Mynediad at gyflogaeth – Gweithredu gan y llywodraeth
Gweithredu gan Lywodraeth y DU
- Yng Ngorffennaf 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y Strategaeth Anabledd Cenedlaethol, oedd yn cynnwys cynlluniau i leihau’r bwlch cyflogaeth anabledd.
- Yng Ngorffennaf 2021, agorodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ymgynghoriad ar gefnogaeth a gynigir trwy’r Gronfa Sgiliau Genedlaethol.
- Yn Rhagfyr 2020, lansiodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y Cynllun Restart £2.9 biliwn i helpu pobl sydd wedi bod yn ddi-waith ers dros flwyddyn i fynd yn ôl i’r gwaith.
- Ym Medi 2020, lansiodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y Cynllun Kickstart £2 biliwn i helpu pobl ifanc i waith.
- Yng Ngorffennaf 2020, lansiodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ‘Cynllun ar gyfer Swyddi 2020’ i gefnogi adferiad economaidd.
- Ym Mawrth 2020, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig fesurau i ddiogelu swyddi yn ystod y pandemig COVID-19, yn cynnwys y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws, a pharhad cyllid tuag at lefydd hawl blynyddoedd cynnar am ddim ar gyfer plant dwy, tair a phedair oed.
- Yn 2019, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ‘Cydraddoldeb rhyw ar bob cam: map ffordd ar gyfer newid, oedd yn anelu i daclo rhwystrau mae menywod yn wynebu wrth ddychwelyd i neu fynd i’r farchnad lafur.
- Yn 2018, cyflwynodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig fframwaith adrodd gwirfoddol i gefnogi cyflogwyr i adrodd gwybodaeth ar recriwtio a dargadw pobl anabl.
- Yn 2017, cyhoeddodd yr Adolygiad McGregor-Smith annibynnol argymhellion ar daclo rhwystrau i gynnydd pobl o leiafrifoedd ethnig yn y gweithle, ac fe ymatebodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
- Yn Ebrill 2017, cyflwynodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yr Ardoll Prentisiaeth ar gyflogwyr y Deyrnas Unedig i ariannu prentisiaethau newydd.
- Yn Chwefror 2017, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yr agenda Bywydau Gwaith Mwy Llawn (bellach dan yr enw 50 A MWY: Dewisiadau) i gynyddu lefelau dargadw, ailhyfforddi a recriwtio gweithwyr hŷn.
- Yn 2016, comisiynodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig Arolwg Parker i archwilio sut i wella amrywiaeth ethnig a diwylliannol ar fyrddau’r Deyrnas Unedig.
- Yn 2016, cyflwynodd y Ddeddf Gofal Plant 2016 30 awr o ofal plant am ddim am 38 wythnos i rieni sy’n gweithio yn Lloegr.
Gweithredoedd Llywodraeth Cymru Mae cyflogaeth yn gyffredinol yn faes sydd dan gyfrifoldeb Llywodraeth y Deyrnas Unedig, er bod gan Lywodraeth Cymru rai pwerau cyfyngedig.
- Mae’r ‘Rhaglen Lywodraethu 2021 i 2026’ yn ymroi i greu 125,000 o brentisiaethau pob oed a defnyddio’r rhwydwaith o Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl, ymysg ymrwymiadau eraill, i gefnogi cyflogaeth.
- Ym Mehefin 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynlluniau ar gyfer y Gwarant i Bobl Ifanc a fydd yn darparu cynnig o waith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb dan 25 oed.
- Yn Rhagfyr 2020, cafodd Cytundeb Twf Gogledd Cymru (a gyflwynwyd yn 2019) ei llofnodi’n llawn, gyda’r nod o greu 4,200 o swyddi erbyn 2036.
- Yng Ngorffennaf 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Ymrwymiad Covid gwerth £40 miliwn i gefnogi’r rhai sydd wedi eu heffeithio gan y pandemig i chwilio am waith, wedi creu’r Gronfa Cadernid Economaidd yn flaenorol yn Ebrill 2020 i ddiogelu swyddi.
- Yn Nhachwedd 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y Gronfa Rhwystrau gwerth £1.2 miliwn i fusnesau newydd, gyda dros hanner hyn wedi ei neilltuo ar gyfer pobl ifanc nad ydynt mewn addysg neu hyfforddiant, pobl anabl, lleiafrifoedd ethnig a menywod.
- Yn 2018, lansiodd Llywodraeth Cymru ei ‘Brentisiaethau Cynhwysol: Cynllun Gweithredu Anabledd ar gyfer Prentisiaethau’.
- Yn 2017, lansiodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth genedlaethol Ffyniant i Bawb, sy’n cynnwys sgiliau a chyflogadwyedd fel blaenoriaeth. Dilynodd cynllun cyflogadwyedd a chynllun gweithredu economaidd yn 2018 i daclo diweithdra ac anweithgarwch economaidd.
- Yn 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth pum mlynedd Symud Cymru Ymlaen, yn cynnwys cynlluniau i ddelio â bylchau cyflogaeth a chynnig lefelau uwch o ofal plant am ddim i rieni sy’n gweithio na gweddill Prydain.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 30/09/2021