Amodau gwaith cyfiawn a theg – asesiad Llywodraeth Cymru
Cynnydd cyfyngedig
Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol, ond mae tystiolaeth gyfyngedig iawn o welliannau parhaus o ran mwynhad hawliau dynol ar y mater hwn.
Mae cyflogaeth yn bennaf yn fater a gadwyd yn ôl, sy’n cyfyngu ar y camau y gall Llywodraeth Cymru gymryd. Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd rhai camau polisi a chyfreithiol i ddarparu gwaith teg yng Nghymru, gan arddangos bwriad i ddefnyddio ei rymoedd a lifrau datganoledig i hyrwyddo ac annog amodau gwaith cyfiawn a theg. Mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi lleihau ers 2016. Fodd bynnag, hyd yma ni chafwyd gwelliannau parhaus mewn deilliannau eraill: mae gwaith cyflog isel yn codi, y bwlch cyflog ar sail anabledd yn parhau, ac mae yna dystiolaeth o fwlio ac aflonyddu yn y gweithle.
- Mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau mewn enillion fesul awr canolrifol ar gyfer gweithwyr llawn amser wedi lleihau ers 2016.
- Dengys data ar y bwlch cyflog ethnigrwydd o 2018 i 2019 fod cyflogeion o grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn ennill, ar gyfartaledd, tua 7.5% yn llai yr awr na chyflogeion Gwyn Prydeinig. Fodd bynnag, ar y cyfan mae’r bwlch ethnigrwydd ar y cyfan wedi culhau yng Nghymru a Lloegr i’r lefel lleiaf ers 2012.
- Mae cyfartaledd enillion yn is ar gyfer pobl anabl na phobl nad ydynt yn anabl. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben Medi 2020, roedd yna fwlch cyflog anabledd o 32.1% yng Nghymru.
- Mae tystiolaeth bod y canran o bobl mewn gwaith cyflog isel yng Nghymru yn cynyddu. Yn 2019, roedd mwy nag un o bob pum gweithiwr yng Nghymru yn cael ei dalu llai na £9.30 yr awr (ffigwr ‘Cyflog Byw Gwirioneddol’ yn seiliedig ar dreuliau dydd i ddydd pobl), yn codi i fwy nag un traean o weithwyr mewn rhai etholaethau yng Nghymru.
- Mae tystiolaeth o driniaeth annheg, bwlio ac aflonyddu mewn gweithfannau yng Nghymru. Er enghraifft, mae 26% o bobl yng Nghymru wedi profi ymddygiad rhywiol digroeso yn y gwaith, a saith o bob 10 o famau wedi cael profiad negyddol neu a allai fod yn wahaniaethol yn ystod beichiogrwydd neu absenoldeb mamolaeth, neu ar ddychwelyd o absenoldeb mamolaeth.
- Mae’r pandemig coronafeirws (COVID-19) wedi effeithio ar amodau gwaith yng Nghymru, yn arbennig ar gyfer grwpiau nodweddion gwarchodedig penodol. Mynegwyd pryderon bod y rhai sy’n gweithio mewn iechyd a gofal cymdeithasol (gweithwyr benywaidd a lleiafrifoedd ethnig yn bennaf) wedi ei rhoi dan risg trwy’r ddarpariaeth annigonol o offer amddiffyn personol.
- Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei arweiniad i ‘Gadw Cymru yn ddiogel yn y gwaith’ yn ystod y pandemig, ond yn gychwynnol ni thalodd lawer o sylw i egwyddorion cydraddoldeb a hawliau dynol, gyda’r arweiniad diwygiedig heb ddelio’n llawn â’r pryderon hyn.
- Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd rhai camau cadarnhaol i symud ymlaen gyda pholisi a chyfreithiau i gyflawni gwaith teg yng Nghymru, gan gynnwys yr ymroddiad i ddiwygio’r Contract Economaidd i gefnogi busnesau i hybu gwaith teg, ond mae’n rhy fuan i ni asesu effaith yr ymroddiadau yn y ‘Rhaglen Lywodraethu 2021 i 2026’.
- Er bod gan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, yn ogystal â dyletswyddau penodol dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010, y potensial i hybu arferion gwaith teg yng Nghymru, nid yw’r ddyletswydd wedi cael yr effaith a fwriadwyd.