Mynediad at gyflogaeth – asesiad Llywodraeth y DU
Elfen o gynnydd
Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol ac mae tystiolaeth o gynnydd cynaliadwy cymedrol o ran mwynhau hawliau dynol yn gysylltiedig i'r mater hwn. Fodd bynnag, ar rai o’r hawliau hyn, neu i rai grwpiau, ni chafwyd cynnydd cymharol.
Yn ystod blynyddoedd diweddar, mae’r gyfradd cyflogaeth wedi cynyddu’n gyffredinol, cyfraddau cyflogaeth wedi gwella i rai, ond nid pob, grŵp ethnig, ac mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi culhau. Mae’r bwlch cyflogaeth anabledd yn dal i fod yn sylweddol. Gostyngodd oriau gwaith yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19), ac roedd grwpiau gyda nodweddion gwarchodedig penodol gyda gor–gynrychiolaeth mewn sectorau oedd wedi eu cau i lawr. Roedd gweithredu ar amrywiaeth yn y gweithle yn gyfyngedig, er y cafwyd cynnydd o ran cynrychiolaeth menywod mewn swyddi arweinyddiaeth.
- Roedd y gyfradd cyflogaeth ar gyfer rhai rhwng 16 a 64 oed yn y Deyrnas Unedig wedi codi rhywfaint yn ystod chwarter cyntaf (Ch1) 2016 (74.1%) a Ch1 2021 (74.7%). Trwy gydol y pandemig yn 2020 fe ostyngodd y gyfradd cyflogaeth, ond dechreuodd adfer yn 2021.
- Mae’r bwlch rhwng y rhywiau mewn cyfraddau cyflogaeth wedi culhau o ganlyniad i nifer o ffactorau posibl. Fe ostyngodd y gyfradd cyflogaeth ymysg dynion o 79.2% yn 2016 (Ch1) i 77.8% yn 2021 (Ch1). Yn yr un cyfnod, cynyddodd cyfradd cyflogaeth menywod 69.2% i 71.6%. Mae dadansoddiad yn awgrymu bod y pandemig wedi effeithio’n negyddol ar gyfraddau cyflogaeth dynion a menywod. Fe ostyngodd cyflogaeth ymysg dynion yn fwy na menywod.
- Fe wellodd cyfraddau cyflogaeth ar gyfer rhai grwpiau ethnig rhwng Ebrill a Mehefin 2018 ac Ebrill i Fehefin 2021, ond maent yn dal yn isel ar gyfer pobl Pacistanaidd, Bangladeshaidd a Tsieineaidd.
- Mae’r bwlch cyflog anabledd wedi amrywio ac mae’n araf leihau, ond mae’n dal yn arwyddocaol. Yn y Deyrnas Unedig, roedd 81% o bobl nad ydynt yn anabl 16–64 oed mewn gwaith yn niwedd 2020, o gymharu â 52% o bobl anabl. Yn ystod y pandemig, fe ledaenodd y bwlch cyflogaeth anabledd ac roedd pobl anabl yn fwy tebygol na phobl nad ydynt yn anabl i gael eu diswyddo.
- Nid yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi sefydlu sut fydd yn cefnogi pobl ifanc anabl – sy’n wynebu anfantais benodol yn y farchnad lafur – i gael mynediad i’r Cynllun Kickstart.
- Achosodd y pandemig leihad mawr yn oriau gwaith gweithwyr llawn amser a rhan amser. Er bod y rhain wedi codi ers hynny, maent yn dal i fod yn is nag oriau cyn y pandemig.
- Yn ystod y pandemig, roedd mamau yn fwy tebygol na thadau i fod wedi gadael gwaith cyflogedig, a menywod, gweithwyr o grwpiau lleiafrifoedd ethnig penodol a phobl ifanc yn fwy tebygol o weithio mewn sectorau oedd dan gyfyngiadau. Fe wnaeth mesurau Llywodraeth y Deyrnas Unedig mewn ymateb i’r pandemig leihau colledion swyddi yn sylweddol.
- Awgryma tystiolaeth bod gan ychydig dros hanner awdurdodau lleol yn Lloegr ofal plant digonol ar gael i rieni sy’n gweithio llawn amser. Mae yna bryderon ynghylch yr effaith anghymesur posibl o brinder gofal plant ar gyfleoedd cyflogaeth i fenywod.
- Yn Chwefror 2021, dynododd adroddiad crynodeb pum mlynedd yr Adolygiad Hampton-Alexander ar gynyddu cynrychiolaeth menywod mewn swyddi arweinyddiaeth uwch ac ar fyrddau bod dros draean swyddi o’r fath mewn cwmnïau FTSE 350 nawr wedi eu llenwi gan fenywod, gyda’r nifer o fenywod ar fyrddau wedi cynyddu 50% ers 2016.
- Yn Chwefror 2020, awgrymodd adroddiad dilynol i Adolygiad Parker ar amrywiaeth ar fyrddau bod cynnydd ar gynyddu cynrychiolaeth lleiafrifoedd ethnig yn fwy araf na’r disgwyl.
- Ni wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig ymroi i weithredu i wella amrywiaeth yn y gweithle yn ei ymateb i Adolygiad McGregor-Smith ar hil yn y gweithle. Ni chanfu adroddiad diweddariad blwyddyn yn ddiweddarach unrhyw gynnydd ar draws y mwyafrif o ddangosyddion.
- Dengys tystiolaeth bod prentisiaethau newydd wedi lleihau wedi cyflwyno’r Ardoll Prentisiaeth.
- Mae tystiolaeth yn dangos bod diffyg ymwybyddiaeth a hyder ymysg cyflogwyr ar weithredu mesurau gweithredu cadarnhaol effeithiol mewn prentisiaethau, i gynyddu cynrychiolaeth lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl er enghraifft, ac mae prentisiaethau yn parhau i fod wedi eu gwahanu gan ryw.