Plismona – asesiad Llywodraeth y DU

Asesiad cynnydd

Cam yn ôl

Gwelwyd cam cyson neu ddifrifol yn ôl o ran mwynhad hawliau dynol, neu leihad arwyddocaol mewn safonau hawliau dynol neu amddiffyniadau dan y gyfraith neu bolisi

Mae plismona yng Nghymru a Lloegr wedi cyfrannu at gam yn ôl mewn mesurau i ddiogelu hawliau dynol rhai grwpiau. Er bod angen ymateb i droseddau a’u hatal, mae’r defnydd o rym wedi cynyddu, mae technolegau newydd ym maes plismona yn peri risgiau, a gallai Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd arwain at ymyrraeth anghymesur â hawliau dynol.  Mae pobl o rai grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn parhau i fod yn fwy tebygol o ddod i gysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol am amrywiaeth o resymau, gan gynnwys lefelau anghymesur o blismona, ac mae tystiolaeth yn dangos cynnydd yn y defnydd cymharol o bwerau stopio a chwilio yn erbyn pobl Dduon o gymharu â phobl Wyn. Noda rhai grwpiau sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig fod ganddynt hyder cyfyngedig yn yr heddlu.

Darllenwch fwy am gamau Llywodraeth y DU ar plismona.

Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 12/07/2021