Amodau gwaith cyfiawn a theg – asesiad Llywodraeth y DU
Cynnydd cyfyngedig
Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol, ond mae tystiolaeth gyfyngedig iawn o welliannau parhaus o ran mwynhad hawliau dynol ar y mater hwn.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwneud ymrwymiadau i sicrhau amodau teg yn y gwaith, gan gynnwys i daclo aflonyddu rhywiol. Fodd bynnag, hyd yma nid yw wedi gweithredu nifer o fesurau ac nid yw wedi cyflwyno Mesur Cyflogaeth i wneud hynny. Mae bylchau cyflog rhyw ac ethnigrwydd yn culhau, er bod bylchau cyflog yn dal i fodoli. Mae bwlio ac aflonyddu yn y gwaith yn dal yn gyffredin. Mae’r pandemig coronafeirws (COVID-19) wedi achosi problemau o ran sicrhau amodau gwaith diogel ac mae hefyd wedi gwaethygu anghydraddoldebau ar gyfer grwpiau penodol, fel menywod.
- Mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau o ran enillion yr awr ymysg yr holl gyflogeion wedi bod yn lleihau yn y blynyddoedd diweddar, gan sefyll ar 15.5% yn 2020 o gymharu â 18.2% yn 2016. Mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer cyflogeion llawn amser ar gyfer grwpiau oedran dan 40 oed yn agos at sero, ond mae yn cynyddu’n sylweddol i’r rhai dros 40 oed.
- Dengys dadansoddiad o 2019 bod gweithwyr yn y grwpiau ethnig Pacistanaidd, Gwyn a Du Affricanaidd, Bangladeshaidd, a Gwyn a Du Caribïaidd wedi derbyn y cyflog canolraddol isaf yng Nghymru a Lloegr. Fodd bynnag, mae’r bwlch ethnigrwydd ar y cyfan wedi culhau i’r lefel lleiaf ers 2012.
- Dangosodd ein hymchwil a gyhoeddwyd yn 2018 fwlch cyflog anabledd cyson, yn sefyll ar 13.1% yn 2016–17.
- Mae bwlio ac aflonyddu yn y gweithle yn dal yn digwydd yn eang. Mae rhywfaint o dystiolaeth bod menywod, lleiafrifoedd ethnig, a phobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol dan fwy o risg o fwlio neu aflonyddu yn y gweithle na grwpiau eraill. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i fesurau i ddiogelu pobl rhag aflonyddu rhywiol.
- Canfu ein hymchwil yn 2018 fod tri chwarter ymatebwyr arolwg wedi profi aflonyddu rhywiol yn y gweithle ac roedd y mwyafrif ohonynt yn fenywod; er nad yn gynrychiolaeth ystadegol, mae’r casgliadau’n rhoi cipolwg ar brofiadau o’r gweithle. Canfu arolwg 2020 Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod 29% o ymatebwyr mewn gwaith wedi profi rhyw fath o aflonyddu rhywiol yn eu hamgylchedd gwaith yn ystod y flwyddyn flaenorol.
- Canfu ymchwil ar wahaniaethu cysylltiedig i feichiogrwydd a mamolaeth yn y gwaith o 2016 fod 77% o famau wedi profi o leiaf un profiad gwahaniaethol neu negyddol, ac 11% o famau wedi gorfod gadael eu swyddi.
- Mynegwyd pryderon ynghylch methiannau i sicrhau amodau gwaith diogel yn ystod y pandemig, yn cynnwys ar gyfer menywod beichiog, rhai gyda chyflyrau iechyd hirdymor a’r rhai yn gweithio mewn sectorau rheng flaen megis iechyd a gofal cymdeithasol (gweithwyr benywaidd a lleiafrifoedd ethnig yn bennaf) oherwydd prinder ac oedi wrth sicrhau offer amddiffyn personol yn ystod camau cynnar y pandemig. Mae gweithwyr o leiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol o weithio mewn galwedigaethau gyda’r niferoedd uchaf o farwolaethau COVID-19.
- Mae’r pandemig wedi cael effaith arbennig o negyddol ar amodau gwaith i fenywod, yn cynnwys eu bod yn llai tebygol o gael ychwanegiad at eu henillion os oeddynt ar ffyrlo. Canfu ymchwil i rieni mewn gwaith fod mamau yn fwy tebygol na thadau o gyfuno gwaith cyflogedig gyda gofal plant.
- Golyga diffyg hawliau cyflogaeth sylfaenol, fel tâl salwch, bod nifer o weithwyr economi gig heb ddewis ond dal ati i weithio yn ystod y pandemig, hyd yn oed oes oeddynt yn sâl. Mae pobl ifanc a lleiafrifoedd ethnig wedi u cynrychioli’n ormodol ymysg gweithwyr o’r fath.
- Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwneud ymrwymiadau i sicrhau amodau gwaith teg. Fodd bynnag, nid yw wedi ymateb yn ffurfiol i’w ymgynghoriadau Cynllun Gwaith Da, gwerthuso ei weithrediad o’i fap ffordd ‘Cydraddoldeb rhyw ar bob cam’, na chyflwyno Mesur Cyflogaeth i weithredu ei ymrwymiadau.
- Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystyried cofrestru i Gonfensiwn 190 y Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO) ar roi terfyn ar drais ac aflonyddu yn y gwaith.