Bywyd teuluol, a gorffwys, hamdden a gweithgareddau diwylliannol – Gweithredu’r llywodraeth
Camau gweithredu Llywodraeth y DU
- Ym mis Mehefin 2021, ymrwymodd Llywodraeth y DU i godi’r isafswm oedran i bobl allu priodi yng Nghymru a Lloegr i 18 oed, fel na fyddai’n gyfreithlon mwyach i briodi o 16 oed gyda chydsyniad rhiant.
- Ym mis Chwefror 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ddatganiad yn rhoi rhagor o fanylion am ei hadolygiad o lwybrau cyfreithiol i’r DU i bobl sydd wedi hawlio lloches yn yr UE, gan gynnwys aduniad teuluol i blant ar eu pen eu hunain, fel sy’n ofynnol gan Ddeddf Mewnfudo a Chydlynu Nawdd Cymdeithasol (Ymadael â’r UE) 2020.
- Ym mis Hydref 2020, ailddatganodd Llywodraeth y DU ei safbwynt o ran gwahardd plant ar eu pen eu hunain a oedd yn ceisio lloches yn y DU rhag gweithredu fel noddwyr ar gyfer eu rhieni.
- Ym mis Gorffennaf 2020, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai’n darparu £1.57 biliwn o gyllid i ddiogelu a chefnogi diwydiannau celfyddydau, diwylliant a threftadaeth y DU drwy bandemig COVID-19.
- Ym mis Mehefin 2020, cafodd Deddf Ysgaru, Diddymu a Gwahanu 2020 gydsyniad brenhinol, gan gyflwyno ‘ysgariad heb fai’ yng Nghymru a Lloegr.
- Ym mis Ebrill 2020, diwygiodd Llywodraeth y DU reoliadau er mwyn rhoi hyblygrwydd i awdurdodau lleol a darparwyr gofal cymdeithasol plant wrth ymateb i’r pandemig, megis caniatáu ymweliadau â theuluoedd o bell.
- Ym mis Mawrth 2020, gosododd Llywodraeth y DU gyfyngiadau a gorchmynion cau statudol dros dro ar ardaloedd awyr agored a mannau cyhoeddus megis canolfannau cymunedol, mannau addoli crefyddol, a chyfleusterau hamdden a diwylliant. Cafodd y rhan fwyaf o’r cyfyngiadau eu llacio ym mis Gorffennaf 2020, ond rhoddwyd cyfyngiadau pellach ar waith mewn rhannau o Loegr, neu ar y wlad gyfan, rhwng mis Medi 2020 a mis Gorffennaf 2021.
- Ym mis Mawrth 2020, cyhoeddodd Public Health England adolygiad i wella mynediad i ‘fannau gwyrdd’ yn Lloegr, a oedd yn cynnwys argymhellion i awdurdodau lleol ar sut y gellir defnyddio mannau gwyrdd i leihau anghydraddoldebau iechyd.
- Ym mis Rhagfyr 2019, daeth rheoliadau newydd i rym er mwyn caniatáu i gyplau o’r rhyw arall gofrestru partneriaethau sifil yng Nghymru a Lloegr.
- Ym mis Mai 2019, cadarnhaodd Llywodraeth y DU Gytuniad Marrakesh, er mwyn sicrhau bod pobl sy’n ddall, sydd â nam ar eu golwg neu sydd ag anabledd print arall, yn gallu cael gafael ar waith cyhoeddedig a ddiogelir gan hawlfraint.
- Ym mis Chwefror 2019, cyhoeddodd y Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol ei Chynllun Gweithredu Cymunedau Integredig ar gyfer Lloegr. Roedd y cynllun yn cynnwys ymrwymiadau i gefnogi ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth o fanteision priodasau sydd wedi’u cofrestru’n sifil ac ystyried diwygiadau posibl sy’n ymwneud â’r gyfraith ar briodas a seremonïau crefyddol.
- Ym mis Chwefror 2019, ymrwymodd Llywodraeth y DU i brosesu pob cais am aduniad teuluol sy’n weddill a wnaed o dan Reoliad Dulyn III nad oedd wedi’i gwblhau cyn i’r rheoliad ddod yn anweithredol yn y DU ar 31 Rhagfyr 2020. Sefydlodd Rheoliad Dulyn III y meini prawf ar gyfer pennu pa un o Aelod-wladwriaethau’r UE sy’n gyfrifol am archwilio cais am loches a wnaed yn yr Undeb Ewropeaidd.
- Ym mis Ionawr 2019, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ganllawiau ar gyfer staff carchardai ar gryfhau cydberthnasau carcharorion â’u teuluoedd a’u ffrindiau.
- Ym mis Ionawr 2017, drwy Ddeddf Plismona a Throsedd 2017, cyflwynodd Llywodraeth y DU anhysbysrwydd gydol oes i ddioddefwyr priodasau dan orfod mewn ymgais i annog dioddefwyr i gysylltu. Ym mis Tachwedd 2018, lansiodd Uned Priodasau Dan Orfod Llywodraeth y DU (a gaiff ei chynnal ar y cyd gan y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu a’r Swyddfa Gartref) yr ‘Ymgyrch Ymwybyddiaeth o Briodasau dan Orfod’ i godi ymwybyddiaeth o drosedd priodasau dan orfod a’r cymorth sydd ar gael i ddioddefwyr.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 12/07/2021