Casgliadau i gloi CERD 2024, paragraff 14

UN recommendation

Argymhelliad Cymreig clir

Dylai’r llywodraeth, gan gynnwys llywodraethau datganoledig a thiriogaethau tramor a dibyniaethau’r Goron:

(a) Roi cyfreithiau gwrth-wahaniaethu a chydraddoldeb cynhwysfawr ar waith ledled y DU, yn enwedig yng Ngogledd Iwerddon a thiriogaethau tramor. Rhaid i’r cyfreithiau hyn ddiffinio gwahaniaethu hiliol yn glir. Mae hyn yn cynnwys ffurfiau uniongyrchol, anuniongyrchol, strwythurol, lluosog, a thrawstoriadol o wahaniaethu. Rhaid i’r cyfreithiau hyn gwmpasu pob maes cyfraith gyhoeddus a phreifat a phob sail o wahaniaethu yn Erthygl 1(1) o’r CERD;

(b) Ddod ag adrannau Deddf Cydraddoldeb 2010 nad
ydynt mewn grym eto i rym, megis Rhan 1 ar y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, adran 9(5)(a) ar wahaniaethu ar sail cast, ac adran 14 ar wahaniaethu ar y cyd;
(c) Sicrhau bod cyfreithiau cydraddoldeb yn cael eu gweithredu’n llawn ac yn effeithiol gan gynnwys trwy fonitro. Mae’r monitro hwn yn cynnwys gweithio gyda sefydliadau sy’n cynrychioli pobl sy’n profi gwahaniaethu hiliol;
(d) Ei gwneud yn ofynnol i gyhoeddi asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb ledled y DU. Sicrhau bod dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn cael ei deddfu ar draws yr holl feysydd perthnasol, megis mewnfudo a gorfodi’r gyfraith;
(e) Godi ymwybyddiaeth am y CERD, cyfreithiau cydraddoldeb domestig, a rhwymedïau ar gyfer dioddefwyr gwahaniaethu hiliol.


Original UN recommendation

The Committee recommends that the State party take all measures, including measures by the devolved governments and by the governments of the overseas territories and the Crown dependencies, where applicable, necessary:
(a) To ensure the adoption of comprehensive anti-discrimination and equality legislation in all jurisdictions of the State party, in particular in Northern Ireland and the overseas territories, containing a clear definition of racial discrimination, which includes direct, indirect, structural, multiple and intersecting forms of discrimination, covering all fields of law in the public and private domains and all prohibited grounds of discrimination, in accordance with article 1 (1) of the Convention;
(b) To bring into legal effect the provisions of the Equality Act 2010 that are not yet in force, such as part 1 on the public sector duty regarding socioeconomic inequalities, section 9 (5) (a) on caste-based discrimination and section 14 on combined discrimination;

(c) To ensure the full and effective implementation of equality legislation, including through adequate monitoring mechanisms with the participation of organizations representative of the groups most exposed to racial discrimination;

(d) To make equality impact assessments and their publication compulsory in all jurisdictions of the State party and ensure the effective implementation of the public sector equality duty introduced under section 149 of the Equality Act 2010 in all relevant areas, including in the context of immigration and law enforcement;

(e) To increase efforts aimed at raising awareness among the population about the Convention, equality legislation and the remedies available for victims of racial discrimination.

Date of UN examination

24/09/2024

Diweddarwyd ddiwethaf ar 14/04/2025