Addysg gynhwysol – asesiad Llywodraeth y DU
Cam yn ôl
Gwelwyd cam cyson neu ddifrifol yn ôl o ran mwynhad hawliau dynol, neu leihad arwyddocaol mewn safonau hawliau dynol neu amddiffyniadau dan y gyfraith neu bolisi
Er gwaethaf gweithrediad diwygiadau eang ers 2014, mae plant gydag anghenion addysgol arbennig (AAA) ac anableddau (AAAA) yn dal i wynebu rhwystrau o ran mwynhad o’r hawl i addysg. Mae’r nifer o blant gydag AAA sy’n cael eu haddysgu tu allan i ysgolion prif ffrwd yn cynyddu, ac mae dros 3,000 o lefydd newydd yn cael eu creu mewn ysgolion arbennig. Mae’r pandemig COVID-19 wedi creu heriau ychwanegol arwyddocaol, yn cynnwys lleihad mewn cefnogaeth. Mae’n rhy fuan i asesu os yw ymdrechion adfer yn ddigonol i fodloni anghenion plant gydag AAAA.
- Yn Lloegr, mae’r nifer a chyfran o ddisgyblion gydag AAA wedi cynyddu pob blwyddyn ers 2016–17.
- Mae’r canran o fyfyrwyr gydag AAA yn mynychu ysgolion arbennig wedi codi yn y blynyddoedd diwethaf. Yn 2020–21, roedd 9.5% o ddisgyblion gydag AAA yn mynychu ysgolion arbennig a ariennir gan y wladwriaeth, o gymharu â 9.1% yn 2018–2019.
- Mae bwriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gynyddu’r nifer o lefydd mewn ysgolion arbennig yn anghyson gyda safonau hawliau dynol rhyngwladol.
- Mae AAA yn fwy amlwg mewn grwpiau penodol yn cynnwys bechgyn, rhai sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim, a lleiafrifoedd ethnig yn cynnwys plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr a phlant Du Caribïaidd.
- Mae’r lefel o gefnogaeth a ddarperir gan ysgolion ac awdurdodau lleol i ddisgyblion gydag AAA yn cael ei ddisgrifio’n bennaf fel ‘loteri cod post’. Mae plant sy’n mynychu ysgolion academi a disgyblion agored i niwed yn llai tebygol o gael eu dynodi fel AAAA. Er bod plant dan anfantais economaidd-gymdeithasol yn fwy tebygol o gael eu dynodi fel rhai gydag AAAA ar y cyfan, mae’r plant mwyaf difreintiedig mewn ardaloedd o amddifadedd uchel y lleiaf tebygol o gael eu dynodi i fod ag AAAA.
- Mae yna bryderon bod ataliaeth yn cael ei ddefnyddio’n anghymesur yn erbyn plant gydag AAAA. Mae plant gydag AAA yn anghymesur o debygol o gael eu gwahardd o’r ysgol.
- Awgryma’r data sydd ar gael bod y nifer o blant sy’n cael eu haddysgu yn y cartref yn tyfu a gallai plant gydag AAAA fod yn atebol am nifer anghymesur, yn aml o ganlyniad i’w hanghenion ddim yn cael eu diwallu mewn ysgolion.
- Mae gan ddisgyblion gydag AAAA gyfraddau absenoldeb sylweddol uwch – sy’n cynyddu – na’u cyfoedion.
- Mae yna heriau arwyddocaol o ran sicrhau darpariaeth AAAA briodol mewn ysgolion prif ffrwd. Croesawir ymrwymiadau ar gyfer cynnydd mewn cyllid AAAA, ond awgryma ymchwil na fydd hyn yn ddigonol i ddelio â diffygion cyllid parhaus ar lefel awdurdod lleol – a amcangyfrifir i gyrraedd £1.3 biliwn yn 2022–23.
- Fe wnaeth Pwyllgor Dethol Tŷ’r Cyffredin ar Addysg amlygu rhwystrau i ddarparu unioniad ac adferiad priodol i deuluoedd sy’n herio maint y ddarpariaeth AAAA.
- Mae’r pandemig wedi cael effaith arwyddocaol ac anghymesur ar hawliau plant anabl i addysg yn Lloegr, ac mae hyn wedi ei waethygu gan addasiad dros dro goblygiadau cyfreithiol awdurdodau lleol i gefnogi plant gydag AAA. Nid yw’n eglur a fydd cyllid i gynorthwyo plant i ddal i fyny ar addysg a gollwyd yn ddigonol i liniaru effeithiau anghymesur y pandemig ar blant anabl. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi eu hannog i wneud mwy i gefnogi adferiad, yn cynnwys darparu cyllid atodol a gweithredu cynllun dal i fyny trawsadrannol ar gyfer plant anabl.
- Mynegwyd pryderon y bydd yr ymateb i’r pandemig yn arwain at symud disgyblion anabl i ysgolion arbennig ar sail hirdymor.
- Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cynnal ataliad ar Erthygl 24(2)(a) a (b) Confensiwn ar Hawliau Pobl ag Anableddau (UN CRPD), sy’n cwestiynu ei ymroddiad i’r hawl i addysg gynhwysol. Mae’n un o ddim ond dau lofnodwr yn y byd i wneud hyn.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 30/09/2021