Bywyd teuluol, a gorffwys, hamdden a gweithgareddau diwylliannol – asesiad Llywodraeth y DU
Cynnydd cyfyngedig
Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol, ond mae tystiolaeth gyfyngedig iawn o welliannau parhaus o ran mwynhad hawliau dynol ar y mater hwn.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno rhai diwygiadau cadarnhaol mewn perthynas â bywyd teuluol, gan gynnwys camau gweithredu i fynd i’r afael â phriodasau plant ac estyn partneriaethau sifil i gyplau o’r rhyw arall. Fodd bynnag, mae pryderon ynghylch effaith dod â Rheoliad Dulyn III yr UE ar ailuno teuluoedd i ben. Mae cyfyngiadau dros dro a gyflwynwyd i reoli lledaeniad coronafeirws (COVID-19) wedi cael effaith negyddol ar allu pobl i fanteisio ar weithgareddau hamdden, y celfyddydau a gweithgareddau diwylliannol eraill a’u gallu i fwynhau bywyd teuluol, a gwelwyd goblygiadau penodol i bobl mewn lleoliadau gofal preswyl a sefydliadau eraill.
- Disgwylir y bydd cyflwyno ‘ysgariad heb fai’, a ddaw i rym yn hydref 2021, yn arwain at lai o ddrwgdeimlad a gwrthdaro mewn rhai ysgariadau.
- Nid yw Llywodraeth y DU wedi diwygio priodasau crefyddol na chânt eu cydnabod yn gyfreithiol eto, sy’n golygu bod llawer o fenywod Mwslimaidd yn agored i niwed ac ni chânt eu diogelu gan y gyfraith. Mae ymchwil gan y felin drafod annibynnol Civitas yn awgrymu bod posibilrwydd bod dros 60% o fenywod Mwslimaidd yn y DU mewn priodasau crefyddol yn unig, heb wybod nad oes ganddynt yr un hawliau cyfreithiol â’r rhai a ddiogelir mewn uniad sifil.
- Mae ymrwymiad Llywodraeth y DU i godi’r isafswm oedran cyfreithiol ar gyfer priodi i 18 oed yng Nghymru a Lloegr yn ymateb i bryderon bod y gyfraith gyfredol, sy’n caniatáu i bobl 16 oed briodi gyda chydsyniad rhiant, yn gwneud pobl yn agored i gael eu gorfodi i gymryd rhan mewn priodas plentyn. Yn 2019, gwnaed 3,775 o geisiadau am loches gan blant ar eu pen eu hunain yn y DU, sef cynnydd o 15% o 2016.
- Mae’r DU yn parhau i fod ymhlith nifer bach o wledydd Ewropeaidd nad ydynt yn caniatáu i blant sy’n ffoaduriaid noddi perthnasau agos i ymuno â nhw.
- Mae pryderon ynghylch yr effaith y bydd y ffaith nad yw’r DU yn rhwym wrth Reoliad Dulyn III yr UE mwyach yn ei chael ar hawl mudwyr i fywyd teuluol, gan gynnwys plant ar eu pen eu hunain, yn enwedig gan y bydd y gofynion cymhwysedd culach a’r diffiniad o deulu yn rheolau mewnfudo’r DU yn lleihau cyfleoedd i ailuno teuluoedd.
- Cynyddodd nifer y plant a gafodd eu lleoli mewn llety anrheoleiddiedig 54% rhwng 2016 a 2019, a gwnaeth un o bob deg plentyn sy’n derbyn gofal symud cartref o leiaf ddwywaith yn 2018–2019.
- Mae ymchwil yn dangos bod pobl o statws economaidd-gymdeithasol is, pobl sydd â namau corfforol a phobl o leiafrifoedd ethnig yn parhau i gael llai o fynediad i fannau gwyrdd yn Lloegr.
- Mae’r angen i gau cyfleusterau hamdden, adloniant a’r celfyddydau, a chyfyngu arnynt, yn ystod pandemig COVID-19 wedi effeithio ar fynediad pobl i weithgareddau diwylliannol a hamdden, gan arwain at oblygiadau byrdymor a hirdymor i gynaliadwyedd y sectorau hyn.
- Rhwng canol mis Mawrth a chanol mis Mai 2020, gostyngodd nifer yr oedolion yn Lloegr a oedd yn bodloni’r canllawiau ar weithgarwch corfforol 7.1% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, a bu’n rhaid i bobl newid eu hymddygiad am fod canolfannau hamdden, campfeydd a chlybiau chwaraeon ar gau.
- Cafodd mesurau yn cyfyngu ar fynediad i fannau cyhoeddus a gweithgareddau corfforol mewn ymateb i’r pandemig effaith anghymesur ar bobl anabl. Yn dilyn y cyfnod cyntaf o gyfyngiadau symud, roedd dwywaith cymaint o bobl anabl yn teimlo bod COVID-19 wedi lleihau eu gallu i wneud gweithgareddau corfforol neu chwaraeon yn sylweddol o gymharu â phobl nad ydynt yn anabl, gan effeithio ar eu hiechyd meddwl a’u hiechyd corfforol.
- Mae cyfyngiadau ar ymweliadau â lleoliadau gofal preswyl a sefydliadau eraill yn ystod y pandemig – a roddwyd ar waith i ddiogelu’r hawl i fywyd – wedi arwain at gyfyngiadau ar hawliau dynol eraill, gan gynnwys parch at fywyd preifat a bywyd teuluol.
- Drwy gadarnhau Cytuniad Marrakesh, sicrhawyd bod pobl sydd â nam ar y golwg yn gallu parhau i gael gafael ar brintiau o waith sydd dan hawlfraint ar ôl i’r DU ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.