Mynediad at gyflogaeth – asesiad Llywodraeth Cymru
Elfen o gynnydd
Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol ac mae tystiolaeth o gynnydd cynaliadwy cymedrol o ran mwynhau hawliau dynol yn gysylltiedig i'r mater hwn. Fodd bynnag, ar rai o’r hawliau hyn, neu i rai grwpiau, ni chafwyd cynnydd cymharol.
Mae cyflogaeth yn bennaf yn fater a gadwyd yn ôl, sy’n cyfyngu ar y camau y gall Llywodraeth Cymru gymryd. Cynyddodd y gyfradd cyflogaeth yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf. Er bod y gyfradd cyflogaeth wedi gostwng yn 2020 oherwydd y pandemig coronafeirws (COVID-19), ers hynny mae wedi dychwelyd i’r lefelau cyn y pandemig. Cafwyd cynnydd ar gyflawni prentisiaethau ac ymroddiadau penodol dan y strategaeth ‘Ffyniant i Bawb’. Fodd bynnag, mae mynediad anghyfartal i gyflogaeth a phrentisiaethau yn parhau ar draws grwpiau nodweddion gwarchodedig, ac nid yw polisïau Llywodraeth Cymru yn dynodi faint fydd yn delio ag anghydraddoldeb o’r fath.
- Y gyfradd cyflogaeth ar gyfer pobl 16 i 64 oed yng Nghymru yn Chwefror i Ebrill 2021 oedd 73.9% – cynnydd o 2.5% ers 2016 – ond mae’r gyfradd cyflogaeth cyffredinol yn dal i fod yn is yng Nghymru nag yn y Deyrnas Unedig yn gyffredinol. Dengys tystiolaeth i’r gyfradd cyflogaeth ostwng yn 2020 ond ers hynny mae wedi dychwelyd i’r lefelau cyn y pandemig.
- Rhwng 2016 a 2020, cynyddodd cyfradd cyflogaeth dynion o 74.4% i 75%. Ar gyfer merched, fe gododd o 68.1% i 70.7%. Roedd y bwlch rhwng cyfraddau cyflogaeth dynion a merched yn 4.3% yn 2020, gan gulhau o 6.3% yn 2016.
- Roedd y gyfradd cyflogaeth ar gyfer pobl anabl yn 47.8% yn 2020, o gymharu ag 80.2% ar gyfer pobl nad ydynt yn anabl. Yn 2016 roedd yr ystadegau cymharol yn 44% a 78.6%. Felly mae’r bwlch cyflogaeth anabledd wedi culhau rhywfaint yn y cyfnod 2016–2020, o 34.6% i 32.4%.
- Mae mynediad at gyflogaeth ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru wedi cynyddu yn y blynyddoedd diweddar, gyda’r gyfradd diweithdra ymysg rhai 16–24 oed yn gostwng o 12.7% yn 2016 i 10.9% yn 2020. Ond mae’r gyfradd diweithdra ar gyfer pobl ifanc 16–24 oed yn dal i fod yn sylweddol uwch na’r gyfradd diweithdra ar gyfer y boblogaeth dros 16 oed (3.7% yn 2020). Mae pwyllgor Seneddol wedi mynegi pryderon ynghylch y posibiliad nad yw diweithdra ieuenctid yn weladwy mewn data swyddogol.
- Mae argaeledd gofal plant yn dal i fod yn rhwystr i gyflogaeth yng Nghymru. Yn 2021, argymhellodd gwerthusiad o gynnig Llywodraeth Cymru i ariannu gofal plant ar gyfer rhai rhieni ymchwil pellach i faint mae’n annog neu’n galluogi rhieni di-waith i gael mynediad at gyflogaeth.
- Yn Rhagfyr 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi cyrraedd ei tharged o greu 100,000 o brentisiaethau yn ystod 2016–2021. O’r rhai’n cychwyn prentisiaethau, roedd 60% yn fenywaidd, tra bod 57% yn 25 oed neu hŷn. Fodd bynnag, mae diffyg targedau i wella amrywiaeth prentisiaethau yn ei gynllun gweithredu – mae gwahanu ar sail rhyw yn parhau, ac mae pobl o leiafrifoedd ethnig a phobl anabl yn dal i fod heb gynrychiolaeth ddigonol.
- Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau cynnydd ar ei ymrwymiadau i wella cyflogadwyedd dan ei strategaeth ‘Ffyniant i Bawb’, yn cynnwys lansio gwasanaeth cyngor cyflogadwyedd newydd ar gyfer Cymru. Fodd bynnag, nid yw ei gynllun cyflogadwyedd a chynllun gweithredu economaidd yn dweud sut fydd anghydraddoldeb yn cael ei daclo.
- Erbyn Mehefin 2021, roedd gwasanaeth cynghori cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru, Cymru’n Gweithio, wedi cefnogi 54,351 o bobl i waith ers ei lansio yn 2019.
- Yn rhan o Ymrwymiad Covid Llywodraeth Cymru, cefnogodd Rhaglenni Cyflogadwyedd Cymunedol 9,000 o bobl. Erbyn Medi 2020, roedd bron i £300 miliwn o’r Gronfa Gwytnwch Economaidd wedi ei ddefnyddio i ddiogelu dros 100,000 o swyddi.