Gwrthderfysgaeth – asesiad Llywodraeth y DU
Dim cynnydd
Ni chafwyd unrhyw newidiadau cyfreithiol na pholisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol o ran y mater hwn, a thystiolaeth gyfyngedig iawn sydd o’r cynnydd o ran mwynhad o'r hawliau hyn.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno deddfwriaeth gyda’r nod o fynd i’r afael â therfysgaeth, yn dilyn nifer o achosion o derfysgaeth. Er bod dyletswydd ar Lywodraeth y DU i ddiogelu’r hawl i fywyd, mae effaith y ddeddfwriaeth newydd hon ar ryddid sifil wedi cael ei beirniadu. Ni ymdriniwyd â sawl pryder hirsefydlog ynghylch hawliau dynol, gan gynnwys hyd y cyfnod cadw cyn cyhuddo, ac mae pryderon ynghylch anghymesuredd o hyd. Fodd bynnag, mae tystiolaeth bod y defnydd o rai o bwerau’r heddlu wedi lleihau, a bod atgyfeiriadau at Prevent yn fwy cytbwys erbyn hyn.
- Ers 2016, mae tueddiadau mewn atgyfeiriadau o dan ddyletswydd Prevent wedi amrywio: cafwyd y nifer uchaf o atgyfeiriadau yn 2015–16 ac roeddent ar eu hisaf yn 2018–2019, cyn codi eto’r flwyddyn ganlynol. O’r atgyfeiriadau yn 2020, cafodd 23% eu trafod gan ‘banel Channel’ a mabwysiadwyd 11% ohonynt fel ‘achos Channel’ am gymorth. Roedd 54% o’r unigolion a atgyfeiriwyd at Prevent a 58% o’r rhai a nodwyd fel achosion Channel yn 20 oed neu’n iau. Roedd oddeutu 25% o’r unigolion a atgyfeiriwyd at Prevent dan 15 oed.
- Yn 2020, gwelwyd y cynnydd blynyddol cyntaf yn nifer yr atgyfeiriadau at Prevent o ganlyniad i bryderon ynghylch terfysgaeth Islamaidd ers 2016. Fodd bynnag, mae anghymesuredd mewn atgyfeiriadau o ganlyniad i bryderon ynghylch terfysgaeth Islamaidd wedi lleihau. Yn 2020, roedd 24% o’r atgyfeiriadau ar gyfer radicaliaeth Islamaidd ac roedd 22% yn ymwneud â radicaliaeth asgell dde. Mewn cymhariaeth, yn 2016, roedd 65% o’r atgyfeiriadau yn ymwneud ag eithafiaeth Islamaidd.
- Mae pryderon hirsefydlog ynghylch goblygiadau dyletswydd Prevent i hawliau, gan gynnwys y risg o wahaniaethu yn erbyn Mwslimiaid, a’r effaith ar hawliau preifatrwydd, rhyddid mynegiant a’r hawl i addysg.
- Yn 2019, barnwyd bod agweddau ar ganllawiau’r ddyletswydd Prevent ar gyfer sefydliadau addysg uwch yng Nghymru a Lloegr yn anghyfreithlon gan y Llys Apêl. Nid yw’r Swyddfa Gartref wedi diweddaru’r canllawiau i adlewyrchu dyfarniad y llys eto.
- Mae rhanddeiliaid wedi mynegi pryderon ynghylch annibyniaeth y sawl a benodwyd yn Adolygydd Annibynnol Prevent yn flaenorol ac ar hyn o bryd, ac mae nifer o sefydliadau allweddol wedi penderfynu boicotio’r adolygiad sydd ar ddod a lansio adolygiad cyfatebol o Prevent.
- Cynyddodd y defnydd o orchmynion i amddifadu unigolion o ddinasyddiaeth Brydeinig i ddelio â phobl sydd dan amheuaeth o derfysgaeth yn gyflym iawn rhwng 2016 a 2017, cyn lleihau eto yn 2018. Rydym yn bryderus na fydd mesurau diogelu presennol i sicrhau na fydd amddifadu o ddinasyddiaeth yn peri i unigolion fod heb wladwriaeth yn ddigonol.
- Rhwng 2016 a 2020, gwelwyd gostyngiad o 83% yn y defnydd o bwerau’r heddlu i stopio, chwilio a chadw unigolion mewn meysydd awyr a phorthladdoedd. Fodd bynnag, mae nifer y bobl Asiaidd a gedwir o dan y pwerau hyn yn parhau i fod yn anghymesur o uchel o gymharu â phobl wyn.
- Mae pryderon ynghylch estyn pwerau’r heddlu o dan Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch ar y Ffin 2019, gan gynnwys i gwestiynu a chadw unigolion mewn porthladdoedd ac wrth ffiniau heb fod angen amheuaeth resymol.
- Arweiniodd y newidiadau a gyflwynwyd yn Neddf Gwrthderfysgaeth a Dedfrydu 2021 at nifer o bryderon ynghylch hawliau dynol, gan gynnwys o ran diffyg tystiolaeth i gyfiawnhau penderfyniadau i gynyddu dedfrydau o garchar.
- Mae data cyfyngedig am y defnydd o weithdrefnau deunydd caeëdig, gan ei gwneud yn anodd asesu a ydynt yn cael eu defnyddio’n briodol, ond mae’n ymddangos y gwnaed llai o ddefnydd ohonynt rhwng 2016 a 2019.
- Er gwaethaf argymhellion Pwyllgor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig i’r DU yn 2015, nid yw’r cyfnod hwyaf ar gyfer cadw cyn cyhuddo mewn achosion terfysgaeth sydd ag awdurdodiad barnwrol wedi cael ei leihau o 14 diwrnod, ac nid yw’r diffiniad o derfysgaeth yn adran 1 o Ddeddf Terfysgaeth 2000 wedi cael ei ddiwygio.