Gwrthderfysgaeth – Gweithredu’r llywodraeth
Camau gweithredu Llywodraeth y DU
- Ym mis Ebrill 2021, cafodd Deddf Gwrthderfysgaeth a Dedfrydu 2021 ei phasio. Ymhlith ei darpariaethau, mae’r Ddeddf yn:
- cyflwyno dedfryd newydd ar gyfer terfysgaeth ddifrifol ac yn darparu ar gyfer cyfnod carcharu o o leiaf 14 blynedd, gan ddiddymu’r posibilrwydd i derfysgwyr difrifol gael eu rhyddhau’n gynnar gyda dedfryd benodol estynedig
- diwygio mesurau atal ac ymchwilio i derfysgaeth, gan ostwng y safon profi ac estyn y terfyn amser hwyaf o ddwy flynedd i bum mlynedd
- dileu’r terfyn amser ar gyfer cwblhau’r adolygiad annibynnol o raglen Prevent.
- Ym mis Mawrth 2021, cyflwynodd Llywodraeth y DU Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd, gan roi pwerau newydd i’r heddlu reoli’r risg a berir gan derfysgwyr a throseddwyr eraill sy’n peri risg derfysgol.
- Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y DU bapur ar yr Adolygiad Integredig o Ddiogelwch, Amddiffyn, Datblygu a Pholisi Tramor. Cyflwynodd hyn y Ganolfan Gweithrediadau Gwrthderfysgaeth newydd gyda’i galluoedd gwrthderfysgaeth integredig.
- Ym mis Chwefror 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y DU Adolygiad statudol o’r Weithdrefn Deunydd Caeëdig yn Neddf Cyfiawnder a Diogelwch 2013. Disgwylir i ganfyddiadau’r adolygiad gael eu cyhoeddi yn 2021.
- Ym mis Rhagfyr 2020, daeth Rheoliadau Gwrthderfysgaeth (Sancsiynau) (Ymadael â’r UE) 2019 i rym, gan ddisodli Rhan 1 o Ddeddf Rhewi Asedau Terfysgwyr etc. 2010.
- Ym mis Hydref 2020, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei hymateb i Adroddiad Adolygydd Annibynnol Deddfwriaeth Terfysgaeth ar y Deddfau Terfysgaeth yn 2018. Ymrwymodd ymateb Llywodraeth y DU y Swyddfa Gartref i adolygiad o’r broses gadw o dan Atodlenni 7 ac 8 o Ddeddf Terfysgaeth 2000, yn dilyn argymhelliad gan yr Adolygydd.
- Ym mis Chwefror 2020, cafodd Deddf Troseddwyr Terfysgol (Cyfyngu ar Ryddhau’n Gynnar) ei phasio. Mae’n sicrhau nad yw troseddwyr terfysgol ym Mhrydain Fawr sy’n bwrw ‘dedfryd benodol estynedig’, neu a gaiff ddedfryd o’r fath, yn cael eu rhyddhau cyn diwedd eu dedfryd heb gytundeb Bwrdd Parôl.
- Ym mis Rhagfyr 2019, cafodd Llywodraeth y DU wared ar Alexander Carlile CF fel Adolygydd Annibynnol Prevent, yn dilyn bygythiad o her gyfreithiol ynghylch ei benodiad. Cyhoeddodd Llywodraeth y DU mai William Shawcross fyddai’r Adolygydd Annibynnol newydd ym mis Ionawr 2021.
- Ym mis Chwefror 2019, ymrwymodd Llywodraeth y DU i ymgymryd ag adolygiad annibynnol o Prevent. Mae cwmpas yr adolygiad yn ystyried effaith, dull cyflwyno ac effeithiolrwydd strategaeth y Llywodraeth i ddiogelu pobl agored i niwed rhag cael eu denu i derfysgaeth. Disgwylir i’r adroddiad ac ymateb y Llywodraeth gael eu cyflwyno erbyn 31 Rhagfyr 2021.
- Ym mis Chwefror 2019, cafodd Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch ar y Ffin ei phasio, gan ddiwygio Deddfau Terfysgaeth 2000 a 2006. Ymhlith darpariaethau â goblygiadau ar gyfer hawliau dynol, gwnaeth y Ddeddf:
- ehangu pwerau’r heddlu i gwestiynu a chadw unigolion yr ymddengys eu bod yn gysylltiedig â gweithgarwch gelyniaethus ar gyfer neu ar ran gwladwriaeth arall, heb gyflwyno trothwy amheuaeth resymol
- estyn cyrhaeddiad alltiriogaethol rhai troseddau, a’r gosb am eu cyflawni, o dan Ddeddfau Terfysgaeth 2000 a 2006
- estyn dyletswydd Prevent i ganiatáu i awdurdodau lleol atgyfeirio pobl a allai fod yn agored i radicaleiddio at ‘banel Channel’ – proses amlasiantaethol i nodi a chefnogi unigolion sy’n wynebu risg o gael eu denu i derfysgaeth
- ei gwneud yn ofynnol i adolygiad annibynnol o raglen Prevent gael ei sefydlu.
- Yn 2018, cyflwynodd Llywodraeth y DU Strategaeth Gwrthderfysgaeth ddiwygiedig (CONTEST), gan ymrwymo i fuddsoddi £2 biliwn yn Lluoedd Arbennig y DU ac £1.4 biliwn mewn galluoedd gwrthderfysgaeth ar gyfer asiantaethau diogelwch a chudd-wybodaeth.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 12/07/2021