Mynediad at gyflogaeth – asesiad Llywodraeth Cymru

Asesiad cynnydd

Elfen o gynnydd

Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol ac mae tystiolaeth o gynnydd cynaliadwy cymedrol o ran mwynhau hawliau dynol yn gysylltiedig i'r mater hwn. Fodd bynnag, ar rai o’r hawliau hyn, neu i rai grwpiau, ni chafwyd cynnydd cymharol.

Mae cyflogaeth yn bennaf yn fater a gadwyd yn ôl, sy’n cyfyngu ar y camau y gall Llywodraeth Cymru gymryd. Cynyddodd y gyfradd cyflogaeth yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf. Er bod y gyfradd cyflogaeth wedi gostwng yn 2020 oherwydd y pandemig  coronafeirws (COVID-19), ers hynny mae wedi dychwelyd i’r lefelau cyn y pandemig. Cafwyd cynnydd ar gyflawni prentisiaethau ac ymroddiadau penodol dan y strategaethFfyniant i Bawb’. Fodd bynnag, mae mynediad anghyfartal i gyflogaeth a phrentisiaethau yn parhau ar draws grwpiau nodweddion gwarchodedig, ac nid yw polisïau Llywodraeth Cymru yn dynodi faint fydd yn delio ag anghydraddoldeb o’r fath.

Darllenwch fwy am weithredoedd Llywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru ar fynediad ar gyflogaeth.

Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 30/09/2021