Amodau gwaith cyfiawn a theg – Gweithredu gan y Llywodraeth
Gweithredu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig
- Yng Ngorffennaf 2021, ymatebodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ymgynghoriad y Pwyllgor Dethol Menywod a Chydraddoldeb ar aflonyddu rhywiol yn y gweithle, gan ymroi i gyflwyno dyletswydd yn gofyn i gyflogwyr ddiogelu cyflogeion rhag aflonyddu.
- Yng Ngorffennaf 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y byddai’n uno grwpiau allweddol i ymateb i wahaniaethu beichiogrwydd a mamolaeth yn y gweithle.
- Ym Mehefin 2021, cadarnhaodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y byddai’n sefydlu corff gorfodi unigol ar gyfer hawliau cyflogaeth.
- Yn Chwefror 2021, fe gytunom ni a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ailafael mewn adrodd gofynnol ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer 2020–21, wedi ei seibio oherwydd y pandemig coronafeirws (COVID-19).
- Yn Chwefror 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei fod yn ailgynnull y Tasglu Gweithio Hyblyg i hysbysu datblygiad polisi mewn ymateb i’r pandemig. Gyda’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu, datblygodd y tasglu ganllawiau ar weithio hybrid.
- Yn Ionawr 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig gasgliadau adolygiad i gefnogaeth gweithle ar gyfer dioddefwyr cam-drin domestig ac ymroi i sefydlu gweithgor i hyrwyddo arfer gorau.
- Ym Mai 2020, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig arweiniad i gyflogwyr mewn gwahanol sectorau ar weithio’n ddiogel yn ystod y pandemig.
- Yn 2019, ymgynghorodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar nifer o gynigion dan ei Gynllun Gwaith Da, yn cynnwys cyflwyno adrodd ar gyflogau ethnigrwydd, hyblygrwydd unochrog, sefydlu corff gorfodi unigol, a chynigion i gefnogi teuluoedd.
- Yn 2019, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ‘Cydraddoldeb rhyw ar bob cam: map ffordd ar gyfer newid’ i daclo anghydraddoldeb rhyw yn y gweithle.
- Yn 2019, gwnaeth ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar wahaniaethu beichiogrwydd a mamolaeth ymroi i ymestyn y cyfnod diogelu diswyddo ar gyfer rhieni newydd yn dilyn dychwelyd i’r gwaith.
- Yn 2017, daeth y Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Penodol ac Awdurdodau Cyhoeddus) 2017 a’r Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Gwybodaeth Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau) 2017 i rym, yn gofyn i gyflogwyr yng Nghymru, Lloegr a’r Alban gyda mwy na 250 o gyflogeion i gyhoeddi gwybodaeth am eu bwlch cyflog rhwng y rhywiau.
Gweithredoedd Llywodraeth Cymru Mae cyflogaeth yn gyffredinol yn faes sydd dan gyfrifoldeb Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ond mae gan Lywodraeth Cymru rai pwerau cyfyngedig.
- Yn ei ‘Rhaglen Lywodraethu 2021 i 2026’, gwnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymiadau yn cynnwys talu’r ‘Cyflog Byw Gwirioneddol’ i weithwyr gofal ac archwilio deddfwriaeth i daclo bylchau cyflog ar draws nodweddion gwarchodedig.
- Yn Ebrill 2021, daeth yr ymgynghoriad ar Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) i ben. Bydd y bil yn rhoi partneriaeth gymdeithasol ar sail statudol ac mae’n ceisio cyflawni deilliannau gwaith teg, ymysg amcanion eraill.
- Ym Medi 2020, creodd Llywodraeth Cymru y Fforwm Gofal Cymdeithasol (bellach y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol), gan uno undebau llafur, cyflogwyr a llywodraeth i ddylanwadu ar waith teg mewn gofal cymdeithasol.
- Ym Mai 2020, cynhyrchodd Llywodraeth Cymru arweiniad i gyflogwyr i ‘Gadw Cymru yn ddiogel yn y gwaith’ a chyflwyno adnodd asesu risg COVID-19 ar gyfer y gweithlu.
- Yn 2018, cyhoeddodd y Prif Weinidog y Comisiwn Gwaith Teg i wneud argymhellion ar waith teg. Derbyniodd Llywodraeth Cymru chwe argymhelliad blaenoriaeth yn adroddiad Gwaith Teg Cymru, ac fe dderbyniwyd y 42 argymhelliad oedd yn weddill o ran egwyddor.
- Yn 2018, cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Contract Economaidd yn rhan o ‘Ffyniant i Bawb: cynllun gweithredu economaidd’, ble mae’n rhaid i fusnesau sydd eisiau buddsoddiad arddangos eu hymroddiad i arferion busnes cyfrifol, yn cynnwys gwaith teg.
- Ym Medi 2018, gwnaeth Llywodraeth Cymru ymroi i ddwyn ymlaen bron i’r holl argymhellion o adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Cymru a Chymunedau ar feichiogrwydd, mamolaeth a gwaith.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 30/09/2021