Gofal cymdeithasol – asesiad Llywodraeth y DU
Cam yn ôl
Gwelwyd cam cyson neu ddifrifol yn ôl o ran mwynhad hawliau dynol, neu leihad arwyddocaol mewn safonau hawliau dynol neu amddiffyniadau dan y gyfraith neu bolisi
Ymysg galw cynyddol a chyfyngiadau cyllid, roedd mwy o bobl ddim yn derbyn gofal yn y blynyddoedd cyn y pandemig coronafeirws (COVID-19), ac mae darpariaeth gofal cymdeithasol wedi lleihau ymhellach yn ystod y pandemig. Mewn ymateb i’r pandemig, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi addasu’r rhwymedigaethau cyfreithiol mewn perthynas â darpariaeth gofal cymdeithasol ar gyfer oedolion a phlant. Mae’r pandemig wedi cael effaith ddwys ac anghymesur ar hawliau dynol pobl anabl a phobl hŷn, yn arbennig felly’r rhai sy’n byw mewn cartrefi gofal preswyl. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyflwyno cynigion i drawsnewid cyllid gofal cymdeithasol oedolion ac wedi cyhoeddi £5.4 biliwn mewn cyllid atodol yn ystod y tair blynedd nesaf.
- Cyn y pandemig, roedd gofal cymdeithasol oedolion eisoes dan gryn bwysau yn Lloegr, oherwydd y cynnydd mewn galw a lleihad arwyddocaol mewn cyllid i’r llywodraeth ers 2010-11. Cynyddodd ceisiadau ar gyfer gofal cymdeithasol oedolion 6.6% rhwng 2015-16 a 2019-20, ond gostyngodd cyfanswm y nifer o bobl a dderbyniai gefnogaeth 1.2% yn ystod y cyfnod hwn.
- Mae’r gwariant cyfartalog blynyddol ar ofal cymdeithasol y pen wedi cynyddu o £506 yn 2015–16 i £529 yn 2019–20, er bod hyn yn dal yn is na lefelau 2010–11 o £560 y pen.
- Cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig drefniadau cyllido newydd ar gyfer gofal cymdeithasol oedolion ym Medi 2021. Fodd bynnag, mae’n rhy fuan i asesu goblygiadau’r diwygiadau hyn ar gyllid tymor hwy gofal cymdeithasol. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymroi i ddwyn cynigion pellach ymlaen i drawsnewid gofal cymdeithasol oedolion erbyn diwedd 2021.
- Roedd gofal cymdeithasol plant hefyd dan bwysau cyn y pandemig. Mae lleihad mewn cyllid llywodraeth ganolog i awdurdodau lleol a chynnydd mewn costau a galw am ofal wedi creu bwlch cyllid a amcangyfrifir fydd yn cyrraedd £3.1 biliwn erbyn 2024–25.
- Er na ddefnyddiwyd y llacio yng ngofynion y Ddeddf Gofal dan Ddeddf y Coronafeirws 2020 yn helaeth yn Lloegr, mae tystiolaeth fod darpariaeth gofal cartref wedi lleihau’n fwy eang yn ystod cyfnodau cychwynnol y pandemig, gan effeithio’n arbennig ar oedolion anabl a phobl hŷn gydag anghenion gofal.
- Yn ystod gwanwyn 2021, roedd bron i 55,000 o bobl yn aros am asesiad anghenion gofal; roedd bron i 7,000 ohonynt wedi aros am dros chwe mis.
- Dangosodd tystiolaeth o geisiadau rhyddid gwybodaeth i 83 o awdurdodau lleol yn Lloegr bod derbynwyr gofal cymdeithasol yn talu cyfartaledd o 13% yn fwy mewn costau gofal yn 2020–21 o gymharu â 2018–19.
- Yn ystod cyfnod cynnar y pandemig, amcangyfrifwyd bod y nifer o bobl yn darparu gofal anffurfiol, di-dâl yn y DU wedi cynyddu o 4.5 miliwn. Mae gofal di-dâl yn cael ei ddarparu’n anghymesur gan fenywod, ac fe ddengys ymchwil y gall darparu mwy na 10 awr o ofal yr wythnos gael goblygiadau arwyddocaol ar gyfer cyflogaeth a llesiant.
- Rhwng yr wythnos a ddaeth i ben 20 Mawrth 2020 a’r wythnos a ddaeth i ben 11 Medi 2020, roedd cyfanswm nifer y marwolaethau ymysg preswylwyr cartrefi gofal 27,079 yn fwy na’r cyfartaledd pum mlynedd yng Nghymru a Lloegr. Roedd dadansoddiad gan y Comisiwn Ansawdd Gofal (CQC) hefyd yn nodi nifer anghymesur o farwolaethau o COVID-19 ymysg preswylwyr cartrefi gofal Du ac Asiaidd yn Lloegr rhwng Ebrill a Mai 2020.
- Fe gafwyd beirniadaeth o’r methiant i amddiffyn pobl mewn lleoliadau gofal preswyl yn Lloegr yn ystod y pandemig, gan gynnwys cyfyngiadau llwyr ar fynediad at ymweliadau a gofal iechyd, ac adroddiadau fod cleifion yn cael eu rhyddhau’n syth i leoliadau gofal preswyl heb brofion digonol yn ystod camau cynnar y pandemig. Canfu adroddiad interim gan y CQC dystiolaeth o ddefnydd amhriodol o orchmynion ‘na cheisier dadebru’ ar gychwyn y pandemig.