Addysg gynhwysol – Gweithredu gan y llywodraeth
Gweithredu gan Lywodraeth y DU
- Yng Ngorffennaf 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei Strategaeth Anabledd Cenedlaethol, a wnaeth ymrwymiadau i wella addysg plant gydag anghenion addysgol arbennig ac anableddau (AAAA).
- Yn Ebrill 2021, neilltuodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig £280 miliwn i awdurdodau lleol i ddarparu llefydd ysgol newydd ac i wella’r ddarpariaeth gyfredol ar gyfer plant gydag AAAA. Yng Ngorffennaf 2021, cyhoeddwyd cynnydd o £780 miliwn mewn cyllid anghenion uchel ar gyfer 2022–23, yn dilyn cynnydd o £1.5 biliwn yn ystod y ddwy flynedd flaenorol.
- Yng Ngorffennaf 2020, yn dilyn ymrwymiadau blaenorol, fe ail gyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y byddai dros 3,000 o lefydd ychwanegol yn cael eu creu mewn ysgolion rhydd arbennig ar gyfer disgyblion gydag anghenion cymhleth.
- Yng Ngorffennaf 2020, comisiynodd yr Adran Addysg (DfE) Ofsted a’r Comisiwn Ansawdd Gofal (CQC) i edrych ar ardaloedd yn Lloegr i helpu gwella eu systemau AAAA yn dilyn y pandemig coronafeirws (COVID-19), yn ogystal â’r cylch arolygu AAAA
- Rhwng Mawrth a Gorffennaf 2020, roedd ysgolion ar gau oherwydd y pandemig ac eithrio ar gyfer grwpiau cyfyngedig, yn cynnwys plant gydag AAAA neu Gynlluniau Addysgu, Iechyd a Gofal (EHCPs) a bennwyd, ar sail asesiad risg, i fod yn debygol o gael gwell cefnogaeth mewn ysgolion.
- Ym Mawrth 2020, pasiwyd Deddf y Coronafeirws, yn cyflwyno pwerau i addasu cyflawniad addysg AAAA yng Nghymru a Lloegr. Yn Ebrill 2020, galluogodd y Ddeddf Lywodraeth y Deyrnas Unedig i addasu’r goblygiad cyfreithiol ar awdurdodau lleol a chyrff comisiynu iechyd i ddarparu’r gefnogaeth a restrir yn EHCP plentyn. Roedd hyn yn golygu bod dim ond rhaid iddynt wneud ‘ymdrech resymol’ i gyflawni eu dyletswydd. Er bod y newidiadau wedi darfod yng Ngorffennaf 2020, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cadw’r pwerau cyfreithiol i addasu’r ddyletswydd hon, er i nifer o bwerau tebyg yn ymwneud â gofal cymdeithasol oedolion wedi dod i ben. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dynodi ei fwriad i ddiddymu’r ddarpariaeth hon.
- Ym Medi 2019, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig adolygiad ar y cyd mawr i wella cefnogaeth i blant AAAA yn Lloegr, sydd bellach wedi ei ohirio.
Gweithredoedd Llywodraeth Cymru: Mae polisi addysg wedi ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru.
- Mewn ymateb i’r pandemig coronafeirws (COVID-19), caewyd ysgolion yng Nghymru a’u hailagor nifer o weithiau rhwng Mawrth 2020 ac Ebrill 2021. Roeddynt yn dal ar agor ar gyfer plant agored i niwed yn cynnwys dysgwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).
- Yn Chwefror 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai’r cynllun gweithredu ar gyfer y Ddeddf Tribiwnlys Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Addysg (Cymru) 2018 yn cychwyn ym Medi 2021, wedi gohirio gweithrediad yn flaenorol. Bydd y cynllun yn fuddiol yn gyntaf i blant gyda ADY mewn nifer cyfyngedig o feithrinfeydd ac ysgolion, a phlant sydd dan gadw.
- Yn Chwefror 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £9.8 miliwn o gyllid ychwanegol i gefnogi dysgwyr gydag ADY ac i ddiddymu’r rhwystrau i addysg ar gyfer y rhai a effeithiwyd gan y pandemig.
- Yn Ionawr 2021, daeth y Rheoliadau Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol 2020 i rym, yn rhagnodi swyddogaethau rôl y cydlynydd ADY (CADY), penodiad i rolau CADY a chydlyniad darpariaeth addysg ychwanegol mewn ysgolion.
- Yng Ngorffennaf 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai 900 o staff yn cael eu recriwtio i ysgolion, gan greu cefnogaeth atodol ar gyfer dysgwyr difreintiedig a bregus.
- Yn ei Gyllideb 2020-21, ymroddodd Llywodraeth Cymru £8 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol ar gyfer dysgwyr gydag anghenion ADY mewn ysgolion neu addysg bellach.
- Ym Mawrth 2018, diweddarodd Llywodraeth Cymru ei ganllaw ar gynllunio i gynyddu mynediad i ysgolion ar gyfer disgyblion anabl, sy’n cefnogi awdurdodau lleol a darparwyr addysg i sicrhau cydymffurfiad â Deddf Cydraddoldeb 2010.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 30/09/2021