Gwrthderfysgaeth – asesiad Llywodraeth y DU

Asesiad cynnydd

Dim cynnydd

Ni chafwyd unrhyw newidiadau cyfreithiol na pholisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol o ran y mater hwn, a thystiolaeth gyfyngedig iawn sydd o’r cynnydd o ran mwynhad o'r hawliau hyn.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno deddfwriaeth gyda’r nod o fynd i’r afael â therfysgaeth, yn dilyn nifer o achosion o derfysgaeth.  Er bod dyletswydd ar Lywodraeth y DU i ddiogelu’r hawl i fywyd, mae effaith y ddeddfwriaeth newydd hon ar ryddid sifil wedi cael ei beirniadu. Ni ymdriniwyd â sawl pryder hirsefydlog ynghylch hawliau dynol, gan gynnwys hyd y cyfnod cadw cyn cyhuddo, ac mae pryderon ynghylch anghymesuredd o hyd. Fodd bynnag, mae tystiolaeth bod y defnydd o rai o bwerau’r heddlu wedi lleihau, a bod atgyfeiriadau at Prevent yn fwy cytbwys erbyn hyn.

Darllenwch fwy am gamau Llywodraeth y DU ar gwrthderfysgaeth.

Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 12/07/2021