Casgliadau i gloi ICESCR 2025, paragraff 27

UN recommendation

Argymhelliad Cymreig clir

Dylai’r Llywodraeth:
(a) Adolygu a dileu cyfreithiau sy’n gwahaniaethu yn erbyn grwpiau mudwyr neu sy’n cyfyngu ar hawliau ceiswyr lloches, ffoaduriaid, mudwyr a phobl heb wladwriaeth. Gwneud yn siŵr bod pob cyfraith yn cyd-fynd yn llwyr â’r hawliau a nodir yn y Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (ICESCR);
(b) Sicrhau bod yr holl brosesau gwneud penderfyniadau ynghylch lloches a diffyg gwladwriaeth yn hygyrch a bod cymorth cyfreithiol yn y prosesau hyn ar gael i bawb. Gweithio gyda llywodraethau Cymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban i wella cynlluniau i helpu ceiswyr lloches i ymgartrefu yn y DU gan ganolbwyntio ar fynediad at nawdd cymdeithasol, gofal iechyd, addysg (gan gynnwys dosbarthiadau iaith), cadw teuluoedd gyda’i gilydd, yn ogystal â dod o hyd i swyddi a chymorth cyflogaeth;
(c) Adolygu’r rheol “heb hawl i gyllid cyhoeddus” (sy’n atal rhai mewnfudwyr a cheiswyr lloches rhag cael mathau penodol o gymorth gan y llywodraeth, gan gynnwys y rhan fwyaf o fudd-daliadau). Sicrhau nad yw’r rheol hon yn arwain at fwy o dlodi neu galedi.


Original UN recommendation

The Committee recommends that the State Party:
(a) Review and repeal any laws that discriminate against migrant groups or limit access to rights for asylum-seekers, refugees, migrants and stateless persons, ensuring full compliance with Covenant provisions;
(b) Guarantee access to asylum and statelessness determination procedures and to legal aid, without discrimination, and, along with the devolved governments of Northern Ireland, Scotland and Wales, enhance its integration strategies focusing on access to social security, healthcare and education, including language courses, family unity and access to the labour market and employment services;
(c) Review the “no recourse to public funds” rule to prevent an increase in poverty and precarity among migrants and asylum-seekers, taking into account the Committee’s statement on the duties of States towards refugees and migrants under the Covenant.

Date of UN examination

12/03/2025

Diweddarwyd ddiwethaf ar 20/08/2025