Plismona – asesiad Llywodraeth y DU
Cam yn ôl
Gwelwyd cam cyson neu ddifrifol yn ôl o ran mwynhad hawliau dynol, neu leihad arwyddocaol mewn safonau hawliau dynol neu amddiffyniadau dan y gyfraith neu bolisi
Mae plismona yng Nghymru a Lloegr wedi cyfrannu at gam yn ôl mewn mesurau i ddiogelu hawliau dynol rhai grwpiau. Er bod angen ymateb i droseddau a’u hatal, mae’r defnydd o rym wedi cynyddu, mae technolegau newydd ym maes plismona yn peri risgiau, a gallai Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd arwain at ymyrraeth anghymesur â hawliau dynol. Mae pobl o rai grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn parhau i fod yn fwy tebygol o ddod i gysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol am amrywiaeth o resymau, gan gynnwys lefelau anghymesur o blismona, ac mae tystiolaeth yn dangos cynnydd yn y defnydd cymharol o bwerau stopio a chwilio yn erbyn pobl Dduon o gymharu â phobl Wyn. Noda rhai grwpiau sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig fod ganddynt hyder cyfyngedig yn yr heddlu.
- Yn 2019–20, cynyddodd achosion o stopio a chwilio yr heddlu yng Nghymru a Lloegr 86% o 2016–17. Yn 2019–20, roedd cyfradd yr achosion o stopio a chwilio yn erbyn pobl Dduon bron naw gwaith yn uwch nag yn erbyn pobl Wyn. Mae pobl Dduon bron 40 gwaith yn fwy tebygol na phobl Wyn o gael eu stopio o dan Adran 60 o’r Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus: pwerau stopio a chwilio.
- Cynyddodd gwahaniaethau hiliol yn y defnydd o rym a nodwyd rhwng 2017–18 a 2019–20, ac mae’r heddlu bellach bum gwaith yn fwy tebygol o ddefnyddio grym yn erbyn pobl Dduon na phobl Wyn. Mae pobl Dduon yn cynrychioli 3.3% o’r boblogaeth ond, yn 2019–20, gwnaethant brofi chwarter o dactegau arfau tanio’r heddlu.
- Rhwng mis Mawrth 2017 a mis Mawrth 2020, gwelwyd cynnydd yn y defnydd o ynnau Taser gan yr heddlu a gofnodwyd o 16,913 yn 2017–18 i 32,058 yn 2019–20 yng Nghymru a Lloegr, a chynnydd yn y defnydd o ynnau Taser yn erbyn plant yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
- Yn 2019, cadwyd 7,038 o blant dros nos gan Wasanaeth yr Heddlu Metropolitanaidd, ac roedd 67% o’r plant hyn yn dod o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, yn ôl ymatebion i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth.
- Canfu adolygiad yn 2018 fod dynion ifanc o gefndiroedd Du Affricanaidd a Charibïaidd wedi’u gorgynrychioli’n sylweddol ym Matrics Gangiau Gwasanaeth yr Heddlu Metropolitanaidd a ddefnyddir i nodi aelodau o gangiau yn Llundain ac asesu eu risg. Yn 2018, canfu Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth fod y Matrics Gangiau wedi arwain at dorri cyfreithiau diogelu data. Mae camau gweithredu yn mynd rhagddynt i ddiwygio’r Matrics Gangiau.
- Mae technolegau newydd ym maes plismona, megis technoleg adnabod wynebau awtomataidd, yn peri pryderon ynghylch hawliau dynol, gan gynnwys y ffaith y gallant gopïo a chwyddo patrymau gwahaniaethol.
- Noda rhai grwpiau sydd â nodweddion gwarchodedig nad oes ganddynt lawer o hyder yn yr heddlu ac nad ydynt yn fodlon ar eu rhyngweithiadau â’r heddlu, gan gynnwys pobl Dduon (pobl 16–24 oed a menywod yn benodol), Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a phobl ddeurywiol, hoyw neu lesbiaidd.
- Mae ffigurau o 2020 yn dangos bod pobl Dduon ac Asiaidd yn parhau i gael eu tangynrychioli yn yr heddlu, yn enwedig mewn uwch-rolau.
- Mae data a gwaith dadansoddi yn dangos bod camau’r heddlu i orfodi cyfyngiadau’r coronafeirws wedi cael effaith anghymesur ar leiafrifoedd ethnig.
- Mae pryderon ynghylch Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2021 yn cynnwys y ffaith bod y cynnig i droseddoli gwersylloedd diawdurdod yn peri risgiau sylweddol i ffordd Sipsiwn, Roma a Theithwyr o fyw, a’r ffaith y byddai ehangu pwerau i blismona protestiadau heddychlon yn anghyson â’r hawl i ryddid mynegiant a’r hawl i ymgynnull.
- Mae’n rhaid i’r rhai sy’n awdurdodi gweithgarwch troseddol o dan Ddeddf Ffynonellau Cuddwybodaeth Ddynol (Ymddygiad Troseddol) 2021 ystyried gofynion y Ddeddf Hawliau Dynol. Fodd bynnag, nid yw troseddau difrifol wedi’u heithrio’n benodol o Ddeddf 2021, gan arwain at bryderon ynghylch ei defnydd a’i threfniadau goruchwylio a chraffu.