyniodd ofal neu gefnogaeth ei fod yn rhagorol neu dda.
- Yn 2018 mynegodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru bryderon parhaus ynghylch y profiad ac amddiffyniadau hawliau pobl hŷn yn byw mewn cartrefi gofal preswyl, yn cynnwys defnyddio meddyginiaeth gwrthseicotig, diffyg hyfforddiant dementia ar gyfer staff, a phroblemau gyda phrosesau cynllunio gweithlu ac arolygu.
- Mynegodd adolygiad cenedlaethol o gartrefi gofal yng Nghymru ar gyfer pobl â dementia yn 2020 bryderon ynghylch tramgwyddau hawliau dynol wedi eu hachosi gan oedi arwyddocaol mewn ceisiadau Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid.
- Mae ymchwil wedi amlygu’r angen i ddiwygio gofal cymdeithasol yng Nghymru i ddelio â chyllid am alw cynyddol, i wella amodau ar gyfer y gweithlu, ac i daclo gwasanaeth gofal cymdeithasol dameidiog.
- Mae’r nifer o blant ‘sy’n derbyn gofal’ yng Nghymru wedi cynyddu o 28% rhwng 2015 a 2020, ac mae’r bwlch yn lledaenu gyda gwledydd eraill y Deyrnas Unedig.
- Canfu adolygiad cenedlaethol o gartrefi gofal yng Nghymru yn 2018-19 bod nifer o blant yn derbyn cefnogaeth o ansawdd dda, ond mynegwyd pryderon ynghylch y nifer gynyddol o blant oedd yn mynd ar goll o gartrefi gofal.
- Caniataodd Deddf y Coronafeirws ar gyfer addasiadau i ddyletswyddau penodol gan awdurdodau lleol o ran gofal cymdeithasol oedolion, ond ni ddefnyddiwyd y rhain. Fodd bynnag, yng Ngorffennaf 2020, datganodd Llywodraeth Cymru bod 460 pecyn gofal o 23,000 wedi eu tynnu’n ôl yn ystod y pandemig.
- Canfu adroddiad yn 2021, ‘Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19’, a ysgrifennwyd gan bobl anabl a sefydliadau pobl anabl, dystiolaeth o gydberthynas rhwng lleihau a thynnu gofal yn ôl yn ystod y pandemig ac effaith negyddol ar lesiant pobl anabl.
- Roedd effaith y pandemig ar breswylwyr cartrefi gofal yn anghymesur. Roedd cyfanswm nifer marwolaethau preswylwyr cartrefi gofal o unrhyw achos yn 2020 36% yn uwch na’r flwyddyn flaenorol, yn rhannol oherwydd y nifer o farwolaethau preswylwyr cartrefi gofal a amheuwyd neu a gadarnhawyd i fod o COVID-19.
- Roedd yna dipyn o feirniadaeth ynghylch darparu offer amddiffyn personol, profion a pholisïau cysgodi mewn lleoliadau gofal cymdeithasol oedolion a gofal preswyl yn ystod camau cynnar y pandemig. Mae gan y feirniadaeth yma oblygiadau arwyddocaol o ran hawliau dynol.
- Roedd cau ysgolion yn ystod y pandemig yn tynnu darpariaeth amddiffyn allweddol yn ôl, gan greu risgiau atodol i blant mewn sefyllfaoedd bregus.
- Ni chytunodd Llywodraeth Cymru i ganiatáu hawddfreintiau mewn darpariaeth o ran gofal cymdeithasol i blant yng Nghymru.