Preifatrwydd – Gweithredu gan y llywodraeth
Gweithredu gan Lywodraeth y DU
- Ym Medi 2021, lansiodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ymgynghoriad ar ddiwygiadau i gyfundrefn diogelu data’r Deyrnas Unedig, yn cynnwys rôl Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
- Ym Mai 2021, cyflwynodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei Fil Diogelwch Ar-lein drafft, sy’n cynnwys mesurau ar ddarparwyr gwasanaeth i dalu sylw i bwysigrwydd diogelu defnyddwyr rhag tor-preifatrwydd anawdurdodedig.
- Ym Mai 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei ymateb i ymgynghoriad a lansiwyd ym Medi 2020 ar y Strategaeth Data Cenedlaethol
- Ym mis Mawrth 2021, cyflwynodd Llywodraeth y DU Fil yr Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a Llysoedd, sy’n cynnwys darpariaethau ar ddefnyddio echdynnu data digidol yn ystod ymchwiliadau troseddol.
- Yn Rhagfyr 2020, cyflwynwyd y Rheoliadau Diogelu Data, Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig (Addasiadau ac ati) (Gadael yr UE) 2020, i sicrhau bod y fframwaith cyfreithiol ar gyfer diogelu data yn y Deyrnas Unedig yn parhau i weithredu’n briodol wedi ymadawiad y Deyrnas Unedig o’r UE.
- Yn Nhachwedd 2020, daeth diwygiadau i reolau datgelu cofnodion troseddol i rym, gan ddiddymu’r gofyniad i ddatgelu rhybuddion a cheryddon ieuenctid yn y rheol collfarnau lluosog’. Roedd hyn yn dilyn dyfarniad gan y Goruchaf Lys yn 2019, a ganfu bod y rheolau datgelu yn anghymesur ac yn groes i hawliau preifatrwydd.
- Yng Ngorffennaf 2020, cyhoeddodd y Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) a Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) y byddai’n rhoi’r gorau i ddefnyddio ffurflenni echdynnu data digidol, a ddefnyddir i gael cydsyniad gan achwynwyr a thystion i chwilio am wybodaeth berthnasol ar eu dyfeisiau digidol. Ym Medi 2020, cyflwynodd yr NPCC arweiniad dros dro newydd yn adlewyrchu argymhellion gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth a’r Llys Apêl.
- Ym Mawrth 2020, cyflwynodd Deddf y Coronafeirws 2020 newidiadau i’r mesurau diogelwch dan y Ddeddf Grymoedd Ymchwilio 2016; roedd y rhain mewn grym am 12 mis.
- Yn Hydref 2018, addasodd y Rheoliadau Cadw a Chaffael Data 2018 y Ddeddf Grymoedd Ymchwilio 2016 i sicrhau bod cyfundrefn cadw data cyfathrebu’r Deyrnas Unedig yn dilyn cyfraith yr UE.
- Ym Mai 2018, daeth y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data i rym ar draws yr UE a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, ac fe’i gweithredwyd yn y Deyrnas Unedig gan y Ddeddf Diogelu Data 2018. Mae’r offerynnau hyn yn rheoleiddio sut mae gwybodaeth bersonol am unigolion yn cael ei thrin, storio, defnyddio a rhannu.
- Ym Mai 2018, daeth y Rheoliadau Rhwydwaith a Systemau Gwybodaeth i rym, yn cyflwyno fframwaith cyfreithiol i sicrhau bod darparwyr gwasanaethau yn gweithredu mewn meysydd seilwaith cenedlaethol critigol yn sefydlu mesurau i wella diogelwch eu rhwydwaith a systemau gwybodaeth.
- Yn 2018, sefydlodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y Swyddfa ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial (AI) a’r Ganolfan ar gyfer Moeseg ac Arloesedd Data i ddarparu cyngor annibynnol, arbenigol ar ddefnydd moesegol o AI a thechnoleg a ysgogir gan ddata.
- Arweiniodd Deddf Grymoedd Ymchwilio 2016 at sefydlu, ym Medi 2017, Swyddfa’r Comisiynydd Grymoedd Ymchwilio (IPCO), a ddisodlodd a chyfuno tri sefydliad blaenorol. Golyga system ‘clo dwbl’, a gyflwynwyd yn 2018, bod yn rhaid i warantau ar gyfer cipio cyfathrebu dan y Ddeddf Grymoedd Ymchwilio gael eu hawdurdodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol ac un o’r comisiynwyr barnwrol sy’n cefnogi’r IPCO.
- Yn Nhachwedd 2016, cyflwynodd y Ddeddf Grymoedd Ymchwilio newidiadau arwyddocaol i’r fframwaith cyfreithiol a rheoleiddio sy’n llywodraethu casglu, cadw a defnyddio data personol gan y wladwriaeth i ddibenion gorfodi’r gyfraith, yn cynnwys gan y gwasanaethau diogelwch, heddlu ac asiantaethau eraill. Roedd yn disodli rhannau o’r Ddeddf Rheoleiddio Grymoedd Ymchwilio 2000 (RIPA).
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 30/09/2021