Casgliadau i gloi ICESCR 2025, paragraff 57
Argymhelliad Cymreig clir
Dylai’r Llywodraeth:
(a) Sicrhau addysg plant yn y blynyddoedd cynnar sy’n dda a fforddiadwy i bob plentyn, yn enwedig i blant o gefndiroedd difreintiedig;
(b) Mynd i’r afael â chyfleoedd dysgu a gollwyd o ganlyniad i bandemig COVID-19 ac atal tarfu pellach. Dylai’r mesurau hyn gefnogi plant difreintiedig yn benodol;
(c) Adolygu effaith rhaglenni addysg yn llawn, gan gynnwys y Premiwm Jersey, i weld a ydynt wedi gwella bylchau cyrhaeddiad addysgol. Dylai rhaglenni addysg wella cyrhaeddiad addysgol plant o gefndiroedd difreintiedig a’r rheini o deuluoedd incwm isel er mwyn gwella symudedd cymdeithasol;
(d) Sicrhau bod plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr, plant anabl, plant mudol a phlant o gefndiroedd difreintiedig yn gallu cael addysg dda sy’n sensitif i’w diwylliannau ac sy’n diwallu eu hanghenion;
(e) Cymryd camau i amddiffyn plant rhag bwlio, gan gynnwys seiberfwlio, a thrais mewn ysgolion. Mae hyn yn cynnwys gwneud mwy i atal bwlio a thrais mewn ysgolion, ac i hyrwyddo dealltwriaeth a goddefgarwch;
(f) Cymryd camau i ddileu agweddau gwahaniaethol a stereoteipiau mewn deunyddiau addysgol ac mewn ysgolion. Sicrhau nad yw sefydliadau addysgol ac athrawon yn datblygu’r stereoteipiau hyn, gan gynnwys yn ystod hyfforddiant athrawon.
Original UN recommendation
Date of UN examination
12/03/2025
Original UN document
Lawr lwytho casgliadau i gloi gwreiddiol 2025 y ICESCR ar wefan y CU.